Gwella, arolygu ac archwilio

Mae awdurdodau tân ac achub yn “awdurdodau gwella” at ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Fel awdurdodau gwella, rhaid iddynt wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer eu swyddogaethau. Rhaid iddynt osod amcanion hefyd ar gyfer gwella’r ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau a chyhoeddi gwybodaeth am eu gwelliant a’u perfformiad. Mae Mesur 2009 yn rhoi pwerau cydlafurio i awdurdodau gwella hefyd ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried, o bryd i’w gilydd, a fyddai eu pwerau cydlafurio yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau gwella.

O dan adran 8 o Fesur 2009, mae gan Weinidogion Cymru bŵer i bennu dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad, y bydd perfformiad awdurdod gwella yn cael ei fesur yn eu herbyn. Mae dangosyddion perfformiad wedi cael eu gosod (gweler Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015 (OS 2015/604). Mae’r dangosyddion perfformiad yn cynnwys materion fel cyfanswm y tanau yr aed iddynt fesul 10,000 o’r boblogaeth, nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yr aed iddynt fesul 10,000 o’r boblogaeth a chyfanswm y marwolaethau ac anafiadau sy’n deillio o danau fesul 100,000 o’r boblogaeth.

O dan Fesur 2009, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad blynyddol er mwyn penderfynu a yw awdurdod tân ac achub wedi cyflawni ei ddyletswyddau gwella ac wedi gweithredu yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiad hefyd er mwyn pennu a yw’r awdurdod yn debygol, yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, o gydymffurfio â gofynion Mesur 2009 (yn bennaf y ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus).

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad blynyddol (a elwir yn adroddiad gwella blynyddol) ynglŷn â’r archwiliadau a’r asesiadau a gynhaliwyd a gall gynnal arolygiadau arbennig dan rai amgylchiadau.
Mae’n ofynnol i awdurdodau tân ac achub gyhoeddi gwybodaeth am eu perfformiad o dan adran 15 o Fesur 2009. Wrth wneud hynny mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r wybodaeth am welliant maent yn ei chasglu i gymharu eu perfformiad gyda’u perfformiad mewn blynyddoedd blaenorol a, chyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, gydag awdurdodau tân ac achub eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg.

Cyhoeddir canllawiau statudol ar gymhwyso Rhan 1 o Fesur 2009 i Awdurdodau Tân ac Achub gan Weinidogion Cymru.

O dan adran 28 o FRSA 2004, gall Ei Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, benodi arolygwyr at ddiben cael gwybodaeth ynghylch y modd y mae awdurdodau tân ac achub yn cyflawni eu swyddogaethau a materion technegol sy’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny. Mae yna un arolygydd ar gyfer Cymru sy’n cael ei adnabod fel Arolygydd a Chynghorydd Tân ac Achub Cymru (gweler Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Penodi Arolygwyr) (Cymru) 2013 (OS 2013/3155)). Gall arolygwyr cynorthwyol gael eu penodi ar gyfer yr un diben gan Weinidogion Cymru. Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud argymhellion i arolygydd ynghylch sut y dylai gyflawni ei swyddogaethau.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gallu cynnal ymchwiliad i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn