Iechyd Meddwl (Cymru)

Mae’r Mental Health Act 1983 ("y Ddeddf") yn berthnasol. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddatganoli, mae rhai gwahaniaethau pwysig o ran sut mae’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso i Gymru.

1. Y prif wahaniaethau yw:

2. Y Cod Ymarfer: Mae Adran 118 y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i baratoi, cyhoeddi ac o bryd i’w gilydd adolygu, Cod Ymarfer fel canllaw ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â derbyniadau, triniaeth, gwarcheidiaeth a thriniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth ar gyfer cleifion ag anhwylder meddwl. Mewn perthynas â Chymru, ddyletswydd Gweinidogion Cymru yw hon. Mae’n rhaid i God Ymarfer Cymru, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2008, ddarparu canllawiau i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol a benodir o dan adran 130E y Ddeddf.

3. Cyrff comisiynu iechyd: Yn sgil y ffaith bod y GIG yn cael ei drefnu’n wahanol yng Nghymru a Lloegr, mae’r adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gosod cyfrifoldebau ar grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr yn briodol i Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

4. Swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol: Mae’r rhan fwyaf o’r pwerau a’r dyletswyddau y mae’r Ddeddf yn eu gosod ar yr Ysgrifennydd Gwladol wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

5. Cleifion dan gyfyngiadau: Nid yw pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chleifion dan gyfyngiadau (h.y. cleifion sydd wedi cael eu gwneud yn destun gorchymyn cyfyngu (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo) gan y llysoedd) wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

6. Pwerau adolygu ac ymchwilio: Mae Adran 120 y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod rheoleiddio i adolygu a, lle bo’n briodol, ymchwilio i’r modd y defnyddir y pwerau ac y cyflawnir y dyletswyddau mewn perthynas â chadw, triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth a gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf. Gweinidogion Cymru sy’n gweithredu fel y corff rheoleiddio yng Nghymru. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy’n cyflawni’r  swyddogaeth hon, ynghyd â’r swyddogaethau cysylltiedig o dan adrannau 120A-120D, ar ran Gweinidogion Cymru.

7. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru: Mae Adran 65 y Ddeddf, ynghyd ag Atodlen 2, yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae swyddfa’r Tribiwnlys, sydd â Chadeirydd ac sy’n cwmpasu Cymru gyfan, yn adeilad gweinyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr, y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl), o dan y Tribunals, Courts and Enforcement Act 2007. Mae gan y ddau dribiwnlys bwerau a dyletswyddau sy’n union yr un fath i ryddhau cleifion a gwneud argymhellion.

8. Y Mental Health Review Tribunal for Wales Rules 2008/2705, a wneir o dan adran 78 y Ddeddf, sy’n rheoli’r arferion a’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn achosion gerbron Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

9. Gan nad yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn cael ei weinyddu drwy’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd a Llysoedd, mae adran 78A y Ddeddf yn sicrhau bod yr hawl i fynd ymlaen i apelio gerbron yr Uwch Dribiwnlys a gyflawnir gan y Tribiwnlys Hael Gyntaf (Iechyd Meddwl) hefyd ar gael yng Nghymru.

10. Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl: Mae cyfrifoldebau’r eiriolwyr annibynnol yng Nghymru yn fwy na’r rhai sy’n gymwys yn Lloegr o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i’r Ddeddf gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae Adran 130E y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau i eiriolwyr annibynnol iechyd meddwl ddarparu cymorth. Rhaid i’r cymorth hwnnw fod ar gael i ddau grŵp o gleientiaid: cleifion dan orfodaeth cymwys yng Nghymru, fel y’i diffinnir yn adran 130I, a chleifion anffurfiol cymwys yng Nghymru, fel y’i diffinnir yn adran 130J. Mae natur y cymorth sydd i’w ddarparu wedi’i nodi yn adran 130F, i gleifion dan orfodaeth, ac yn adran 130G, ar gyfer cleifion anffurfiol. Rheolir y ddyletswydd i roi gwybodaeth am y gwasanaeth eiriolwyr annibynnol i gleifion gan adrannau 130K-130L.

11. Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2011/2501 yn cynnwys darpariaethau ynghylch pwy y gellir ei benodi i weithredu fel eiriolwr annibynnol, a’r personau y gall eiriolwr annibynnol iechyd meddwl ymweld â nhw a’u cyfweld at ddibenion darparu cymorth i glaf cymwys yng Nghymru sydd wedi cael ei dderbyn o dan adran 4 y Ddeddf.

12. Cymeradwyo Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ("GPIMC") a chyrsiau ar gyfer hyfforddi GPIMC: Mae Gweinidogion Cymru wedi creu rheoliadau sy’n ymwneud â chymeradwyo personau i weithredu fel GPIMC mewn perthynas â Chymru: gweler Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008/2436.

13. Mae Adran 114A y Ddeddf yn galluogi Cyngor Gofal Cymru i gymeradwyo cyrsiau ar gyfer hyfforddi GPIMC Cymru, waeth beth yw proffesiwn yr hyfforddeion.

14. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008/2439: Mae Gweinidogion Cymru wedi creu’r Rheoliadau hyn, sef y prif Reoliadau sy’n ymdrin ag arfer pwerau gorfodol mewn perthynas â phersonau sy’n agored i gael eu cadw mewn ysbyty neu o dan warcheidiaeth, ynghyd â chleifion cymunedol, o dan y Ddeddf. Maent wedi’u rhannu’n ddeg Rhan. Mae Atodlen 1 y Rheoliadau’n cynnwys y ffurflenni statudol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau. 

15. Mae Rhan 1 (rheoliadau 1-3) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n effeithio ar ddehongliad y Rheoliadau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r dogfennau sy’n ofynnol gan y Ddeddf.

16. Mae Rhan 2 (rheoliadau 4-8) yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty, a chadw cofnod ohonynt, adnewyddu’r awdurdod i gadw a rhyddhau cleifion sy’n agored i gael eu cadw’n gaeth. Mae hefyd yn pennu pa wybodaeth sydd i’w rhoi i gleifion sy’n agored i gael eu cadw’n gaeth a’u perthnasau agosaf.

17. Mae Rhan 3 (rheoliadau 9-15) yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer gwarcheidiaeth a chadw cofnod o hynny, adnewyddu gwarcheidiaeth, a rhyddhau cleifion o dan warcheidiaeth. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â dyletswyddau gwarcheidwaid preifat. Mae hefyd yn pennu gwybodaeth sydd i’w rhoi i gleifion o dan warcheidiaeth a’u perthnasau agosaf. 

18. Mae Rhan 4 (rheoliadau 16-22) yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion triniaeth gymunedol a chadw cofnod ohonynt, ac estyn gorchmynion o’r fath. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â galw cleifion cymunedol yn ôl a’u rhyddhau, dirymu gorchmynion triniaeth gymunedol wrth alw cleifion cymunedol yn ôl a rhyddhau cleifion cymunedol. Mae hefyd yn pennu pa wybodaeth sydd i’w rhoi i gleifion cymunedol a’u perthnasau agosaf.

19. Mae Rhan 5 (rheoliadau 23-32) yn cynnwys darpariaethau ynghylch trosglwyddo a chludo cleifion rhwng ysbytai, neu warcheidiaeth, ac o ysbytai i warcheidiaeth ac i’r gwrthwyneb. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag aseinio cyfrifoldeb dros gleifion a throsglwyddo’r cleifion hynny wrth eu galw’n ôl. Gwneir darpariaeth ar gyfer symud cleifion i Gymru o’r Alban, Gogledd Iwerddon, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â throsglwyddo cleifion rhwng Cymru a Lloegr. Mae hefyd yn nodi pa wybodaeth sydd i’w rhoi i gleifion a’u perthnasau agosaf yn achos trosglwyddo cleifion.

20. Mae Rhan 6 (rheoliadau 33-34) yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi pŵer i’r perthnasau agosaf awdurdodi personau eraill i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf, ynghyd â chyfyngiadau ar ollwng cleifion gan y perthnasau agosaf.

21. Yn Rhan 7 (rheoliadau  35-37) ceir darpariaeth i reolwyr ysbytai ddirprwyo eu swyddogaethau o dan y Ddeddf a’u swyddogaethau o dan y Domestic Violence, Crime and Victims Act 2004 yn ogystal â dirprwyo swyddogaethau gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol.

22. Mae Rhan 8 (rheoliadau 38 i 40) yn pennu triniaethau (ac eithrio’r rhai a bennir yn adrannau 57 a 58A y Ddeddf) sydd naill ai yn gofyn am gydsyniad ac ail farn neu gydsyniad neu ail farn. Mae hefyd yn nodi gofynion ynghylch ardystio triniaethau a roddir o dan Ran 4 a Rhan 4A y Ddeddf.

23. Mae Rhan 9 (rheoliadau 41 a 42) yn cynnwys darpariaethau ynghylch gohebiaeth cleifion, yn nodi gweithdrefnau i’w dilyn wrth agor pecynnau post a phennu gwasanaethau eiriol penodol at ddibenion adran 134(3A) y Ddeddf.

24. Mae Rhan 10 (rheoliad 43 ac Atodlen 2) yn dirymu is-ddeddfwriaeth benodedig.

25. Y Mental Health (Mutual Recognition) Regulations 2008/1204: Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau lle y gall ymarferwr a gymeradwywyd yn Lloegr at ddibenion adran 12 y Ddeddf neu berson a gymeradwywyd mewn perthynas â Lloegr i weithredu fel clinigwr cymeradwy at ddibenion y Ddeddf gael ei drin fel person cymeradwy mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd y gymeradwyaeth honno, ac i’r gwrthwyneb. Maent yn berthnasol pan fo claf yn agored i gael ei gadw’n gaeth, yn destun gorchymyn triniaeth gymunedol neu’n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf. Mae’r hyblygrwydd hwn yn arbennig o ddefnyddiol mewn ardaloedd ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, lle defnyddir gwasanaethau ar gyfer cleifion ar draws y ffin.

26. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008/2440: Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau lle ceir gwrthdaro buddiannau posibl fel na all GPIMC wneud cais a grybwyllir yn adran 11(1) y Ddeddf, neu lle na all ymarferydd meddygol cofrestredig wneud argymhelliad meddygol at ddibenion y cais hwnnw.

Mwy o erthyglau ynghylch Gwasanaethau iechyd

Gweld mwy o erthyglau yn Gwasanaethau iechyd