Tirweddau gwarchodedig

Defnyddir y term yma i ddisgrifio parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r National Parks & Access to the Countryside Act 1949 yn darparu ar gyfer creu Parciau Cenedlaethol a sefydlu Comisiwn y Parciau Cenedlaethol; mae'n darparu ar gyfer dynodi parciau cenedlaethol ac ar gyfer sefydlu awdurdodau parciau cenedlaethol a’u swyddogaethau (gan gynnwys pwerau i greu is-ddeddfau) yn ogystal â’u perthynas gyda chyfraith cynllunio; yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal a chadw gwarchodfeydd natur; yn gwneud darpariaeth bellach gogyfer â chofnodi, creu, cynnal a chadw a gwella llwybrau cyhoeddus ac er mwyn sicrhau mynediad i dir agored, yn diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â hawliau tramwy ac yn rhoi pwerau pellach er mwyn diogelu a gwella harddwch naturiol.

Hefyd sefydlodd y Ddeddf Gyngor Cefn Gwlad Cymru y trosglwyddwyd ei swyddogaethau bellach i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).  

Mae'r Ddeddf yn nodi sut mae dynodi tir yn Barciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol neu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yng Nghymru, ceir tri Pharc Cenedlaethol:

Mae'r gyfraith sy'n rheoli statws a chyfansoddiad Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i’w gweld yn yr Environment Act 1995 bellach. 

Mae’r gyfraith ar gyfer AHNE i’w chael yn y Countryside and Rights of Way Act 2000, sy’n darparu ar gyfer dynodi ardaloedd (nad ydynt mewn parc cenedlaethol) sydd o harddwch naturiol eithriadol.  Mae’r dynodiad yn sbarduno rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chynlluniau datblygu, ac yn caniatáu creu gorchmynion mynediad a sefydlu byrddau cadwraeth.

Mwy o erthyglau ynghylch Tirweddau gwarchodedig