Dyfodol cyfraith Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei rhaglen gyntaf erioed i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’r rhaglen yn ymrwymo’r Llywodraeth i gyflwyno Biliau cydgrynhoi a chymryd nifer o gamau technegol eraill i’w gwneud yn haws i ddinasyddion ddod o hyd i’r gyfraith a’i deall. Cydgrynhoi nifer o Ddeddfau sy’n bodoli eisoes (neu eu dwyn ynghyd) i greu un Ddeddf ddwyieithog sydd wedi’i drafftio’n gelfydd yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, a bydd yn gosod y seiliau ar gyfer sefydlu Codau cyfraith Cymru.

Mae'r rhaglen hefyd ar gael ar LLYW.CYMRU ar ffurf HTML.

Adroddiad Blynyddol 2021-22

Cafodd Adroddiad Blynyddol 2021-22 ei osod gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd 2022 ac mae ar gael yma.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
22 Medi 2021
Diweddarwyd diwethaf
08 Tachwedd 2022