Economi a datblygu

Mae gan Weinidogion Cymru amrediad o swyddogaethau a phwerau sy'n eu galluogi i hyrwyddo a datblygu gwaith datblygu economaidd yng Nghymru, gan gynnwys y gallu i hyrwyddo cystadleurwydd Cymru ar lwyfan y byd.

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), gwnaed newidiadau i'r rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael presennol, a ddeilliodd o'r UE o'r blaen. Y sefyllfa bresennol mewn perthynas â chaffael yw bod y rheolau caffael presennol, sef Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, yn parhau i fod yn gymwys (er bod rhai mân ddiwygiadau i adlewyrchu statws newydd y DU y tu allan i'r UE).  

Disodlwyd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE gan gyfundrefn rheoli cymhorthdal. Mae rheolau'r gyfundrefn yn seiliedig ar reolau rheoli cymhorthdal Sefydliad Masnach y Byd (WTO), y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a'r DU (TCA), Protocol Gogledd Iwerddon a Chytundebau Masnach Rydd eraill sydd wedi'u gwneud rhwng gwledydd y DU a gwledydd y tu allan i'r UE. Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn ymgynghori ynghylch a oes angen deddfwriaeth ddomestig bellach i egluro'r rheolau ynghylch rheoli cymorthdaliadau, a bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth bellach yn y maes hwn gan fod rheolaeth cymhorthdal bellach wedi'i chadw i Senedd y DU. 

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, mae'r cyllid a gafodd Cymru unwaith gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd bellach wedi dod i ben, er y bydd prosiectau a gychwynnwyd yn ystod rhaglen 2014-2020 yn parhau i redeg eu cwrs. Dylai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid newydd, ond mae'r manylion yn dal yn aneglur. Fodd bynnag, yr arwyddion cychwynnol yw y bydd y cyllid yn cael ei weinyddu'n ganolog gan Lywodraeth y DU.   

Mae nifer o feysydd o fewn datblygu economaidd sydd wedi eu cadw yn ôl o hyd ac felly mae'r rhain yn faterion nad oes gan Senedd Cymru bŵer i ddeddfu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys polisïau cyllidol ac ariannol (ac eithrio trethi datganoledig), ansolfedd, arferion gwrth-gystadleuol a diogelu defnyddwyr.

Gwnaeth Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017 ddatganoli rhai pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru, yn galluogi cyflwyno Treth Gwarediadau Tirlenwi a Treth Trafodiadau Tir. Yn ogystal, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gynnig cyfraddau treth incwm Cymru, a rhaid i'r rhain gael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru cyn eu rhoi ar waith. 

O dan y pwerau benthyca sydd wedi'u cynnwys yn adran 121 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA), gall Gweinidogion Cymru fenthyg y canlynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol:

  • unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion talu gormodedd dros dro o symiau a dalwyd allan o Gronfa Gyfunol Cymru dros y symiau a dalwyd i mewn i'r Gronfa honno, 
  • unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion darparu cydbwysedd gweithio yng Nghronfa Gyfunol Cymru, ac 
  • unrhyw symiau sydd, yn unol â rheolau a bennir gan y Trysorlys, eu hangen gan Weinidogion Cymru i dalu'r gwariant cyfredol oherwydd diffyg taliadau trethi datganoledig, neu o dreth incwm a godir yn rhinwedd penderfyniad ardrethi i Gymru, yn erbyn derbyniadau a ragwelir.

Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, fenthyg unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion talu gwariant cyfalaf ar ffurf benthyciad neu fondiau.

Cyhoeddwyd gyntaf
05 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
05 Hydref 2021