Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Moderneiddiwyd y fframwaith cyfreithiol cyfredol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y Mesur).

Mae'r Mesur yn cynnwys darpariaeth am statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg, sydd wedi disodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac, ymysg pethau eraill, rhaid iddo ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Mae panel cynghori yn cefnogi’r Comisiynydd.

Mae'r Mesur yn darparu ar gyfer datblygu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg a fydd yn raddol ddisodli’r system bresennol o gynlluniau iaith Gymraeg a ddaeth i fodolaeth yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (Deddf 1993). Dim ond ar y cyrff a enwir neu sydd wedi eu cynnwys o fewn categori a restrir yn y Mesur y gellir gosod gofyniad i gydymffurfio â safonau. Mae Gweinidogion Cymru yn nodi amrediad y safonau y gallai corff gydymffurfio â nhw o fewn rheoliadau.  Mae'r safonau y mae'n rhaid i gorff gydymffurfio â nhw wedi'u nodi o fewn hysbysiad cydymffurfio corff unigol, a gyhoeddir gan y Comisiynydd. Mae'r hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff gydymffurfio.

Lle y mae gan gorff Cynllun Iaith Gymraeg ar waith o dan Ddeddf 1993, mae'n rhaid iddo barhau i gydymffurfio â'r cynllun hwnnw tan y dyddiad a bennir yn hysbysiad cydymffurfio'r Comisiynydd ar gyfer y safonau.

Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i achosion o dorri safonau a chyflwyno mesurau gorfodi. Mae gan unrhyw gorff sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, neu unrhyw unigolyn sydd wedi'i effeithio gan fethiant i gydymffurfio â’r safonau, yr hawl i apelio yn erbyn rhai o benderfyniadau'r Comisiynydd. Mae gan y cyrff sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau yr hawl hefyd i herio gorfodaeth y dyletswyddau hynny. Gellir herio penderfyniadau'r Comisiynydd yn y pen draw yn Nhribiwnlys y Gymraeg a grëwyd dan y Mesur.

Mae'r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn rhoi cyngor a sylwadau i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u strategaeth iaith Gymraeg.

Gwnaed y Mesur o dan Ran 3 o'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006). Roedd hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â’r materion penodol (ac na allai ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r eithriadau) a nodwyd yn Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Senedd Cymru bellach yn creu Deddfau o dan Ran 4 o GoWA 2006, a’r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Senedd Cymru erbyn hyn yw’r rheiny a nodir yn Atodlen 7A a 7B. Fodd bynnag, mae'r Mesur ac unrhyw orchmynion neu reoliadau (gan gynnwys rheoliadau sy’n dynodi’r safonau) a wnaed o dan y Mesur yn gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn Atodlen 5, gan fod y Mesur wedi ei wneud o dan Ran 3 o GoWA 2006.

Cyhoeddwyd gyntaf
06 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
23 June 2021