Cyllid a’r gronfa gyfunol

Mae pob awdurdod tân ac achub yn cynnwys nifer o ardaloedd cyngor sir a bwrdeistref sirol. Mae Rhan IV o Atodlen 1 i bob un o’r gorchmynion cyfunol yn darparu’r mecanwaith ar gyfer ariannu awdurdodau tân ac achub. O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cyfansoddol yn talu cyfraniad i’r gronfa gwasanaeth tân gyfunol sy’n cyfateb i’w gyfran o dreuliau’r awdurdod ar gyfer y flwyddyn honno.

Rhaid i bob awdurdod cyfunol, cyn 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn, gyflwyno amcangyfrif o’i dreuliau net ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i bob awdurdod cyfansoddol. Yna, cyn 15 Chwefror rhaid iddynt roi gwybod i bob awdurdod cyfansoddol beth yw’r cyfraniad y mae’n rhaid i’r awdurdod hwnnw ei wneud yn y flwyddyn ariannol nesaf. Costau net awdurdod yw cyfanswm ei wariant ond gan ddidynnu unrhyw incwm sy’n cael ei gredydu i’r gronfa gwasanaeth tân gyfunol ar wahân i’r cyfraniadau a dalwyd gan yr awdurdodau cyfansoddol.
Rhaid i bob awdurdod cyfansoddol ym mhob blwyddyn ariannol dalu cyfraniad i gronfa gwasanaeth tân gyfunol sy’n gyfartal i’w gyfran briodol o dreuliau net yr awdurdod tân ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n rhaid i’r awdurdodau cyfansoddol wneud taliadau interim i’r gronfa gwasanaeth tân, a bydd y symiau, a’r adegau y dylid eu talu fel y cytunwyd ganddo ef a’r awdurdod. Gwneir darpariaeth yn Rhan IV o Atodlen 1 i’r gorchymyn cyfunol sy’n gymwys os nad yw’r awdurdodau yn cytuno faint ddylai taliadau o’r fath fod neu ba mor aml y dylai’r taliadau gael eu gwneud. Os oes anghytundeb ynghylch y gyfran briodol i’w thalu gan awdurdod cyfansoddol, dylid pennu’r swm gan ystyried poblogaeth pob awdurdod cyfansoddol.

Yn 2009 amrywiwyd y tri gorchymyn cyfansawdd i alluogi pob awdurdod tân ac achub i gadw cronfeydd ariannol wrth gefn (gweler Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009 (OS 2009/2849).

Mae’r gorchmynion cyfansawdd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau tân ac achub benodi trysorydd ar gyfer eu cronfa gwasanaethau tân gyfunol. Mae adran 112 o’r Local Government Finance Act 1988 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod tân ac achub i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu ei faterion ariannol yn briodol ac mae’n rhaid i bob awdurdod benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am weinyddu’r materion hynny (y cyfeirir ato fel y ‘prif swyddog cyllid’).

Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn berthnasol i drefniadau cyllid awdurdodau tân ac achub. Maent yn cynnwys Rhan VIII o’r Local Government Finance Act 1988, Rhan 1 o’r Local Government Act 2003 (a’r Rheoliadau a wnaed o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno), Rhan II o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Yn fras, mae’r rhain yn cyfuno i osod gofynion mewn perthynas ag archwiliad, arferion cyfrifyddu ac effeithlonrwydd.

Gall Gweinidogion Cymru, o dan adran 29 o FRSA 2004, ddarparu a chynnal a chadw, neu gyfrannu at ddarparu a chynnal a chadw, unrhyw offer, cyfleusterau a gwasanaethau y credant sy’n briodol ar gyfer hybu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd awdurdodau tân ac achub. Gallant hefyd sefydlu a chynnal unrhyw sefydliad y credant sy’n addas ar gyfer yr un diben. Gellir codi ffioedd am ddefnyddio offer, cyfleusterau a gwasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu unrhyw sefydliad a sefydlir neu a gynhelir ganddo.

Mae awdurdodau tân ac achub yn awdurdodau lleol at ddibenion Rhan 1 o’r Local Government Act 2003 sy’n ymwneud â chyfrifon a chyllid cyfalaf awdurdodau lleol. Maent yn gyrff llywodraeth leol hefyd at ddibenion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ac felly maent yn destun archwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion y Ddeddf honno a’r rheoliadau a wnaed dani.

 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn