Rheoli’r risg o lifogydd a gwarchod yr arfordir

Rheoli’r risg o lifogydd

Yn gyffredinol mae’r gyfraith ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd i’w gweld yn y Flood and Water Management Act 2010, ac mae’r pwerau hynny, i raddau helaeth, wedi eu datganoli i Weinidogion Cymru. Mae Deddf 2010 yn darparu ar gyfer strategaeth reoli genedlaethol ar gyfer llifogydd a’r risg o erydu arfordirol yng Nghymru, ac ar gyfer strategaethau lleol i reoli’r risg o lifogydd. Mae hefyd yn darparu ar gyfer pwyllgorau rhanbarthol sy’n ymwneud â’r arfordir a llifogydd. Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) – sydd gerbron y Cynulliad ar hyn  bryd – yn disodli’r pwyllgorau hyn yng Nghymru gyda chorff newydd (Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol).

Cynlluniau Rheoli Traethlin

Nod cynllun i reoli traethlin yw gosod y seiliau ar gyfer creu polisïau gwarchod yr arfordir cynaliadwy o fewn cell arfordirol a gosod amcanion ar gyfer rheoli’r draethlin yn y dyfodol.

Roedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill sy’n ymwneud â rheoli’r arfordir yn gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu Cynlluniau Rheoli Traethlin (CRhT) ar gyfer arfordir Cymru gyfan.

Dyma’r hanfodion y dylech eu gwybod am y Cynlluniau Rheoli Traethlin:

  • Mae’r Cynlluniau yn ddogfennau polisi anstatudol, lefel uchel, ar gyfer cynlluniau i reoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol.
  • Mae’r Cynlluniau yn gwneud asesiad ar raddfa eang o’r risgiau sy’n gysylltiedig ag erydu arfordirol a llifogydd ar yr arfordir ac yn cynnig polisïau i helpu i reoli’r risgiau hyn.
  • Bwriad polisïau rheoli’r Cynlluniau arfaethedig yw rhoi sefydlogrwydd hirdymor (dros y 100 mlynedd nesaf), heb ymrwymo i amddiffyn yr arfordir os nad yw’n amgylcheddol, dechnegol a/neu economaidd hyfyw i wneud hynny.
  • Mae’r Cynlluniau yn cydnabod, fodd bynnag, y gallai’r anghenion hirdymor a’r rhai byrdymor fod yn wahanol. Felly, mae’r Cynlluniau yn rhoi llinell amser ar gyfer newidiadau o ran amcanion, polisïau a rheolaeth; h.y. ‘map’ i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau i wybod pa lwybr i’w ddilyn i symud o’r sefyllfa bresennol tuag at y dyfodol.
  • Cynigir polisïau rheoli ar gyfer pob darn o’r arfordir gan roi ystyriaeth i nifer o wahanol ffactorau fel lleoliad cymunedau arfordirol, yr amddiffynfeydd presennol, gorsafoedd pŵer a chyfleustodau cyhoeddus, cysylltiadau trafnidiaeth, porthladdoedd, cyfleusterau diwydiannol, ardaloedd twristaidd a hamdden, safleoedd cadwraeth a threftadaeth a’r amgylchedd naturiol ehangach. Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth i fentrau cynllunio a gofynion deddfwriaethol eraill.
  • Dyma’r gwahanol bolisïau a gynigir o fewn y Cynlluniau ar gyfer rheoli’r draethlin:

1. Cadw’r llinell: mae hyn yn golygu bod yr amddiffynfeydd presennol yn cael eu cadw, eu disodli gan rai newydd neu eu gwella ar hyd eu haliniad presennol.
2. Gwthio’r llinell: mae hyn yn golygu bod yr amddiffynfeydd newydd yn cael eu codi i gyfeiriad y môr o leoliad yr amddiffynfeydd gwreiddiol.
3. Adlinio dan reolaeth: gadael i’r draethlin symud yn ôl mewn ffordd sydd wedi’i rheoli.
4. Dim ymyrraeth weithredol: golyga hyn y bydd y draethlin yn parhau i esblygu’n naturiol unwaith mae’r amddiffynfeydd presennol yn methu (os oes rhai).

Cwblhawyd y genhedlaeth gyntaf o Gynlluniau ar ddechrau’r 2000au. Mae ail genhedlaeth wedi ei chwblhau’n ddiweddar (Cynlluniau 2), ar ôl adolygiad trylwyr o’r wybodaeth ddiweddaraf oedd ar gael, gan gynnwys canllawiau ar newid hinsawdd, newidiadau mewn deddfwriaeth amgylcheddol a gwell dealltwriaeth o sut mae’r arfordir yn ymddwyn. Mae’n debyg y bydd adolygiad pellach o’r CRhT2 yn cael ei gynnal mewn 5 i 10 mlynedd.

Gwarchod yr arfordir

Yn gyffredinol mae’r gyfraith ar gyfer gwarchod yr arfordir i’w gweld yn y Coast Protection Act 1949, a throsglwyddir swyddogaethau’r Ddeddf honno, ar y cyfan, i Weinidogion Cymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn