Tribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl

Y Tribiwnlys Haen Gyntaf yw'r corff barnwrol annibynnol sy’n gyfrifol am adolygu cyfreithlondeb penderfynid lle mae cleifion sy'n cael eu cadw’n gaeth o dan y Mental Health Act 1983 yn colli eu rhyddid oherwydd eu hanhwylder meddyliol. Mae'r Tribiwnlys yn ystyried tystiolaeth berthnasol i'r meini prawf statudol a phenderfynu, yn ôl yr hyn sy'n debygol, a yw'r awdurdod cyfrifol wedi sefydlu bod y meini prawf yn cael eu bodloni.

1. Gall Tribiwnlysoedd rhoi cyfarwyddyd i ryddhau unrhyw gleifion lle mae'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, gan gynnwys y rhai a gedwir yn gaeth yn sgil eu derbyn i gael asesiad, eu derbyn i gael triniaeth, neu warcheidiaeth neu o dan Orchymyn Triniaeth Gymunedol (a.66). Gall y Tribiwnlys ryddhau cleifion sy'n destun gorchmynion ysbyty a throsglwyddo cyfarwyddiadau ond nid cleifion wedi’u cyfyngu. Nid yw'r Tribiwnlys yn ymdrin â chleifion a gedwir yn gaeth dan “bwerau caethiwo”  (a.5), rhai wedi’u cadw yn y ddalfa (aa.35-36), gorchmynion ysbyty interim (a.38) neu rhai a gedwir mewn lle diogel am 72 awr (aa.135-136).

2. Mae'r Tribiwnlysoedd ar gyfer Cymru a Lloegr yn wahanol i’w gilydd. Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yw’r Tribiwnlys yng Nghymru o hyd ac fe’i sefydlwyd gan a.65 y Mental Health Act 1983. Sefydlwyd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn Lloegr gan y Tribunals, Courts and Enforcement Act 2007.

Pwy all wneud cais?

3. Gall claf neu berthynas agosaf wneud cais i Dribiwnlys. Ni all claf Gorchymyn Ysbyty wneud cais i'r Tribiwnlys o fewn y 6 mis cyntaf o gael ei  cadw’n gaeth (a.40) (gweler hefyd a.69).

Cyfeiriadau at y Tribiwnlys

4. Rhaid i reolwyr ysbyty atgyfeirio claf at Dribiwnlys o dan amgylchiadau penodol.

5. Yn absenoldeb cais, rhaid i reolwyr yr ysbyty atgyfeirio categorïau penodol o gleifion i'r Tribiwnlys os oes chwe mis wedi mynd heibio ers eu derbyn neu eu trosglwyddo. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys cleifion a gedwir yn gaeth ar gyfer asesiad o dan a.2, ar gyfer triniaeth o dan a.3, fel claf cymunedol Rhn 2 (ar ôl eu cadw’n gaeth o dan a.3), fel claf cymunedol Rhn 3 (ar ôl cael eu cadw o dan orchymyn ysbyty anghyfyngedig). Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i atgyfeirio cleifion hefyd. Mae’n rhaid i reolwyr ysbyty atgyfeirio cleifion cymunedol hefyd os yw eu gorchymyn triniaeth gymunedol yn cael ei ddirymu ac unrhyw gleifion dros 18 oed sydd wedi treulio tair blynedd heb i'r Tribiwnlys ystyried a ddylid eu cadw’n gaeth, ac yn flynyddol ar gyfer y rhai dan 18 oed.

Cleifion gorchymyn cyfyngu

6. Mae Gorchymyn Cyfyngu’n dibynnu ar barhad Gorchymyn Ysbyty er mwyn bodoli. Dim ond yn ystod yr ail 6 mis o gyfnod y Gorchymyn Ysbyty, neu gyfarwyddyd trosglwyddo ac yna’n flynyddol y gall claf sy'n destun Gorchymyn Cyfyngu wneud cais i Dribiwnlys i gael ei ryddhau. Cyfeiriwch at yr erthygl ar orchmynion Cyfyngu am ragor o wybodaeth. Trafodir y pŵer i ryddhau cleifion a gyfyngir isod.

Proses

7. Lle mae cais i Dribiwnlys, rhaid i'r awdurdod cyfrifol (fel arfer yr ysbyty sy’n cadw’r claf yn gaeth) ddarparu adroddiadau clinigol gan y seiciatrydd ymgynghorol cyfrifol a chlinigwyr eraill yn rhoi'r wybodaeth berthnasol a'r rhesymau pam y mae pob un o feini prawf y MHA yn cael ei fodloni. Pan fo claf yn destun gwarcheidiaeth, yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol yw'r Awdurdod Cyfrifol. Mae gan gleifion hawl i gael cymorth cyfreithiol ac arian cyhoeddus gan gynnwys cynrychiolaeth mewn Tribiwnlys. Gall cleifion gyfarwyddo clinigwyr annibynnol yn yr ysbyty i roi barn. Dylai adroddiadau a gaiff eu paratoi ar gyfer y Tribiwnlys gael eu dosbarthu o flaen llaw, fel y gall y claf a'i gynrychiolydd, os oes un, baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Cyfrifoldeb y partïon yw ffeilio dogfennau perthnasol gyda'r Gwasanaeth Tribiwnlys a fydd wedyn yn eu cyflwyno i’r partïon. Yn achos cleifion dan gyfyngiadau dylid cael barn yr Ysgrifennydd Gwladol gan yr Uned Iechyd Meddwl yn yr Adran Cyfiawnder. Dylai'r adroddiadau gael eu diweddaru (a’u ffeilio) os oes cyfnod hir cyn i’r gwrandawiad gael ei restru.

8. Gall tystion mewn Tribiwnlys gael eu croesholi gan aelodau'r Tribiwnlys a'r rhai sy'n cynrychioli'r cleifion a chan yr ysbyty gan gynnwys y Clinigydd Cyfrifol. Nid oes gan yr Awdurdod Cyfrifol gynrychiolaeth gyfreithiol fel arfer ac eithrio mewn achosion arbennig o anodd. Dim ond fel tyst neu fel cynrychiolydd enwebedig yr awdurdod cyfrifol, neu'r ddau, y gall y clinigydd cyfrifol fod yn bresennol yn y gwrandawiad. Mae ganddo’r gallu i alw a chroesholi tystion a gwneud cyflwyniadau. Cyn gwrandawiad, bydd aelod meddygol y Tribiwnlys yn archwilio’r claf. Ar ddechrau gwrandawiad Tribiwnlys, mae’n arferol i amlinelliad o'r hyn a ddywedodd claf wrth yr aelod meddygol gael ei ddarparu i'r partïon.

Presenoldeb mewn gwrandawiadau

9. Fel arfer bydd claf yn bresennol trwy gydol y gwrandawiad ynghyd â chlinigydd cyfrifol y claf. Efallai y bydd angen i'r claf gael ei hebrwng gan nifer o staff. Yn aml caniateir i aelodau o deuluoedd cleifion fod yn bresennol ac fel arfer caiff y tystion arsylwi ar y gwrandawiad cyn ac ar ôl rhoi eu tystiolaeth eu hunain.

Pwerau’r tribiwnlys

Bydd tribiwnlys yn rhoi cyfarwyddyd i ryddhau claf o dan adran 3 os nad yw wedi’i argyhoeddi fel a ganlyn (a.72):

10. Mae’r claf yn dioddef o anhwylder meddyliol o natur neu raddau sy'n cyfiawnhau ei gadw’n gaeth mewn ysbyty ar gyfer asesiad neu driniaeth

11. Mae cadw’r claf yn gaeth yn angenrheidiol ar gyfer iechyd a diogelwch y claf neu dylai dderbyn triniaeth o'r fath er mwyn amddiffyn pobl eraill

12. Mae triniaeth feddygol briodol ar gael ar gyfer y claf

13. Yn achos cais lle mae a.66(1)(g) yn gymwys (os yw'r clinigydd cyfrifol yn rhoi adroddiad i reolwyr sy'n cadarnhau yn ei farn ef y byddai’r claf, o’i ryddhau, yn debygol o ymddwyn mewn modd peryglus iddo’i hun neu eraill - a.25), y byddai’r claf, o’i ryddhau, yn debygol o ymddwyn mewn modd peryglus i eraill neu iddo’i hun.

Ar gyfer cleifion a gedwir yn gaeth o dan a.2 ar gyfer asesiad y meini prawf yw:

14. Mae'r claf yn dioddef o anhwylder meddyliol, neu anhwylder meddyliol o natur neu raddau sy'n cyfiawnhau ei gadw’n gaeth yn yr ysbyty am asesiad am gyfnod cyfyngedig o leiaf

15. Gellir cyfiawnhau cadw’r claf yn gaeth er lles ei iechyd neu ddiogelwch ei hun neu gyda'r bwriad o amddiffyn pobl eraill.

Mewn perthynas â chleifion cymunedol, rhaid i'r Tribiwnlys gyfarwyddo'r rhyddhau os nad yw wedi’i argyhoeddi fel a ganlyn:

16. Mae’r claf yn dioddef o anhwylder meddwl o natur neu raddau sy'n ei gwneud yn briodol iddo dderbyn triniaeth feddygol

17. Mae’n angenrheidiol iddo dderbyn triniaeth o'r fath er mwyn ei iechyd a’i ddiogelwch neu er mwyn amddiffyn pobl eraill

18. Mae’n angenrheidiol i'r clinigwr â chyfrifoldeb allu defnyddio’r pŵer i alw'r claf i'r ysbyty (a.70(e))

19. Mae triniaeth feddygol briodol ar gael iddo

20. Yn achos cais o dan a.66(1)(g) bydd y claf, o’i ryddhau, yn debygol o ymddwyn mewn modd sy’n beryglus i bobl eraill neu iddo’i hun.

21. Mae pwerau'r Tribiwnlys wedi'u cyfyngu i ryddhau neu wrthod hynny. Nid oes ganddynt unrhyw bwerau statudol eraill. Gallant wneud argymhellion allstatudol a chânt gyfarwyddyd weithiau i argymell trosglwyddo claf. Ar adegau prin pan fo claf i gael ei drosglwyddo’n ôl i'r carchar, efallai y gwahoddir Tribiwnlysoedd gan y claf i gadarnhau bod y meini prawf hyn yn cael eu bodloni ac argymell trosglwyddo i rywle arall.

Pŵer i ryddhau cleifion wedi’u cyfyngu:

22. Ar gyfer cleifion sy'n destun cyfyngiadau, rhaid i Dribiwnlys roi cyfarwyddyd i ryddhau’n ddiamod o dan a.73 os nad yw wedi’i argyhoeddi bod y meini prawf yn cael eu bodloni yn a.72, a bod y Tribiwnlys wedi’i argyhoeddi nad yw'n briodol i'r claf barhau’n agored i gael ei alw'n ôl i'r ysbyty i gael triniaeth bellach.

23. Rhaid i'r Tribiwnlys orchymyn rhyddhad amodol, os bydd meini prawf a.72(3)(ii) yn cael eu bodloni, ac eithrio bod y Tribiwnlys o'r farn ei bod yn briodol i'r claf aros yn agored i gael ei alw'n ôl i'r ysbyty. Dim ond os gellir bodloni’r amodau gofynnol y gellir rhyddhau’r claf. Os yw'r Tribiwnlys yn gosod amodau na ellir eu rhoi ar waith, nid oes gan y claf yr hawl i gael ei ryddhau beth bynnag. (Gweler gorchymyn Cyfyngu).

24. Gall claf sy'n cael ei ryddhau'n amodol gael ei alw’n ôl gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

25. Nid yw'r adran hon yn galluogi galw claf yn ôl ar unwaith, ac eithrio mewn argyfwng – yn gyffredinol, dim ond gyda’r dystiolaeth feddygol ddiweddaraf y dylid galw claf yn ôl.

26. Ar gyfer cleifion sydd wedi’u cyfyngu, gall Tribiwnlysoedd ystyried gohirio er mwyn adolygu ymarferoldeb bodloni amodau (er enghraifft, fel y trafodir yn yr erthygl ar orchmynion Cyfyngu). Hefyd, fel y nodir yn achos R. (on the application of H) v Secretary of State for the Home Department [2002] EWCA Civ 646; [2003] Q.B. 320.

Datblygiaudau posiblyn y Dyfodol

Ym mis Mehefin 2013, cynhaliwyd Ymgynghoriad â Rhanddeiliaid ynghylch cynnig i ddiwygio r.34 of the Tribunal Procedure (First-Tier Tribunal) (Health, Education and Social Care Chamber) Rules 2008/2699, lle’r oedd ymgynghoriad pwyllgor gweithdrefnau tribiwnlysoedd yn gofyn am farn ar newidiadau arfaethedig i r.34 of the 2008 Rules. Mae Rheol 34 yn cynnwys gofyniad gorfodol i’r aelod o’r tribiwnlys â chymwysterau meddygol gynnal archwiliad meddygol cyn i achos gael ei glywed. Mae'r pwyllgor yn cynnig gwneud y gofyniad yn ddewisol yn ôl disgresiwn yn y rhan fwyaf o achosion.


 

Mwy o erthyglau ynghylch Gwasanaethau iechyd

Gweld mwy o erthyglau yn Gwasanaethau iechyd