Gofal a chymorth ar gyfer oedolion a phlant

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) i asesu a diwallu anghenion oedolion a phlant am ofal a chymorth, ac asesu a diwallu anghenion gofalwyr am gymorth, gan gynnwys gofalwyr sy’n oedolion a gofalwyr sy’n blant. 

Mae Rhan 5 o Ddeddf 2014 yn ymwneud â chodi ffioedd ac asesiadau ariannol mewn perthynas â gwasanaethau sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol o dan Ddeddf 2014.  

O dan reoliadau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 2014, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ddarparu taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn, diwallu anghenion gofal a chymorth plentyn a diwallu anghenion cymorth gofalwr. 

Mae preswylfa arferol yn gysyniad allweddol wrth benderfynu pa awdurdod lleol sydd â dyletswydd i asesu a diwallu anghenion gofal a/neu gymorth unigolyn o dan Ddeddf 2014.

Asesu a diwallu anghenion

Mae Rhan 3 a Rhan 4 o Ddeddf 2014 yn cynnwys dyletswyddau awdurdod lleol i asesu a diwallu anghenion.

Yn gyffredinol, mae Rhan 3 (asesu anghenion) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth, gan nodi sut i gynnal asesiadau.

Mae Rhan 4 (diwallu anghenion) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae awdurdodau lleol yn gallu neu’n gorfod diwallu anghenion am ofal a chymorth neu anghenion gofalwyr am gymorth, a sut i ddiwallu anghenion.

Asesu anghenion

Mae Rhan 3 o Ddeddf 2014 yn gosod y gofyniad ar awdurdodau lleol i asesu anghenion unigolion am ofal a/neu gymorth. Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth, ac os felly, beth yw’r anghenion hynny. Mae gan awdurdod lleol gyfrifoldeb i gyflawni’r ddyletswydd os yw’n ymddangos iddo fod gan oedolyn anghenion o’r fath.

Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag asesu a nodi anghenion plentyn am ofal a chymorth. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol asesu a oes gan blentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n ychwanegol at, neu sydd yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, ac os felly, beth yw’r anghenion hynny. Mae gan awdurdod lleol gyfrifoldeb i gyflawni’r ddyletswydd os yw’n ymddangos iddo fod gan blentyn anghenion posibl am y cyfryw ofal a chymorth. Rhagdybir y bydd angen gofal a chymorth ar blentyn anabl sy’n ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion plentyn anabl yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae adran 24 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gwblhau asesiad o anghenion gofalwr am gymorth. Eto, mae gan awdurdod lleol gyfrifoldeb i gyflawni’r ddyletswydd i asesu os yw’n ymddangos iddo fod gan ofalwr anghenion am gymorth.

Ystyr “gofalwr” yn ôl adran 3(4) o Ddeddf 2014 yw person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl (caiff anabledd ei ddiffinio yn adran 3(5) drwy gyfeirio at Ddeddf Cydraddoldeb 2010), yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

Mae rheoliadau yn ymwneud â chynnal asesiadau o anghenion wedi’u gwneud - gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015.

Diwallu anghenion

Mae Rhan 4 o Ddeddf 2014 yn ymdrin â'r gofyniad ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion unigolion am ofal a/neu gymorth. Nid yw Ddeddf 2014 yn gyfarwyddol ynglŷn â sut y gall awdurdodau lleol ddiwallu anghenion oedolion, plant a gofalwyr am ofal a/neu gymorth, ond mae adran 34(1) yn cynnwys enghreifftiau o sut y gellir diwallu anghenion, gan gynnwys drwy drefnu bod rhywun arall heblaw’r awdurdod lleol yn darparu rhywbeth neu drwy ddarparu rhywbeth ei hun. Hefyd, mae adran 34(2) yn cynnwys enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion, gan gynnwys llety, gofal a chymorth gartref neu yn y gymuned a thaliadau (gan gynnwys taliadau uniongyrchol).

Mae adran 32 yn darparu y bydd y ddyletswydd i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth o dan Ran 4 o Ddeddf 2014 yn codi pan benderfynwyd bod yr anghenion yn ateb y meini prawf cymhwysedd a osodir yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015. Hefyd, mae'r ddyletswydd yn berthnasol, hyd yn oed os nad yw'r anghenion yn ateb y meini prawf cymhwysedd, pan benderfynwyd bod angen diwallu'r anghenion, serch hynny, er mwyn gwarchod yr oedolyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod, neu berygl o gamdriniaeth neu esgeulustod, neu i warchod y plentyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, neu niwed arall neu risg o'r cyfryw niwed.

Eithriadau

Ceir rhai eithriadau i bwerau a dyletswyddau’r awdurdod lleol i ddiwallu anghenion o dan Ran 4 o Ddeddf 2014.

Mae adran 46 yn berthnasol i oedolion sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn unol ag ystyr adran 115 o’r Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn os ydynt ond yn seiliedig ar y ffaith fod yr oedolyn yn ddiymgeledd neu oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.

Mae adran 47 o Ddeddf 2014 yn pennu cyfyngiadau ar bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau iechyd. Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu angen person am ofal a chymorth trwy ddarparu gwasanaeth y mae’n rhaid iddo gael ei ddarparu o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (neu ddeddfiadau iechyd penodol eraill). Y man cychwyn yw na chaniateir i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu gwasanaethau iechyd y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd ac eithrio mewn amgylchiadau penodol. Hefyd, mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.

Nid yw’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau iechyd sy’n “gysylltiedig neu’n ategol” at rywbeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i ddiwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 (diwallu anghenion oedolion, plant a gofalwyr am ofal a/neu gymorth) neu at ddarparu gwasanaethau eraill o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol). Dan rai amgylchiadau, gall awdurdodau lleol ganiatáu i staff sydd â hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth briodol gyflawni rhai tasgau iechyd penodedig wrth ddarparu gofal cymdeithasol. Un enghraifft o hyn yw darparu cymorth i roi rhai mathau o feddyginiaeth. Hyd yn oed os oes gan awdurdod lleol y pŵer i ddarparu gwasanaethau iechyd, sy'n achlysurol neu'n ategol i rywbeth arall a wneir, nid yw’n cael diwallu anghenion neu ddarparu gwasanaethau ataliol drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.

Nid yw’r gwaharddiad hwn rhag i awdurdod lleol ddarparu gofal nyrsio yn ei atal rhag trefnu darparu gofal nyrsio a llety mewn cartref nyrsio, ar yr amod bod corff y GIG perthnasol wedi cydsynio i hynny (nodir y corff perthnasol yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015), neu, os yw'r achos yn un brys, mae'r trefniadau a wneir yn rhai dros dro, a cheir cydsyniad cyn gynted â phosibl. Mae'r Rheoliadau hynny hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer datrys anghydfodau rhwng awdurdod lleol a chorff y GIG ynglŷn ag a yw'n ofynnol ai peidio darparu unrhyw wasanaethau iechyd o dan ddeddfiad iechyd. Mae adran 48 o Ddeddf 2014 yn darparu ar gyfer cyfyngiadau eraill ar sut y gall awdurdodau lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth neu ddarparu gwasanaethau ataliol. Yn benodol, ni chaiff awdurdod lleol wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf Tai 2014”). Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy ddarparu llety os yw’n ofynnol iddo (neu os yw’n ofynnol i awdurdod lleol arall) ddarparu llety o dan ei ddyletswyddau tuag at bobl ddigartref o dan Ddeddf Tai 2014. Nid yw hyn yn atal awdurdodau lleol rhag darparu mwy o wasanaethau penodol (fel addasu tai), neu rhag cydweithio ag awdurdodau tai.

Cyfyngiadau

Mae adran 34 o Ddeddf 2014 yn nodi bod gwneud taliadau yn un o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion unigolyn am ofal a chymorth, gan gynnwys taliadau uniongyrchol. Mae adran 49 yn gosod terfynau ar yr amgylchiadau y caiff awdurdod lleol wneud taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, ond mae'n darparu y caniateir taliadau mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried anghenion y person yn rhai brys ac na fyddai'n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall neu wrth gontractio am ddarpariaeth gwasanaethau. Gall rheoliadau bennu amgylchiadau eraill lle mae modd gwneud taliadau.

Hefyd, mae adran 49 yn pennu cyfyngiadau ar y graddau y gall taliadau gael eu defnyddio i gyflawni dyletswyddau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.

Cynlluniau gofal

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan Ran 4, mae hefyd yn ofynnol iddo baratoi a chynnal cynllun gofal a chymorth (neu gynllun cymorth ar gyfer gofalwyr) mewn perthynas â’r person hwnnw.

Mae’n rhaid adolygu’r cynllun. Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r person y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod wneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu sy’n briodol a diwygio’r cynllun.

Mae rheoliadau wedi cael eu gwneud yn ymwneud â pharatoi cynlluniau o dan Ran 4, cynnwys cynlluniau ac adolygu a diwygio cynlluniau - gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015.

Mae’r gofynion yn ymwneud â chynlluniau gofal a chymorth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal wedi’u cynnwys yn Rhan 6 o Ddeddf 2014 (gweler adran 83 o'r Ddeddf honno a Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion 2015).

Pan fo cais yn cael ei wneud a all fod yn destun gorchymyn gofal mewn perthynas â phlentyn, mae adran 31A o’r Ddeddf Plant 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol baratoi cynllun (y cyfeirir ato fel “cynllun gofal adran 31A” weithiau) ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol.

Hygludedd gofal a chymorth

Mae adran 56 o Ddeddf 2014 yn darparu ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd pan fo person sydd ag anghenion gofal a chymorth y mae’n ofynnol i awdurdod lleol eu diwallu yn symud o ardal un awdurdod lleol i ardal un arall.

Pan fydd yr awdurdod lleol (yr 'awdurdod anfon') sydd â dyletswydd i ddiwallu anghenion y person yn cael gwybod bod y person yn bwriadu symud i ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru, ac mae'n fodlon bod y symudiad yn debygol o ddigwydd, mae’n rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall (yr ‘awdurdod derbyn’) am fwriad y person i symud. Hefyd, mae’n rhaid iddo gyflwyno copi o gynllun gofal a chymorth y person i’r awdurdod derbyn.

Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod anfon ddarparu unrhyw wybodaeth arall am y person, ynghyd â gwybodaeth am ofalwr y person, os oes ganddo ofalwr y mae’r awdurdod derbyn yn gofyn amdani (er enghraifft, copi o gynllun cymorth y gofalwr).

Pan fo’r awdurdod derbyn wedi’i fodloni bod y person yn symud i’w ardal, mae’n rhaid iddo hysbysu’r awdurdod anfon am hyn a darparu gwybodaeth briodol i’r person (ac i’w ofalwr os oes ganddo un). Os mai plentyn yw’r person, mae’n rhaid i’r awdurdod derbyn ddarparu gwybodaeth briodol i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Mae’n rhaid i’r awdurdod derbyn asesu’r person sy'n symud i mewn i'w ardal, gan roi sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion y person am ofal a chymorth sy’n deillio o’r symud. Hefyd, mae’n rhaid iddo roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth sydd wedi’i gyflwyno gan yr awdurdod anfon.
Os nad yw’r awdurdod derbyn wedi cwblhau asesiad ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, neu os nad yw eisoes wedi cynnal unrhyw gamau eraill y mae angen eu cymryd, mae’n rhaid iddo ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth yn unol â’r cynllun a luniwyd gan yr ‘awdurdod anfon’. Rhaid iddo wneud hynny nes ei fod yn cwblhau ei asesiad ei hun ac yn rhoi unrhyw gamau gofynnol eraill ar waith.

Codau Ymarfer

Cyhoeddwyd Codau Ymarfer o dan adran 145 o Ddeddf 2014 ar ymarfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ran 3 (Asesu) a Rhan 4 (Diwallu anghenion) y Ddeddf honno.

Gosod ffioedd a asesiadau ariannol

Mae Rhan 5 y Ddeddf 2014 yn ymwneud â gosod ffioedd ac asesiadau ariannol mewn perthynas â gwasanaethau sydd wedi’u darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf.  

Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu gynhorthwy. Gall ffi o’r fath ond cael ei chodi ar gyfer y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei hysgwyddo wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn berthnasol iddynt, er bod yr awdurdod yn gallu adennill ffi ychwanegol (cyfeirir ati fel “ffi broceriaeth” yn aml) ar gyfer trefnu i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer oedolyn y mae ei adnoddau ariannol yn uwch na’r terfyn ariannol (cyfeirir at oedolyn o’r fath fel “hunangyllidwr” yn aml) ond sydd, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion. 

Pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu ar gyfer oedolyn (naill ai i ddiwallu anghenion yr oedolyn ei hun neu i ddiwallu anghenion gofalwr yr oedolyn), gellir codi’r ffi ar yr oedolyn hwnnw.  

Pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu ar gyfer plentyn (naill ai i ddiwallu anghenion y plentyn ei hun neu anghenion gofalwr y plentyn), gellir codi’r ffi ar unrhyw oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Pan fo anghenion plentyn yn cael eu diwallu drwy ddarpariaeth ar gyfer oedolyn, gellir codi’r ffi ar yr oedolyn hwnnw.

Pan fo’r ffi yn ymwneud â chymorth sydd wedi’i ddarparu ar gyfer gofalwr, gellir codi ffi ar ofalwr sy’n oedolyn, neu yn achos gofalwr sy’n blentyn, ar unrhyw oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn â sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu pwerau i godi ffi am wasanaethau gofal cymdeithasol. Hefyd, gall rheoliadau ddatgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi, ac yn hytrach gallant ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gofal a chymorth neu gynhorthwy am ddim.

Gweler Rhan 2 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.

Asesiadau ariannol

Mae’n rhaid i awdurdod lleol gwblhau asesiad ariannol o adnoddau person os yw wedi dod i’r casgliad y bydd yn diwallu anghenion y person am ofal a chynhorthwy  neu am gymorth.

Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â sut y bydd awdurdod  lleol yn cwblhau asesiadau ariannol. Mae’n rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer cyfrifo incwm a chyfalaf person cymwys. Hefyd, gallant ddarparu ar gyfer i ba raddau y bydd y naill neu’r llall yn cael eu hystyried neu eu diystyru wrth gyfrifo’r ffioedd sydd i’w gosod, o dan ba amgylchiadau y pennir bod gan berson adnoddau ariannol sy’n uwch na throthwy penodedig, ac o dan ba amgylchiadau y bydd angen/angen posibl cwblhau asesiad ariannol newydd.

Hefyd, mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i wneud rheoliadau sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y caiff y ddyletswydd i gwblhau asesiad ariannol ei datgymhwyso.

Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015..

Dyfarniadau ynghylch gallu person i dalu ffi

Mae’n rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu, ar sail yr asesiad ariannol a gwblhawyd, a yw’n rhesymol ymarferol i berson dalu’r ffi safonol ar gyfer y gwasanaeth, ac os nad yw’n ymarferol resymol, faint y mae’n ymarferol resymol i’r person ei dalu (os o gwbl). 

Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynglŷn â sut i ddyfarnu’r gallu i dalu ffi am ofal a chymorth neu am gymorth.

Gweler Rhan 2 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

Mae’n rhaid i awdurdod lleol roi effaith i unrhyw ddyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffi.

Cytundebau ar daliadau gohiriedig

Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn ag o dan ba amgylchiadau y gall person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol, neu y mae ei anghenion yn mynd i gael eu diwallu, ymrwymo i drefniadau â’r awdurdod lleol hwnnw i ohirio unrhyw ffioedd a gaiff eu gosod ar y person ar gyfer darparu’r cyfryw wasanaethau. “Cytundeb ar daliadau gohiriedig” yw’r term am drefniant sy’n cael ei wneud o dan yr adran hon. 

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015 yn cynnwys y llog y gellir ei godi a hyd y cytundeb ar daliadau gohiriedig.

Gosod ffi am wasanaethau ataliol ac am gynhorthwy

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn â gallu awdurdod lleol i osod ffi am ddarparu gwasanaethau ataliol a chynhorthwy, ond ni all y cyfryw reoliadau osod ffi ar blentyn -

gweler Rhan 3 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.

Adolygiadau yn ymwneud â gosod ffioedd

Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â rhwymedigaeth awdurdod lleol i gynnal adolygiad o benderfyniad yn ymwneud â’r ffioedd a osodwyd, dyfarniad ynglŷn â gallu person i dalu ffi neu benderfyniadau’n ymwneud ag atebolrwydd person am wneud taliad lle mae asedau wedi’u trosglwyddo er mwyn osgoi ffioedd.

Hefyd, gall y cyfryw reoliadau gynnwys darpariaeth i nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn, yn ogystal â phwy sy’n gallu gofyn am yr adolygiad a’r cyfnod amser a ganiateir i wneud cais am adolygiad.

Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015.

Taliadau uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn symiau ariannol gan awdurdodau lleol i unigolion, neu eu cynrychiolwyr, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth; neu yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth.

Mae taliadau uniongyrchol yn disodli gofal a chymorth sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol, neu eu comisiynu, gan awdurdod lleol. Gallant ddiwallu holl anghenion gofal a chymorth person, neu rai ohonynt.

O dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 52 o Ddeddf 2014, mae gan awdurdodau lleol bwerau i wneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn, diwallu anghenion gofal a chymorth plentyn a diwallu anghenion cymorth gofalwr.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn

Mae’n rhaid i oedolyn â galluedd gydsynio i dderbyn taliadau yn hytrach na gwasanaethau. Os nad oes gan y person alluedd, mae modd iddo gydsynio i dderbyn taliadau uniongyrchol mewn sawl ffordd. Os oes person wedi’i awdurdodi o dan y Deddf Galluedd Meddyliol 2005, gall y person hwnnw gydsynio, fel derbynnydd y taliadau, neu gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud i berson arall, sy’n gorfod cydsynio hefyd. Os nad oes neb wedi’i awdurdodi o dan Ddeddf 2005, gall person sy’n fodlon derbyn y taliadau gydsynio, cyn belled â bod amodau perthnasol eraill yr adran hon yn cael eu bodloni.

O safbwynt oedolyn sydd â galluedd neu heb alluedd, gellir gwneud taliadau os na all y sawl sy’n derbyn y taliad reoli’r taliad ei hun ond ei fod yn gallu gwneud hynny drwy dderbyn cymorth sydd ar gael. Yn y naill achos a’r llall, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion gofal yr oedolyn. Hefyd, os nad oes gan yr oedolyn alluedd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun y bydd y sawl sy’n derbyn y taliad yn gweithredu er budd pennaf yr oedolyn.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn

Gellir gwneud taliadau i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu i blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Mae’n rhaid i’r person sy’n derbyn y taliadau gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i oedolyn neu blentyn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gredu bod gan y person a fydd yn derbyn y taliadau’r galluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r person yn blentyn o dan 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gan y person ddealltwriaeth ddigonol i wneud dewis deallus ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn, y caiff llesiant y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud a bod y person a fydd yn derbyn y taliadau yn gallu eu rheoli naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr

Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr. Mae’n rhaid i’r taliadau uniongyrchol gael eu gwneud i’r gofalwr ei hun, a rhaid iddo gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r gofalwr yn oedolyn, neu’n blentyn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gredu bod ganddo’r galluedd i gydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r gofalwr yn blentyn o dan 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud dewis deallus ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y gofalwr a bod y gofalwr yn gallu rheoli’r taliadau naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth. 

Preswylfa arferol

Mae preswylfa arferol yn gysyniad allweddol wrth benderfynu pa awdurdod lleol sydd â dyletswydd i asesu a diwallu anghenion gofal a/neu gymorth unigolyn o dan Ran 3, 4 a 6 o Ddeddf 2014. Penderfynu pa awdurdod lleol sydd â dyletswydd i asesu.

Mewn achosion lle y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, mae adran 19 yn nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol asesu a oes ar yr oedolyn anghenion o’r fath, ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac i unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

Mae adran 21 yn cyflwyno gofynion tebyg mewn perthynas â phlant.

Mewn achosion lle y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, mae adran 24 yn nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol asesu a oes ar y gofalwr anghenion o’r fath (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), ac os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw ofalwr sy’n darparu neu sy’n debygol o ddarparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu i unrhyw oedolyn neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

Penderfynu pa awdurdod lleol sydd â dyletswydd i ddiwallu anghenion

Pan fo anghenion gofal a chymorth oedolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwystra (neu pan fo’r awdurdod lleol yn credu bod angen diwallu’r anghenion hynny er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso), mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu’r anghenion hynny os yw’r oedolyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol neu nad oes gan yr oedolyn breswylfa sefydlog a’i fod o fewn ardal yr awdurdod.
Pan fo anghenion cymorth gofalwr sy’n oedolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, mae adran 40 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu’r anghenion hynny pan fo’r person sy’n derbyn gofal gan y gofalwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu nad oes ganddo breswylfa sefydlog o fewn ardal yr awdurdod, neu os yw’r person sy’n derbyn gofal yn blentyn anabl o fewn ardal yr awdurdod lleol. Mae adran 42 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â diwallu anghenion cymorth gofalwr sy’n blentyn.

Nid yw preswylfa arferol yn un o amodau’r ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn. Yr unig ofyniad o dan adran 37 yw bod y plentyn o fewn ardal yr awdurdod lleol a bod ei anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod angen diwallu ei anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall).

Plant sy’n derbyn gofal – adennill costau gan awdurdod lleol arall

O dan adran 76 o Ddeddf 2014 mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sy’n bodloni meini prawf adran 76(1). Fodd bynnag, pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan yr adran hon i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

Yn ôl adran 194(6), wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru:

  • ysgol neu sefydliad arall
  • man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan y Ddeddf Plant 1989 neu yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid o dan Ran 1 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008
  • llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yng Nghymru (neu awdurdod lleol yn Lloegr).

O ganlyniad i hyn, pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn o dan adran 76 a’i fod yn ceisio adennill y costau o ddarparu’r llety hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol yn yr ardal lle’r oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn, dyfernir man preswylio arferol y plentyn heb ystyried ei fan preswylio ar y pryd, os yw’n un o’r mannau a restrir yn adran 194(6).

Plant sy’n destun gorchmynion gofal – awdurdod dynodedig

I blentyn sy’n derbyn gofal yn destun gorchymyn gofal, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu llety i’r plentyn fydd yr awdurdod a ddynodwyd gan y llys pan gafodd y gorchymyn gofal ei wneud. Yr awdurdod lleol dynodedig yw awdurdod yr ardal lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer neu, os nad yw’r plentyn yn preswylio mewn ardal awdurdod lleol, ardal yr awdurdod lle cododd unrhyw amgylchiadau a arweiniodd at wneud y gorchymyn (gweler adran 31(8) o’r Ddeddf Plant 1989).

Bydd adran 105(6) o’r Ddeddf Plant 1989 yn berthnasol os oes unrhyw gwestiwn ynglŷn â ble roedd plentyn yn preswylio fel arfer at ddibenion penderfynu pa awdurdod yw’r awdurdod lleol dynodedig o dan adran 31(8). Mae adran 105(6) o Ddeddf 1989 yn gwneud darpariaeth debyg i’r hyn a geir yn adran 194(6) o Ddeddf 2014, fel bod preswylfa’r plentyn mewn mannau penodol yn cael ei ddiystyru wrth ddyfarnu preswylfa arferol y plentyn at y diben hwn.

Preswylfa arferol “tybiedig” - oedolion

Mae adran 194(1) yn trafod preswylio arferol oedolion, os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth yn gwneud trefniadau i’r oedolyn fyw mewn llety o fath penodol. Os yw yr oedolyn yn symud i ardal arall, caiff yr oedolyn ei drin, at ddibenion Deddf 2014, fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniadau (ac nid yn yr ardal y mae’n symud iddi).

Mae adran 194(2) yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau yn ymwneud â’r mathau o lety y mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol iddynt. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015 yn nodi y bydd adran 194(1) yn berthnasol i lety cartrefi gofal. Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i oedolion ag anghenion gofal a chymorth sy’n byw mewn llety o’r fath yng Nghymru.

Lleoliadau trawsffiniol

Pan fo trefniadau’n cael eu gwneud i leoli’r oedolyn yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd y darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Ddeddf Gofal 2014 yn berthnasol. Mae canllawiau ar leoliadau trawsffiniol a defnyddio Atodlen 1 wedi’u cynnwys yn Atodiad 2 o'r Canllawiau Ymarfer ar leoliadau trawsffiniol a luniwyd gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE).

Datrys anghydfodau

Mae’r darpariaethau yn Rhan 11 o Ddeddf 2014 ar gyfer datrys anghydfodau yn berthnasol i anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch preswylfa arferol, hygludedd gofal a chymorth a methiant darparwr o dan y Ddeddf. Hefyd, maent yn berthnasol i anghydfodau ynghylch preswylfa arferol o dan adran 117 o’r Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae adran 195 yn gwneud darpariaeth ar gyfer datrys anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch preswylfa arferol, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn am hygludedd gofal a chymorth. Er hyn mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn unig. 

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) 2015 yn nodi’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth ymdrin ag anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth. Mae adran 189(8) (methiant darparwr) yn nodi y bydd unrhyw anghydfod ynghylch cymhwyso adran 189 yn cael ei benderfynu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a nodir yn 195(1). Felly, mae’r rheoliadau yn berthnasol hefyd i anghydfodau ynghylch cydweithredu ac ynghylch y costau a dynnir o dan y ddyletswydd dros dro.

Yn ôl adran 117(4) o’r Deddf Iechyd Meddwl 1983, pan fo anghydfod ynghylch ble roedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion yr adran, a bod yr anghydfod rhwng awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru, mae adran 195 o Ddeddf 2014 yn berthnasol i’r anghydfod yn yr un modd ag y mae’n berthnasol i anghydfod ynghylch ble roedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion Deddf 2014. Os yw'r anghydfod rhwng awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yn Lloegr ac awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru a fydd yn ei ddatrys. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru yn gwneud ac yn cyhoeddi trefniadau ar gyfer penderfynu pa rai ohonynt fydd yn datrys anghydfod o dan adran 117(4)(c).

Mae’r cod ymarfer yn cynnwys canllawiau ar sut i ddyfarnu preswylfa arferol person