Cymwysterau

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnig y dylai'r gyfraith yn y maes hwn gael ei diwygio (gweler isod).
Trosglwyddodd adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (DCC 2015) y cyfrifoldeb dros reoleiddio a sicrhau ansawdd cymwysterau o dan Ran 5 o Education Act 1997 oddi wrth Weinidogion Cymru i gorff newydd ei sefydlu a adnabyddir fel Cymwysterau Cymru. Erbyn hyn, Cymwysterau Cymru yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio’r holl gymwysterau academaidd neu alwedigaethol a ddyfernir yng Nghymru, ar wahân i radd sylfaen, gradd gyntaf, neu radd ar lefel uwch. Y bwriad yw cryfhau'r oruchwyliaeth o gymwysterau ac o'r system cymwysterau yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o hyd i adolygu’n gyson bob agwedd ar y cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir neu ysgolion meithrin a gynhelir o dan adran 29 o Education Act 1997. Mae hefyd ganddynt gyfrifoldeb dros adolygu pob agwedd ar arholiadau ac asesiadau ysgolion ac eithrio’r rhain sy'n arwain tuag at y cymwysterau a ddiffinnir yn DCC 2015 (h.y. y rheini sy'n gyfrifoldeb Cymwysterau Cymru).

Mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am effeithiolrwydd y system cymwysterau – ac am hyder y cyhoedd yn y system. Wrth geisio cyflawni hyn, mae DCC 2015 yn nodi cyfres o faterion y mae'n rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw iddynt, ac mae'n rhoi nifer o swyddogaethau i Gymwysterau Cymru, gan gynnwys cydnabod cyrff sy'n dyfarnu cymwysterau (cyrff dyfarnu) a chymeradwyo neu ddynodi cymwysterau. Mae'r Ddeddf yn galluogi Cymwysterau Cymru i weithio gyda Gweinidogion Cymru i flaenoriaethu cymwysterau i'w cymeradwyo yn seiliedig ar eu harwyddocâd i ddysgwyr a chyflogwyr, ac mae’n rhoi'r gallu i Gymwysterau Cymru gyfyngu ar nifer y mathau o gymhwyster blaenoriaeth a allai gael eu cymeradwyo.

Gall Cymwysterau Cymru osod amodau ar gydnabod cyrff dyfarnu a gall osod amodau ar gymeradwyo cymwysterau a ddarperir gan gyrff dyfarnu (gweler Rhan 5 o DCC 2015). Felly, gall reoleiddio'r cyrff dyfarnu a'r cymwysterau a ddarperir ganddynt. Ni fydd cyrff dyfarnu nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cydnabod a osodwyd gan Gymwysterau Cymru yn gallu cael mathau o gymwysterau wedi eu cymeradwyo neu ddynodi ac ni fydd y cymwysterau hynny yn gallu cael eu darparu ar gyrsiau dysgu a ariannir yn gyhoeddus i bobl o dan 19 oed (gweler Rhan 6 o'r Ddeddf).  

Os yw corff dyfarnu naill ai wedi methu neu'n debygol o fethu â chydymffurfio â’i amodau cydnabod fel corff dyfarnu, neu ei fod wedi methu neu'n debygol o fethu â chydymffurfio â'r amodau cymeradwyo sydd ynghlwm â'i gymhwyster, mae gan Gymwysterau Cymru bwerau yn Rhan 7 o'r Ddeddf i naill ai rhoi cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r amodau neu i osod cosbau ariannol.

Mae Rhan 8 o'r Ddeddf yn rhoi nifer o bwerau i Gymwysterau Cymru, gan gynnwys y pŵer i ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'i swyddogaethau neu mewn perthynas â chymwysterau a ddyfernir yng Nghymru. Mae hefyd yn ofynnol iddo adolygu’n gyson ei swyddogaeth yn system cymwysterau Cymru yn ogystal â rôl cyrff dyfarnu. Rhaid iddo hefyd baratoi a chyhoeddi datganiad o'i bolisi mewn cysylltiad â sut y bydd yn arfer swyddogaethau penodol (gweler y rhestr o faterion yn adran 47), fel bod eglurder ynghylch ei ddull o weithio, yn enwedig ei rôl reoleiddio. Wrth gynnal ei weithgareddau rheoliadol, mae hefyd yn ofynnol i Gymwysterau Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylid eu cynnal mewn modd tryloyw, cyfrifol, cymesur a chyson, ac y dylent dargedu achosion lle mae angen camau gweithredu yn unig (adran 54).

Mae'r Atodlenni yn nodi darpariaethau ar gyfer sefydlu ac aelodaeth Cymwysterau Cymru, a throsglwyddo staff o Lywodraeth Cymru i Gymwysterau Cymru, yn gwneud darpariaethau pellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu, ac, yn olaf, yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol (megis y diwygiadau i Ran 5 o Education Act 1997 i ddiddymu pwerau rheoliadol Gweinidogion Cymru).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn