Cadwraeth ayb anifeiliaid gwyllt a phlanhigion

Y prif ddarn o ddeddfwriaeth ddomestig yn y maes hwn yw’r Wildlife and Countryside Act 1981, sy’n darparu ar gyfer:

  • gwarchod adar, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer dulliau o ladd a gwerthu etc;
  • gwarchod anifeiliaid eraill, darpariaethau am ddulliau o ladd a gwerthu etc anifeiliaid gwyllt;
  • cyflwyno rhywogaethau goresgynnol a chytundebau a gorchmynion i reoli rhywogaethau;
  • gwarchod planhigion gwyllt, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer pigo, dadwreiddio, difetha a gwerthu etc. planhigion gwyllt.


Ar y cyfan mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag anifeiliaid a phlanhigion rhestredig ac mae’r darpariaethau yn aml iawn yn ddarostyngedig i gynlluniau trwyddedu.

Ond mae deddfwriaeth yr UE yn cael effaith fawr ar y gyfraith yn y meysydd hyn hefyd, yn nodedig felly’r Habitats Directive (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC, 21 Mai 1992, ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora naturiol) a’r Birds Directive (Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd a Chyngor Ewrop ar 30 Tachwedd 2009 ar gadwraeth adar gwyllt), sy’n cael eu gweithredu gan Conservation of Habitats and Species Regulations 2010 a Rhan 1 Wildlife and Countryside Act 1981, yn y drefn honno. Mae’r Confensiwn ar Fasnachu Rhyngwladol mewn Rhywogaethau sydd Dan Fygythiad (CITES) hefyd yn cael ei dynnu i mewn i gyfraith yr UE drwy Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 9 Rhagfyr 1996 ar warchod rhywogaethau o ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio eu masnach, ac mae’n uniongyrchol berthnasol yn y DU.  Ceir rhwymedigaethau’r UE hefyd mewn perthynas â ‘rhywogaethau goresgynnol estron’ o anifeiliaid a phlanhigion drwy Reoliad (EU) Rhif 1143/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 22 Hydref 2014 ar atal a rheoli cyflwyniad ac ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol.

Y Gyfarwyddeb Adar (Birds Directive) yw’r darn hynaf o ddeddfwriaeth byd natur yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n creu cynllun gwarchod cynhwysfawr i bob rhywogaeth o adar gwyllt sydd i’w chael yn naturiol yn yr Undeb. Cafodd ei mabwysiadu yn unfrydol ym 1979 mewn ymateb i bryder cynyddol am y dirywiad ym mhoblogaethau adar gwyllt Ewrop o ganlyniad i lygru, colli cynefinoedd a defnydd anghynaliadwy. Mae’n cydnabod bod llawer o adar gwyllt yn rhai mudol o ran natur a bod sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod yn effeithiol yn gofyn am gydweithio rhyngwladol. Mae’r gyfarwyddeb yn gwahardd gweithgarwch sy’n bygwth adar yn uniongyrchol (e.e. lladd neu ddal adar yn fwriadol, dinistrio eu nythod a dwyn eu hwyau) a gweithgarwch cysylltiedig fel masnachu adar byw neu farw, gyda rhai eithriadau. Mae’r gyfarwyddeb yn cydnabod hela fel gweithgarwch cyfreithlon ac yn cynnig system ar gyfer rheoli hela i sicrhau bod yr arfer yn un cynaliadwy. Mae’n hybu gwaith ymchwil fel sail ar gyfer gwarchod, rheoli a defnyddio pob rhywogaeth adar sydd wedi ei chynnwys yn  y gyfarwyddeb.

Ystyrir bod yr Habitats Directive (ar y cyd â’r Birds Directive) yn ffurfio conglfaen polisi cadwraeth natur Ewrop. Fe’i mabwysiadwyd ym 1992 fel ymateb yr EU i Gonfensiwn Berne. Mae wedi ei chreu ar sail dau biler: rhwydwaith Natura 2000 o safleoedd sydd wedi’u gwarchod a’r system lem o warchod rhywogaethau. Ei nod yw gwarchod dros 1.000 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion a thros 220 o’r hyn a elwir yn “mathau o gynefinoedd” (e.e. mathau arbennig o goedwig, dolydd, gwlyptir etc) a restrir yn atodiadau’r gyfarwyddeb. Rhywogaethau a chynefinoedd yw’r rhain yr ystyrir eu bod o ddiddordeb Ewropeaidd, o ddilyn y meini prawf sydd yn y gyfarwyddeb.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn