Environmental Protection Act 1990

Er bod rhannau ohoni wedi’u diddymu, mae’r Environmental Protection Act 1990 yn parhau’n un o'r statudau amgylcheddol pwysicaf sydd mewn grym yn y Deyrnas Unedig. Mae rhannau sylweddol o'r Ddeddf ar ffurf fframwaith, gyda'r manylion yn cael eu darparu mewn is-ddeddfwriaeth.

1. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith ar gyfer nifer o wahanol feysydd rheoleiddio amgylcheddol - rheoli gwastraff yn bennaf, tir halogedig, niwsans statudol ac organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMOs).

2. Sefydlodd Rhan I fframwaith ar gyfer Rheoli Llygredd mewn modd integredig (IPC) a chyfundrefnau Rheoli Llygredd Aer Awdurdodau Lleol (LAAPC). Y gyfundrefn IPC oedd y gyfundrefn rheoli llygredd gyntaf yn y DU i reoli allyriadau i'r aer, dŵr a thir mewn modd integredig. Mae Rhan I wedi ei diddymu gan y Pollution Prevention and Control Act 1999 (er nad yw'r darpariaethau sy'n ei diddymu wedi'u gweithredu hyd yma) ac mae'r gyfundrefn IPC wedi ei disodli gan gyfundrefn Atal a Rheoli Llygredd Integredig yr Undeb Ewropeaidd (IPPC) a sefydlwyd gan Gyfarwyddeb 96/61 (ac sydd bellach yn cael ei rheoli gan Gyfarwyddeb 2010/75). Rhoddwyd y gyfundrefn IPPC newydd ar waith yn wreiddiol gan y Pollution Prevention and Control (England and Wales) Regulations 2000/1973, ond mae trwyddedu amgylcheddol integredig bellach yn cael ei reoli gan yr Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/675.

3. Mae Rhan II yn ymdrin â gwastraff ar dir ac yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer casglu a gwaredu gwastraff.

4. Mae Rhan IIA yn delio â nodi ac adfer tir halogedig ac fe’i rhoddwyd yn y Ddeddf o dan  adran 57 yr Environment Act 1995.

5. Mae Rhan III yn ymdrin â nodi ac atal niwsansau statudol.

6. Mae Rhan IV (fel y’i diwygiwyd gan y Clean Neighbourhoods and Environment Act 2005) yn ymdrin â sbwriel a phwerau awdurdodau lleol i ddelio ag ef.

7. Roedd Rhan V gynt yn ymdrin â rheoleiddio sylweddau ymbelydrol. Cafodd ei diddymu gan y Radioactive Substances Act 1993 (sydd wedi’i diddymu yng Nghymru a Lloegr gan yr Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/ 675).

8. Mae Rhan VI yn ymdrin â rhyddhau organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMOs).

9. Roedd Rhan VII gynt yn ymdrin â gwarchod natur ym Mhrydain a materion cefn gwlad yng Nghymru. Mewn perthynas â Lloegr, mae wedi cael ei diddymu gan y Natural Environment and Rural Communities Act 2006.  Mewn perthynas â Chymru, mae swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi’u trosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn weithredol ers 1 Ebrill 2013.

10. Mae Rhan VIII yn cynnwys darpariaethau amrywiol sy'n cwmpasu materion megis rheoli cŵn, llosgi sofl a gwariant ar yr amgylchedd.

11. Rhan II – Gwastraff ar Dir: Mae Rhan II yn creu'r fframwaith ar gyfer casglu a gwaredu gwastraff ym Mhrydain. Mae'n un o'r prif fecanweithiau ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb 2008/98 ar wastraff (a adwaenir yn gyffredin fel y "Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff").

12. Mae Adran 30 yn diffinio "waste regulation authorities" (awdurdodau rheoleiddio gwastraff), "waste collection authorities (awdurdodau casglu gwastraff), "waste disposal authorities" (awdurdodau gwaredu gwastraff) a "waste disposal contractors" (contractwyr gwaredu gwastraff). Yr awdurdodau rheoleiddio gwastraff yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru a'r Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban yn yr Alban. Yn gyffredinol, mewn ardaloedd yn Lloegr gyda system dwy haen o lywodraeth leol, y cynghorau dosbarth yw’r awdurdodau casglu gwastraff a chynghorau sir yw’r awdurdodau gwaredu gwastraff. Mewn ardaloedd eraill (e.e. Bwrdeistrefi Llundain ac ardaloedd gyda system llywodraeth leol unedol) yr awdurdod lleol yw'r awdurdod casglu gwastraff a'r awdurdod gwaredu gwastraff, er mewn rhai ardaloedd metropolitan mwy o faint (Llundain, Manceinion a Glannau Mersi) mae yna awdurdodau gwaredu gwastraff ar wahân sy'n cwmpasu nifer o wahanol fwrdeistrefi. Mae cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau casglu gwastraff ac awdurdodau gwaredu gwastraff. Mae cynghorau yn yr Alban hefyd yn awdurdod casglu gwastraff ac yn awdurdodau gwaredu gwastraff.

13. Mae gan awdurdodau casglu gwastraff ddyletswydd i gasglu gwastraff cartref yn eu hardaloedd - adran 45(1)(a). Rhaid iddynt hefyd gasglu gwastraff masnachol os gofynnir iddynt wneud hynny gan feddiannydd y fangre lle y caiff ei gynhyrchu - adran 45(1)(b) - a gallant gasglu gwastraff diwydiannol os gofynnir iddynt wneud hynny gan feddiannydd y fangre lle y caiff ei gynhyrchu, gyda chydsyniad yr awdurdod gwaredu gwastraff - adran 45(2). Rhaid mynd ag unrhyw wastraff a gesglir at yr awdurdod gwaredu gwastraff perthnasol - adran 48(1) - er y gall awdurdod casglu gwastraff wneud ei drefniadau ei hun i ailgylchu gwastraff – adran 48(2) - ar yr amod nad yw’r awdurdod gwaredu gwastraff wedi gwneud ei drefniadau ei hun i ailgylchu gwastraff ac nad yw'n gwrthwynebu bod yr awdurdod casglu gwastraff yn ailgylchu'r gwastraff ei hunan - adran 48(4). Yna rhaid i'r awdurdod gwaredu gwastraff perthnasol drefnu cael gwared ar y gwastraff a gasglwyd yn ei ardal gan yr awdurdodau casglu gwastraff - adran 51(1)(a). Mae'n rhaid i awdurdodau gwaredu gwastraff hefyd drefnu i leoedd gael eu darparu lle gall trigolion yn eu hardaloedd adael eu gwastraff cartref (safleoedd amwynerau dinesgi neu "civic amenity sites") - adran 51(1)(b).

14. Mae’n drosedd o dan adran 33(1) i:
a. ddyddodi gwastraff a reolir, neu’n fwriadol beri neu ganiatáu i wastraff a reolir gael ei dyddodi mewn neu ar unrhyw dir oni bai bod trwydded amgylcheddol mewn grym sy'n awdurdodi'r dyddodi a bod y dyddodi’n unol â'r drwydded;
b. cyflwyno gwastraff a reolir, neu’n fwriadol peri neu ganiatáu i wastraff a reolir gael ei gyflwyno, i unrhyw weithrediad rhestredig (h.y. unrhyw weithrediad a restrir yn yr Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/675) sydd: (i) yn cael ei wneud mewn neu ar unrhyw dir, neu trwy gyfrwng unrhyw offer symudol; a (ii) yn cael ei wneud o dan ac yn unol â thrwydded amgylcheddol; neu
c. drin, cadw neu waredu gwastraff a reolir mewn modd sy'n debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd neu beri niwed i iechyd pobl.

15. Y cosbau uchaf am droseddau o dan adran adran 33(1) yw dirwy ddiderfyn a dwy flynedd o garchar ar gollfarn ddiannod a dirwy ddiderfyn a phum mlynedd o garchar ar gollfarn ar dditiad - adran 33(8).

16. Mae Adran 34 yn creu dyletswydd o ofal ar gyfer unrhyw berson sy'n mewnforio, cynhyrchu, cludo, cadw, trin neu waredu gwastraff a reolir, neu, sydd fel deliwr neu frocer, â rheolaeth dros wastraff o'r fath, er mwyn:
a. cymryd pob cam sy'n gymwys iddo yn rhinwedd y swydd honno ag sy'n rhesymol dan yr amgylchiadau er mwyn atal unrhyw gamwedd gan unrhyw berson arall o adran 33(1);
b. atal unrhyw berson arall rhag torri rheoliad 12 yr Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/675 neu amod trwydded amgylcheddol;
c. atal gwastraff rhag dianc o’i reolaeth neu reolaeth unrhyw berson arall; ac
d. wrth drosglwyddo gwastraff sicrhau bod y trosglwyddiad yn unig i berson awdurdodedig neu i berson at ddibenion cludiant awdurdodedig, ac y trosglwyddir y fath ddisgrifiad ysgrifenedig o'r gwastraff a fydd yn galluogi pobl eraill i osgoi mynd yn groes i’r Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/675 neu dorri un o amodau trwydded amgylcheddol.

17. Nid yw’r ddyletswydd gofal yn adran 34 gan amlaf yn berthnasol i ddeiliaid eiddo domestig.

18. Y gosb uchaf am droseddau o dan adran 34 yw dirwy ddiderfyn, ar gollfarn ddiannod ac ar gollfarn ar dditiad.

19. Mae gan awdurdodau casglu gwastraff y pŵer i wneud gofynion ar gyfer daliedyddion gwastraff ar gyfer gwastraff domestig - a.46 – a gwastraff masnachol neu ddiwydiannol - a.47. O ganlyniad i a.58 o Ddeddf 2015, mae achosion o dorri gofynion o’r fath ar gyfer gwastraff domestig yn Lloegr bellach yn cael eu trafod trwy gosbau ariannol penodedig sifil - aa.46A - 46D. Mae gan bobl yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiadau cosb, ac mae modd adfer unrhyw hysbysiadau heb eu talu fel dyled sifil yn unig. Mae achosion o dorri’r gofynion ar gyfer daliedyddion gwastraff domestig yng Nghymru ac ar gyfer daliedyddion gwastraff masnachol a diwydiannol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trafod o dan system o hysbysiadau cosb benodedig - a.47ZA. Fodd bynnag, nid oes gan bobl yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad cosb benodedig a gyhoeddwyd o dan a.47ZA, felly gall awdurdod casglu gwastraff erlyn pobl am fethu â thalu hysbysiad cosb benodedig a gyhoeddwyd o dan a.47ZA - (a.46(6) ar gyfer Cymru yn unig) ac a.47(6) (ar gyfer Cymru a Lloegr).

20. Lle y mae gwastraff wedi ei ddyddodi yn neu ar dir o fewn ardal awdurdod casglu gwastraff neu awdurdod rheoleiddio gwastraff sy'n torri adran 33(1) neu rheoliad 12 yr Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010/675, gall awdurdod gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y tir yn mynnu ei fod yn symud y gwastraff oddi ar y tir o fewn cyfnod penodol (ond heb fod yn llai na 21 diwrnod) sy'n dechrau gyda chyflwyno'r hysbysiad, a/neu gymryd camau penodol o fewn y cyfnod penodedig gyda'r bwriad o ddileu neu leihau canlyniadau dyddodi'r gwastraff - adran 59(1). Mae yna hawl i apelio i Lys yr Ynadon yn erbyn cyflwyno hysbysiad o'r fath - adran 59(2); rhaid cyflwyno’r fath apêl o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad gan ohirio effaith yr hysbysiad hyd nes ceir canlyniad yr apêl. Os nad oes meddiannydd neu os na ellir dod o hyd i feddiannydd y tir heb i’r awdurdod orfod gwario swm afresymol o arian, gall yr awdurdod gyhoeddi’r hysbysiad ar berchennog y tir - a.59ZA.

21. Rhan IIA – Tir Halogedig: Rhoddwyd Rhan IIA yn y Ddeddf o dan adran 57 yr Environment Act 1995. Mae'n ymdrin â nodi ac adfer tir halogedig. Diffinir "Contaminated land" yn adran 78A(2) fel "any land which appears to the local authority in whose area it is situated to be in such a condition, by reason of substances in, on or under the land, that:
a. significant harm is being caused or there is a significant possibility of such harm being caused; or
b. significant pollution of controlled waters is being caused or there is a significant possibility of such pollution being caused".

22. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i archwilio eu hardaloedd at ddibenion nodi tir halogedig a’u galluogi i benderfynu a yw unrhyw dir o'r fath yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n "special site" (safle arbennig) - adran 78B. Mae’r Contaminated Land (England) Regulations 2006/1380 a Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006/2989 yn rhagnodi pa safleoedd y mae'n ofynnol eu dynodi fel safleoedd arbennig yn Lloegr a Chymru yn y drefn honno. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am adfer safleoedd arbennig yn Lloegr a Chymru a Lloegr yn y drefn honno, er taw cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw adnabod a dynodi pob tir halogedig yn y ddwy awdurdodaeth.

23. Unwaith mae safle wedi ei ddynodi yn dir halogedig, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol (h.y. yr awdurdod lleol ar gyfer unrhyw safleoedd nad ydynt yn safleoedd arbennig ac Asiantaeth yr Amgylchedd/Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw safleoedd arbennig) nodi'r "personau priodol" sy’n gyfrifol am adfer, a chyflwyno hysbysiad adfer iddynt - adran 78E. "Person priodol" yw "unrhyw berson, neu unrhyw rai o'r personau, sydd wedi achosi neu, gan wybod, wedi caniatáu i'r sylweddau, neu i unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno neu oddi tano..." - adran 78F(2).  Fodd bynnag, os na ellir canfod y sawl sydd wedi achosi neu os nad yw’r sawl sydd wedi caniatáu yn hysbys ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, yna y perchennog neu feddiannydd y tir halogedig ar yr adeg dan sylw yw’r person priodol - adran 78F(4). Mae eithrio atebolrwydd personau priodol a dosrannu atebolrwydd rhyngddynt yn cael ei bennu yn unol â'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol - adran 78F(5) ac adran 78F(6).

24. Gall hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i berson priodol gyflawni gwaith mewn perthynas â thir neu ddyfroedd trydydd parti, felly mae adran 78G yn darparu hawliau mynediad i bersonau priodol ac yn darparu hawliau i berchnogion tir sicrhau iawndal oddi wrth y personau priodol sy’n gweithredu’r hawliau mynediad hynny.

25. Mae'n drosedd i beidio â chydymffurfio â hysbysiad adfer - adran 78M. Y gosb fwyaf pan fo'r hysbysiad yn ymwneud ag adeiladau masnachol, diwydiannol neu fusnes yw dirwy ddiderfyn a dirwy ddyddiol o £2,000 am bob diwrnod y mae’r drosedd yn parhau yn dilyn euogfarn. Ym mhob achos arall y gosb uchaf yw dirwy ddiderfyn a dirwy ddyddiol o £500 am bob diwrnod y mae'r drosedd yn parhau wedi’r euogfarn. Os na chydymffurfir â’r hysbysiad adfer, mae gan yr awdurdod gorfodi y pŵer i gyflawni’r gwaith adfer ei hun ac adennill ei gostau oddi wrth y personau priodol perthnasol - adran 78N ac adran 78P. Fodd bynnag, mae gan berson priodol hawl i apelio yn erbyn hysbysiad adfer - adran 78L. Rhaid i apêl gael ei gwneud o fewn 21 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad adfer a’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yng Nghymru.

26.  Rhan III – Niwsans Statudol: Diffinir niwsansau statudol yn adran 79(1) y Ddeddf. Maent yn cynnwys:
a. unrhyw fangre sydd yn y fath gyflwr ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
b. mwg a ollyngir o eiddo fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
c. mygdarth neu nwyon a ollyngir o eiddo fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
d. unrhyw lwch, ager, arogl neu dawchion eraill sy’n codi o fewn adeiladau masnachol, diwydiannol neu fusnes ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
e. unrhyw groniad neu ddyddodion sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
f. unrhyw anifail a gedwir yn y fath le ac yn y fath fodd fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
g. unrhyw drychfilod sy'n dod o'r adeiladau diwydiannol, masnach neu fusnes perthnasol ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
h. golau artiffisial a allyrrir o fangre fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
i. sŵn sy'n dod o fangre fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans;
j. sŵn sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans ac sy'n dod oddi wrth neu wedi’i achosi gan gerbyd, peiriant neu offer mewn stryd; ac
k. unrhyw fater arall y mae unrhyw ddeddf yn ei ddatgan yn niwsans statudol.

27. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i archwilio eu hardaloedd i ganfod niwsans statudol ac i gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i ymchwilio i gwynion am niwsans statudol a wnaed gan drigolion sy'n byw yn eu hardaloedd - adran 79(1). Pan fo awdurdod lleol yn fodlon bod niwsans statudol yn bodoli, neu'n debygol o ddigwydd neu ailddigwydd, yn ei ardal, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad atal yn ei gwneud yn ofynnol i atal y niwsans neu’n ei wahardd neu'n cyfyngu arno rhag iddo ddigwydd neu ailddigwydd; a/neu ei gwneud yn ofynnol cyflawni pa bynnag waith, a chymryd a gamau bynnag a all fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni unrhyw un o'r dibenion hynny - adran 80(1). Rhaid i hysbysiad atal hefyd nodi’r amser neu'r amserau ar gyfer bodloni gofynion yr hysbysiad.

28. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n rhaid i hysbysiad atal gael ei gyflwyno i’r "person responsible for the nuisance" - adran 80(2)(a). Yr eithriadau yw lle mae'r niwsans yn codi yn sgil unrhyw ddiffyg o natur saernïol (ac os felly rhaid i'r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog yr eiddo - adran 80(2)(b)) a lle na ellir dod o hyd i’r person sy'n gyfrifol am y niwsans neu os nad yw'r niwsans wedi digwydd eto (ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog neu feddiannydd y fangre - adran 80(2)(c)). Mae gan unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad atal iddo hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad i Lys yr Ynadon - adran 80(3). Rhaid gwneud unrhyw apêl o'r fath o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau, gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i’r sawl a’i derbyniodd.

29. Mae torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu waharddiad a osodwyd gan hysbysiad atal, heb esgus rhesymol, yn drosedd - adran 80(4). Uchafswm y cosbau yw dirwy ddiderfyn ar adeg y gollfarn a dirwy ddyddiol pellach o £500 am bob diwrnod y mae'r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn - adran 80(5). Os yw'r drosedd wedi ei chyflawni ar safleoedd diwydiannol, masnach neu fusnes, yna bydd y gosb uchaf hefyd yn ddirwy ddiderfyn - adran 80(6), ond mae adran 80(7) yn darparu amddiffyniad bod y "best practicable means" yn cael eu defnyddio i atal, neu i wrthweithio effeithiau, y niwsans. Mae'r amddiffyniad ond ar gael yn gyffredinol lle mae'r niwsans yn codi mewn adeiladau diwydiannol, masnachol neu fusnes - adran 80(8).

30. Yn hytrach na chwyno i'r awdurdod lleol, gall person a dramgwyddir gan fodolaeth niwsans statudol hefyd wneud cwyn gerbron Llys yr Ynadon - adran 82(1). Mae'n rhaid i'r achwynydd roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd i’r diffynnydd (3 diwrnod o rybudd yn achos niwsans sŵn) o'i fwriad i ddwyn achos - adran 82(6) ac adran 82(7). Os bydd y Llys yn fodlon bod y niwsans honedig yn bodoli, neu er ei fod wedi’i atal yn debygol o ddigwydd eto ar yr un safle, rhaid iddo wneud gorchymyn (a elwir yn gyffredin yn "abatement order") yn ei gwneud yn ofynnol i’r diffynnydd atal y niwsans, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, ac i weithredu unrhyw waith angenrheidiol at y diben hwnnw; a/neu wahardd y niwsans rhag digwydd eto, a’i gwneud yn ofynnol bod y diffynnydd, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, yn cyflawni unrhyw waith angenrheidiol i atal hyn rhag digwydd eto - adran 82(2). Gall hefyd ddirwyo'r diffynnydd swm diderfyn. Os bydd y Llys o'r farn bod y niwsans y cwynwyd amdano yn ei gwneud yn fangre anaddas i bobl fyw ynddo, gall wahardd defnyddio’r fangre honno i bobl fyw ynddi nes bod y Llys wedi’i foddhau bod y fangre wedi’i gwneud yn addas at y diben hwnnw - adran 82(3).

31. Mae torri gorchymyn atal heb esgus rhesymol yn drosedd - adran 82(8). Y gosb uchaf yw dirwy ddiderfyn a dirwy ddyddiol bellach o £500 am bob diwrnod y mae'r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn - adran 82(9). O ganlyniad i adran 85(1) Legal Aid, Sentencing and Punishment of Offenders Act 2012 mae mwyafswm y cosbau am dorri gorchymyn atal yr un fath, beth bynnag yw'r math o fangre lle mae'r niwsans yn codi, ond, fel gyda'r drosedd o dorri hysbysiad atal, mae modd amddiffyn yn erbyn erlyniad am dorri gorchymyn atal ar y sail bod y "best practicable means" yn cael eu defnyddio i atal, neu i wrthweithio effeithiau, y niwsans, lle mae'r niwsans yn codi ar safle diwydiannol, masnach neu fusnes - adran 82(9) ac adran 82(10).

32. Lle bo achos yn cael ei ddwyn o dan adran 82, mae gan y Llys nifer o bwerau a dyletswyddau ychwanegol. Yn gyntaf, pan fo person yn euog o dorri gorchymyn atal, gall gyfarwyddo'r awdurdod lleol perthnasol (ar ôl rhoi cyfle i’r awdurdod leisio barn) i wneud unrhyw beth a oedd yn ofynnol i'r person a gollfarnwyd ei wneud gan y gorchymyn atal y mae'r gollfarn yn ymwneud ag ef - adran 82(11). Yn ail, lle y profir bod y niwsans honedig yn bodoli ar ddyddiad gwneud y gŵyn, yna, p’un ai yw’n dal i fodoli ar ddyddiad y gwrandawiad neu'n debygol o ddigwydd eto neu beidio, rhaid i'r Llys orchymyn bod y diffynnydd(ion) yn gwneud yn iawn i'r achwynydd am unrhyw dreuliau a wariwyd yn briodol ganddo yn yr achos - adran 82(12). Yn drydydd, os yw'n ymddangos i'r Llys nad oes modd dod o hyd i’r person sy'n gyfrifol am y niwsans na pherchennog neu feddiannydd y fangre, yna gall gyfarwyddo'r awdurdod lleol perthnasol i wneud unrhyw beth y byddai'r llys wedi ei orchymyn i'r person hwnnw ei wneud ( ar ôl rhoi cyfle i’r awdurdod lleol perthnasol gael gwrandawiad) - adran 82(13).

33. Rhan IV - Sbwriel: Mae Rhan IV y Ddeddf yn cynnwys rheolaethau dros sbwriel ac yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ymdrin ag ef. Heb fanylu’n drwyadl, mae "Litter" yn cael ei ddiffinio i gynnwys bonion sigaréts a daflwyd a gwm cnoi a daflwyd - adran 98(5A). Mae’r cyfrifoldeb am ddelio â sbwriel yn disgyn ar awdurdodau lleol, sy'n cael eu dynodi'n "principal litter authorities" - adran 86(2) (Cymru a Lloegr) ac adran 86(3) (Yr Alban).

34. Mae taflu, gollwng neu fel arall dyddodi sbwriel o fewn ardal prif awdurdod sbwriel yn yr awyr agored yn drosedd - adran 87(1). Mae'r drosedd yn dramgwydd diannod yn unig, y mae'r gosb uchaf yn ddirwy o £2,500 - adran 87(5). Yn hytrach nag erlyn, gall prif awdurdod sbwriel roi hysbysiad cosb benodedig - adran 88(1). Mae'r hysbysiadau cosb benodedig uchaf yn £75 yng Nghymru a Lloegr - - adran 88(6A) ac yn £80 yn yr Alban - adran 88(6).

35. Er bod awdurdodau lleol yn gyffredinol yn gyfrifol am gadw tir yn eu hardaloedd yn rhydd o sbwriel, mae’r cyfrifoldeb am gadw priffyrdd yn glir o sbwriel yn disgyn ar awdurdodau lleol mewn perthynas â phriffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt ac ar yr  Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chefnffyrdd a ffyrdd eraill y mae yntau'n gyfrifol amdanynt - adran 89(1). Yn ogystal, mae'r Goron yn gyfrifol am dir y Goron ac mae ymgymerwyr statudol yn gyfrifol am eu tir hwythau. Mae'r cyfrifoldeb yn ddyletswydd cymwys er mwyn sicrhau y cedwir y tir, cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn glir o sbwriel a gwastraff - adran 89(1).

36. Pan fo unrhyw berson wedi’i dramgwyddo am fod tir neu briffordd wedi’i ddifwyno gan sbwriel neu wastraff, gall y person hwnnw gyflwyno cwyn gerbron Llys yr Ynadon - adran 91(1). Yn achos priffordd, gall unrhyw unigolyn hefyd gwyno gan ddatgan "he is aggrieved by the want of cleanliness" ar y briffordd - adran 91(2). Rhaid dwyn achos yn erbyn y person sydd â'r ddyletswydd i gadw'r tir neu’r briffordd yn glir o sbwriel - adran 91(4) - ac ni all y prif awdurdod sbwriel ddwyn yr achos - adran 91(3). Os yw’r Llys yn fodlon bod y briffordd neu’r tir dan sylw wedi’i ddifwyno gan sbwriel neu wastraff (neu, yn achos priffordd, yn amddifad o lendid) gall y Llys wneud "litter abatement order" sy’n mynnu bod y diffynnydd yn clirio'r sbwriel neu’r gwastraff oddi yno (neu’n glanhau'r briffordd) o fewn amser a bennir yn y gorchymyn - adran 91(6). Mae methu â chydymffurfio â gorchymyn atal sbwriel heb esgus rhesymol yn drosedd. Mae’n drosedd ddiannod yn unig ac uchafswm y gosb yw dirwy o £2,500, gyda dirwy pellach o £125 am bob diwrnod y mae'r tramgwydd yn parhau ar ôl y gollfarn - adran 91(9).

37. Os yw prif awdurdod sbwriel wedi’i fodloni bod unrhyw dir yn ei ardal wedi ei ddifwyno gan sbwriel neu wastraff i’r graddau y mae’n niweidiol i amwynder yr ardal, gall gyflwyno "litter clearing notice” i ddeiliad neu berchennog y tir perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i'r tir gael ei chlirio o sbwriel neu wastraff ac, os bydd y prif awdurdod sbwriel wedi'i fodloni bod y tir yn debygol o gael ei ddifwyno gan sbwriel neu wastraff eto, i gymryd camau rhesymol i atal y tir rhag cael ei ddifwyno yn y fath fodd - adran 92A. Mae hawl i apelio yn erbyn cyflwyno hysbysiad clirio sbwriel; rhaid i unrhyw apêl gael ei gwneud o fewn 21 diwrnod i gyflwyno’r rhybudd - adran 92B. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad clirio sbwriel heb esgus rhesymol yn drosedd - adran 92C. Mae’n drosedd ddiannod yn unig ac uchafswm y gosb yw dirwy o £2,500.

38. Nid oes gan brif awdurdodau sbwriel a'u gweithwyr unrhyw rwymedigaeth i feddianwyr neu berchnogion tir sy'n codi o unrhyw beth sydd wedi’i wneud neu heb ei wneud wrth gyflawni neu yr honnir iddynt wneud wrth gyflawni eu pwerau rheoli sbwriel, oni bai eu bod wedi gweithredu mewn ffordd anonest, wedi methu â ymarfer gofal dyledus a sylw neu wedi torri'r Human Rights Act 1998 - adran 97B. Gall awdurdodau lleol hefyd benderfynu mabwysiadu pwerau mewn perthynas â throlïau siopa a bagiau teithio sydd wedi'u gadael - adran 99(1). Nodir y pwerau hyn yn Atodlen 4 y Ddeddf.

39. Rhan VI - GMOs: Mae Rhan VI y Ddeddf yn gweithredu Cyfarwyddeb 2001/18 a Chyfarwyddeb 2009/41. Diben Rhan VI yw sicrhau bod pob cam priodol yn cael eu cymryd er mwyn osgoi difrod i'r amgylchedd a allai ddeillio wedi i organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) ddianc neu gael eu rhyddhau o reolaeth dynol - adran 106(1). Mae adran 106 hefyd yn diffinio’r termau "organism" a "genetically modified".

40. Dylai unrhyw berson sy'n dymuno mewnforio, caffael, rhyddhau neu farchnata unrhyw GMOs yn gyntaf gwblhau asesiad risg ac, mewn achosion rhagnodedig, roi hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol - adran 108(1). Mae dyletswyddau cyffredinol amrywiol sy'n cael eu gosod ar bersonau sy'n bwriadu mewnforio neu gaffael GMOs, cadw GMOs neu'n bwriadu rhyddhau neu farchnata GMOs - adran 109. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol o'r farn bod yna risg ynghlwm wrth fewnforio, caffael, rhyddhau neu farchnata GMOs neu barhau i gadw GMOs o achosi niwed i'r amgylchedd, mae ganddo'r pŵer i gyflwyno hysbysiad gwahardd - adran 110. Mae angen caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ar gyfer mewnforio, caffael, rhyddhau neu farchnata GMOs - adran 111. Gellir rhoi  caniatâd o'r fath yn ddarostyngedig i amodau, neu ei wrthod. Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniatâd nac yn erbyn amodau a roddwyd ar ganiatâd.

41. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i benodi arolygwyr i orfodi darpariaethau Rhan VI y Ddeddf - adran 114. Mae gan yr arolygwyr hyn bwerau mynediad ac archwilio eang - adran 115. Mae ganddynt hefyd bwerau i gael gwybodaeth gan bersonau - adran 116 - ac i ddelio ag achos os yw’r perygl o niwed i'r amgylchedd sy'n deillio o GMO ar fin digwydd - adran 117.

42. Mae ystod eang o droseddau troseddol o dan Rhan VI, a restrir yn adran 118. Uchafswm y cosbau am rai o'r troseddau hyn yw dirwy ddiderfyn a chwe mis o garchar ar gollfarn ddiannod a dirwy ddiderfyn a phum mlynedd o garchar ar gollfarn ar dditiad. Mewn erlyniadau lle y torrir y dyletswyddau cyffredinol a geir yn adran 109 neu yr honnir bod   amod caniatâd wedi ei thorri, mae'r cyfrifoldeb i brofi wedi ei wyrdroi a rhaid i'r diffynnydd brofi nad oedd unrhyw dechneg gorau na fyddai’n golygu cost ormodol na’r un a ddefnyddiwyd i gydymffurfio â'r ddyletswydd neu fodloni'r amod - adran 119. Mae gan lys collfarnu’r pŵer i orchymyn bod achos trosedd yn cael ei gywiro - adran 120. Yn dilyn collfarn o dan adran 118 mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i drefnu cymryd camau rhesymol i gywiro'r niwed ac i adennill y gost o gymryd y camau hynny oddi wrth unrhyw berson sy’n euog o'r drosedd - adran 121.

43. Rhan VIII - Darpariaethau Amrywiol: Mae Rhan VIII y Ddeddf yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau ar faterion amrywiol, megis:
a. Pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar fewnforio, defnyddio, cyflenwi neu storio sylweddau neu nwyddau niweidiol - adran 140.
b. Pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar fewnforio neu allforio gwastraff - adran 141.
c. Pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar gyfer cael gwybodaeth am sylweddau a allai fod yn beryglus - adran 142.
d. Gofynion ar gyfer ymdrin â chŵn crwydr - adran 149 ac adran 150.
e. Awdurdodi’r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth ariannol i ystod eang o sefydliadau (yn rhyngwladol a domestig) at ddibenion amgylcheddol.

 

Mwy o erthyglau ynghylch Gwastraff

Gweld mwy o erthyglau yn Gwastraff