Beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru’r cymhwysedd deddfwriaethol i wneud cyfreithiau (“Deddfau”) mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau iechyd. Gall ystyried cymhwysedd deddfwriaethol hwn drwy gyfeirio at bedwar maes fod o gymorth:

  • Maes 1 – Hybu iechyd. Cynllunio teulu.
  • Maes 2 - Atal, trin a lliniaru clefyd, anaf, anabledd ac anhwylder meddyliol. Rheoli clefyd.
  • Maes 3 - Darparu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau meddygol, deintyddol, offthalmig, fferyllol ac ategol.
  • Maes 4 – Llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd. Trefnu a chyllido’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn hyn o beth yn cael ei gyfyngu gan un ar ddeg eithriad pwnc benodol (a restrir isod), a gan bob un o’r eithriadau eraill fel y nodir dan y gwahanol benawdau yn Rhan 1 o Atodiad 7 i’r Government of Wales Act 2006. Mae’r eithriadau pwnc benodol yn cynnwys:

  • Erthylu.
  • Geneteg ddynol, ffrwythloniad dynol, embryoleg ddynol, trefniadau benthyg croth.
  • Senotrawsblaniad.
  • Rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol (gan gynnwys pobl sy’n darparu teclynnau clyw).
  • Gwenwynau.
  • Camddefnyddio a gwerthu cyffuriau.
  • Meddyginiaethau dynol a chynhyrchion meddygol, gan gynnwys awdurdodi eu defnydd a rheoleiddio prisiau.
  • Safonau ar gyfer sylweddau biolegol a’u profi (hynny yw, sylweddau na ellir profi eu purdeb neu eu nerth yn ddigonol drwy ddulliau cemegol).
  • Taliadau niwed trwy frechiad.
  • Bwydydd lles.
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Gwasanaeth Cynghori Meddygol Cyflogaeth a darpariaethau a wneir gan reoliadau iechyd a diogelwch.

Mae Senedd y DU wedi cadw ei bŵer i allu pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd, ac wedi gwneud hynny ers i’r Cynulliad Cenedlaethol ennill ei gymhwysedd deddfwriaethol cyfredol ym mis Mai 2011 (gweler, er enghraifft, Health and Social Care Act 2012).

Mesurau’r Cynulliad Cenedlaethol

Rhwng 2007 a 2011, gallai’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu drwy Fesur Cynulliad ar y ‘materion’ a restrir yn Atodlen 5 i'r Government of Wales Act 2006. Gwnaed llawer o Fesurau sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd drwy Ddeddf Cynulliad (neu Ddeddf Senedd) ac maent yn parhau mewn grym. Mae eu heffaith gyfreithiol yr un fath â phe baent wedi’u gwneud trwy gyfrwng Deddf y Cynulliad (neu Ddeddf Senedd y DU).

Darllen deddfwriaeth cyn 2007

Dylid bod yn ofalus wrth ddarllen a chymhwyso statudau sy’n gysylltiedig ag iechyd a ddeddfwyd cyn mis Mai 2007 ond sy’n parhau mewn grym ac sy’n gymwys mewn perthynas â Chymru.

Ar y cyfan, dylid darllen cyfeiriadau at swyddogaethau’r ‘Ysgrifennydd Gwladol’ mewn statudau cyn 1 Gorffennaf 1999 sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. Mae hyn oherwydd bod O.S. 1999/672 wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf, ond nid pob un, o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol cyn 1999 mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny ymhellach gan baragraff 30 o Atodlen 11 i'r Government ofWales Act 2006 i Weinidogion Cymru.

Yn yr un modd, dylid darllen cyfeiriadau mewn statudau a ddeddfwyd rhwng mis Gorffennaf 1999 a mis Mai 2007 at swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. Eto, mae hyn yn rhinwedd trosglwyddo swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 Atodlen 11 y Government of Wales Act 2006.

Adran 1

Deddfwriaeth Sylfaenol

Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau allweddol y gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru mewn deddfwriaeth sylfaenol ('statudau') a wneir naill ai gan Senedd y DU neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Mae’r statudau o dan 'ddeddwriaeth allweddol' a nodir gyda sêr yn Fesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gymwys i Gymru yn unig. Mae’r gweddill yn Ddeddfau Senedd y DU a gall eu darpariaethau ymestyn i’r DU gyfan, i Gymru, Lloegr a’r Alban, i Gymru a Lloegr, neu i Gymru yn unig.

Nid yw’r ffaith fod statud wedi’i gynnwys ar y rhestr uchod yn golygu ei fod yn bwnc sydd o fewn pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol, i basio Deddfau mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Bwriad y rhestr yw dangos ymhle y mae elfennau craidd y gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru i’w gweld, waeth a ydynt yn ymwneud â phwnc sydd wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol ai peidio.

Fodd bynnag, mae gweddill y tudalennau ‘Iechyd a Gwasanaethau Iechyd’ hyn yn darparu manylion pellach ar yr elfennau hynny o’r gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd yr ystyrir eu bod wedi’u ‘datganoli’.

Adran 2

Is-ddeddfwriaeth

Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth sylfaenol y cyfeirir ati uchod, mae darpariaethau deddfwriaethol ar iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi’u cynnwys mewn Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a llawer iawn o is-deddfwriaethau. Mae’r is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud gan ymarfer pŵer gweithredol awdurdod - yr Ysgrifennydd Gwladol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru - dan y ddeddfwriaeth sylfaenol a restrir uchod a gall fod ar ffurf gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau a chodau. Mae’r is-ddeddfwriaeth hon yn darparu manylion pellach ar gyfundrefnau, gofynion a swyddogaethau a bennir gan y ddeddfwriaeth sylfaenol.

Cyn datganoli pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, roedd is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU a oedd yn gwneud darpariaethau mewn perthynas ag iechyd yng Nghymru a Lloegr wedi’i gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a oedd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithredu gyda’i gilydd. Yn y naill achos a’r llall, byddai’r ddeddfwriaeth yn ymestyn ac yn gymwys i Gymru a Lloegr yn eu cyfanrwydd. Lle’r oedd pwnc yr is-ddeddfwriaeth yn effeithio ar iechyd neu wasanaethau iechyd yng Nghymru yn unig, byddai’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithredu ar ei ben ei hun. Mae rhai o’r offerynnau cyn datganoli hyn – a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru – yn parhau mewn grym.

Trosglwyddwyd y rhan fwyaf, ond nid pob un, o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag iechyd yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999 (drwy O.S. 1999/672). Felly, trosglwyddwyd nifer sylweddol o bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud is-ddeddfwriaeth dan ddeddfwriaeth sylfaenol cyn 1999 a restrir uchod i’r Cynulliad Cenedlaethol, er bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi parhau i ymarfer swyddogaethau iechyd mewn perthynas â Chymru mewn meysydd pwysig (e.e. trwyddedu cynhyrchion meddygol a rheoli eu defnydd dan y Medicines Act 1968 a’r pwerau dan y National Health Services Act 1977 sydd wedi’i disodli bellach mewn perthynas â senotrawsblaniad neu eneteg ddynol).

Ymarferodd y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau gweithredol sy’n ymwneud ag iechyd a drosglwyddwyd iddo ar 25 Mai 2007 pan drosglwyddwyd ei bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ymhellach i Weinidogion Cymru wrth i’r Government of Wales Act 2006 ddod i rym.

Adran 3

Cyfraith achos a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Mae penderfyniadau llysoedd domestig yn ffynhonnell bwysig o gyfraith mewn perthynas â dehongli’r darpariaethau deddfwriaethol niferus sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae corff cynyddol hefyd o gyfraith achos Llys Hawliau Dynol Ewrop sy’n berthnasol i iechyd a gwasanaethau iechyd, lle mae’r llys wedi penderfynu, er enghraifft, a oedd darpariaethau cenedlaethol penodol ar statws y ffoetws ac erthylu yn cydymffurfio ag Erthygl 2 ECHR (‘right to life’),  a oedd polisïau cenedlaethol ar ddyrannu adnoddau gofal iechyd yn cydymffurfio ag Erthygl 2, a oedd arferion cenedlaethol penodol yng nghyd-destun iechyd meddwl yn cydymffurfio ag Erthygl 5 ECHR (‘right to liberty and security of the person’),  ac a oedd cyfreithiau cenedlaethol penodol ar hawliau atgenhedlu yn cydymffurfio ag Erthygl 8 ECHR (‘right to privacy’).

Adran 4

Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Mae Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn cadw cyfrifoldeb am bolisi iechyd a threfnu, darparu a chyflenwi gofal iechyd. Fodd bynnag, mae gan yr UE swyddogaeth bwysig yn y meysydd hynny o bolisi iechyd a gwasanaethau iechyd lle mae’n ystyried na all yr Aelod-Wladwriaethau weithredu ar eu pen eu hunain yn effeithiol a lle ystyrir bod angen cydweithredu at lefel yr UE. Mae’r rhain yn cynnwys bygythiadau iechyd sylweddol a materion gydag effaith drawsffiniol neu ryngwladol, fel pandemigau. Mae darpariaethau cyfraith yr UE ar symud nwyddau, gwasanaethau a phobl yn rhydd hefyd yn berthnasol ac wedi’i gwneud yn ofynnol i Aelod-Wladwriaethau, er enghraifft, gydnabod cymwysterau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei gilydd (yn rhinwedd Cyfarwyddeb 2005/35 CE).

Mae cyfraith yr UE yn gwneud darpariaeth benodol hefyd ar gyfer materion sy’n gysylltiedig ag iechyd. Er enghraifft, mae cyfreithiau a safonau ledled yr UE ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau iechyd (e.e. meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol) a chleifion (e.e. diogelwch a gwasanaethau iechyd trawsffiniol), cyflwyno deddfwriaeth ar gynhyrchion, hysbysebu a nawdd ar gyfer tybaco, a darparu’r hawliau i gleifion gael eu trin mewn Aelod-Wladwriaethau eraill.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn