Amgylchedd hanesyddol - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddisodli y model blaenorol o gymhwysedd deddfwriaethol (nad oedd mater o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad odano oni bai ei fod wedi'i gynnwys yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) gan y model cadw pwerau. O dan y model hwn, mae popeth wedi'i ddatganoli i'r Senedd oni bai ei fod wedi'i gadw'n ôl yn benodol (oherwydd ei fod yn ymwneud â mater a osodwyd yn Atodlen 7A neu'n torri unrhyw un o'r cyfyngiadau cyffredinol yn Atodlen 7B).

O dan y model cadw pwerau newydd, nid yw'r materion canlynol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd:

  • darlledu a chyfryngau eraill 
  • y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig
  • hawliau benthyg i'r cyhoedd
  • indemniadau'r llywodraeth ar gyfer gwrthrychau ar fenthyg
  • taliadau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn perthynas ag eiddo a dderbyniwyd i dalu treth a gwaredu eiddo o'r fath 
  • diogelwch meysydd chwaraeon

Mae pob mater arall o fewn cymhwysedd y Senedd. Yn unol â hynny, mae gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol o hyd mewn perthynas â ‘henebion hynafol ac adeiladau hanesyddol’. Mae’r cymhwysedd deddfwriaethol hwn yn cynnwys “gweddillion archaeolegol, henebion hynafol, adeiladau a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol, a llongddrylliadau hanesyddol”.

Fe all 'henebion hynafol' fod yn henebion hynny sydd o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol. Gallant gynnwys adeiladau, adeileddau, gweithfeydd neu gloddiadau (neu weddillion pethau o'r fath), cerbydau, cychod neu longau, awyrennau, neu adeileddau symudol eraill (neu eu gweddillion) neu unrhyw beth, neu grŵp o bethau sydd yn dystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol).  

Mae craidd y gyfraith yn y maes hwn i'w weld mewn deddfwriaeth sylfaenol (neu ‘statudau’) a wnaed naill ai gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.

Y prif Ddeddfau sy'n berthnasol mewn perthynas â'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ar hyn o bryd yw fel a ganlyn:

Mae'r Deddfau hyn yn rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru ddynodi henebion sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, ardaloedd o bwysigrwydd archaeolegol, ac adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae'r Deddfau hefyd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd o bwysigrwydd archaeolegol ac ardaloedd cadwraeth. Mae dynodiad yn rhoi rheolaethau ar waith a wneir i asedau neu ardaloedd hanesyddol dynodedig ac yn rhoi gwahanol bwerau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn eu diogelu.

Mae Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 yn rhoi pwerau tebyg i Weinidogion Cymru ddynodi'r ardaloedd o gwmpas safleoedd llongddrylliadau hanesyddol yn y môr sy'n gyfagos â Chymru.

Gwnaed nifer fawr o is-deddfwriaethau o dan y Deddfau (megis gorchmynion, rheoliadau a chynlluniau). Cyn datganoli pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, gwnaed is-ddeddfwriaeth naill ai ar sail Cymru a Lloegr neu ar wahân i Gymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae nifer o'r offerynnau hyn o’r cyfnod cyn datganoli yn parhau mewn grym. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999 (O.S. 1999/672) ac roedd hyn yn cynnwys nifer o'r swyddogaethau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y statudau hynny a oedd yn bodoli ar yr adeg honno. O hynny ymlaen, cafodd y pwerau a drosglwyddwyd i wneud is-ddeddfwriaeth i Gymru eu gweithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol tan 2007, pan drosglwyddwyd ymhellach y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru wrth i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym.

Yn ogystal â'r Deddfau a'r is-ddeddfwriaeth, ceir polisi, cyngor ac arweiniad yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol. Dyma’r prif ddogfennau:

Yn ogystal â deddfwriaeth a chanllawiau domestig, ceir y confensiynau rhyngwladol canlynol: