Tenantiaethau preswyl

Ceir nifer o fathau o denantiaethau preswyl â darpariaethau statudol ar eu cyfer yn ogystal â thenantiaethau cyfraith gyffredin. Mae'r nodyn hwn yn rhoi ychydig o gefndir i’r  gyfraith ar rentu eiddo preswyl, cyn canolbwyntio ar y prif fathau o denantiaeth sydd ar gael. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn y maes hwn yn debygol o newid. Yn 2015 cyflwynwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn y Cynulliad Cenedlaethol, Bil y bwriedir iddo wneud newidiadau mawr i'r ffordd y mae pobl yn rhentu cartrefi.

Cefndir: y Deddfau Rhenti

Y Deddfau Rhenti (Rent Acts) oedd y prif fath o warchodaeth statudol yn y sector rhentu preifat o 1915 hyd 1988. Pwrpas y warchodaeth statudol a roddwyd gan y Deddfau Rhenti oedd lliniaru caledi i denantiaid yn y sector preifat o ganlyniad i brinder tai. Roedd y Deddfau Rhenti yn darparu tair egwyddor o warchodaeth: yn gyntaf, cyfyngiadau ar godi rhenti yn uwch nag uchafswm statudol a ganiateid; yn ail, diogelwch deiliadaeth gan fod yn rhaid i landlordiaid gael gorchymyn llys, na châi ei roi ac eithrio ar seiliau penodol yn unig, i droi tenant allan; ac yn drydydd, gwahardd codi 'premiymau'. Ffi sy’n gysylltiedig â rhoi, parhau, adnewyddu neu aseinio tenantiaeth yw ‘premiym’ i bob pwrpas.

Diddymwyd y Deddfau Rhenti yn raddol, gan ddechrau drwy greu tenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr o dan yr Housing Act 1988, fel mai'r Rent Act 1977 yn unig bellach sy’n parhau i gael effaith. Erbyn hyn, nid yw’r amddiffyniad a geir yn y Rent Act 1977 ond yn berthnasol i leiafrif o denantiaethau'r sector preifat sy'n bodloni amodau penodol ac wedi eu cychwyn cyn 15 Ionawr 1989. 

Adran 1

Tenantiaethau diogel

Rhan 4 o'r Housing Act 1985 (HA 1985) sy’n darparu ar gyfer tenantiaethau diogel. Dyma'r prif fath o denantiaeth sy'n cael ei roi gan awdurdodau lleol a rhai cyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Mae tenantiaeth tŷ annedd sy'n cael ei osod fel annedd ar wahân yn denantiaeth ddiogel os caiff yr amodau yn adrannau 80 ac 81 o'r HA 1985 eu bodloni. Yn gyffredinol, mae gan denantiaid diogel ddiogelwch deiliadaeth, hawliau olynu penodol, hawliau penodol i aseinio eu tenantiaethau, a'r hawl i brynu eu cartrefi.

Diogelwch deiliadaeth

Mae gan denantiaid diogel ddiogelwch deiliadaeth. Golyga hyn na ellir dirwyn y denantiaeth i ben (a throi'r tenantiaid allan) ac eithrio mewn ffyrdd penodol (gweler adran 82 o HA 1985):

1) drwy orchymyn llys am feddiannaeth ar y tŷ
2) drwy orchymyn israddio; neu
3) os yw tenantiaeth am dymor pendant, drwy orchymyn yn pennu'r tymor pendant (serch hynny, hyd yn oed os caiff tymor pendant ei ddirwyn i ben, oni bai bod y llys yn gorchymyn i’r terfyniad a’r meddiant gael effaith ar yr un diwrnod, bydd tenantiaeth gyfnodol yn dilyn.)

Gellir gweld ar ba sail y caiff landlord wneud cais i'r llys am orchymyn i ddod â'r denantiaeth i ben yn adrannau 84 ac 84A, ac Atodlen 2 a 2A HA 1985. Mae adran 84 yn darparu na chaiff llys wneud gorchymyn ildio meddiant ar un o’r seiliau a nodir yn Atodlen 2 oni bai eu bod yn fodlon fod hynny'n rhesymol, neu fod llety addas arall ar gael i'r tenant, yn dibynnu ar ba sail y gwneir y cais.

Mae adran 84A yn darparu bod yn rhaid i'r llys wneud gorchymyn os yw'n fodlon fod amodau’r sail honno, sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol, wedi eu bodloni. Er nad oes gan y llys ddisgresiwn i benderfynu ei bod yn rhesymol i wneud gorchymyn o'r fath, mae penderfyniad y llys yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael i'r tenant yn seiliedig ar ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae gofyniad hefyd yn adran 85ZA fod yn rhaid i'r landlord gynnal adolygiad o'i benderfyniad i geisio meddiant ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol o dan adran 84A. Mae hyn yn adlewyrchu cyfraith achosion, yn benodol achos Manchester City Council v Pinnock [2010] UKSC 45, a ddaliodd fod gan denantiaid awdurdodau cyhoeddus hawl i ddefnyddio cymesuredd penderfyniad i droi allan yn amddiffyniad mewn achos cymryd meddiant.

Mae gofynion rhoi rhybudd a gweithdrefnau sydd angen i landlordiaid eu dilyn wrth geisio meddiant (gweler adrannau 83 ac 83ZA o HA 1985).

Hawl i brynu

Mae rhan 5 o HA 1985 yn rhoi hawl i denantiaid naill ai i brynu'r rhydd-ddaliad, neu gael les, ar eu tŷ annedd (er bod hyn yn ddibynnol ar fodloni amodau penodol a nodwyd yn y rhan honno). Mae'n rhaid i denant fod wedi bod yn denant sector cyhoeddus am y 'cyfnod cymhwyso' angenrheidiol, sef pum mlynedd ar hyn o bryd (gweler adran 119 o, ac Atodlen 4 i, HA 1985). Fodd bynnag, os oedd y tenant yn denant sector cyhoeddus cyn 18 Ionawr 2005, y cyfnod cymhwyso yw dwy flynedd (gweler adranau 180(5) a (6) o'r Housing Act 2004 (HA 2004)). Mae rhai eiddo wedi eu heithrio rhag yr hawl i brynu (gweler adran 119 o, ac Atodlen 5 i, HA 1985).

Mae hawl gan denantiaid diogel sy'n arfer eu hawl i brynu eu rhydd-ddaliad i gael gostyngiad ar ei werth. Mae swm y gostyngiad y mae gan unigolyn hawl iddo yn wahanol yng Nghymru i’r hyn ydyw yn Lloegr, a hefyd yn wahanol yn dibynnu ar ba bryd y daeth yr unigolyn o dan sylw yn denant sector cyhoeddus. Mae adran 129 o HA 1985 yn nodi'r gostyngiad perthnasol yn ogystal â phŵer i Weinidogion Cymru bennu gwahanol ganrannau, neu uchafswm ac isafswm canrannau gostyngiadau i'w cymhwyso mewn achosion rhagnodedig penodol. Darperir ar gyfer y gostyngiad cyfredol yn adran 129 o HA 1985, fel y'i diwygiwyd gan adran 180 o HA 2004:

  • am denantiaethau sector cyhoeddus a gychwynnwyd cyn 18 Ionawr 2005:
    - yn achos tŷ, y gostyngiad yw 32% am hyd at dair blynedd fel tenant sector cyhoeddus, ac 1% y flwyddyn wedi hynny hyd at uchafswm o 60%,
    - yn achos fflat, y gostyngiad yw 44% am hyd at dair blynedd, a 2% y flwyddyn wedi hynny hyd at uchafswm o 70%;
  • am denantiaethau sector cyhoeddus a gychwynnwyd ar neu ar ôl 18 Ionawr 2005:
    - yn achos tŷ, y gostyngiad yw 35% am hyd at dair blynedd fel tenant sector cyhoeddus, ac 1% y flwyddyn wedi hynny, hyd at uchafswm o 60%,
    - yn achos fflat, y gostyngiad yw 50% am hyd at dair blynedd, a 2% y flwyddyn wedi hynny hyd at uchafswm o 70%.

Ceir darpariaethau hefyd sy'n ymwneud â chyfrifo'r gostyngiad os yw gostyngiad wedi ei hawlio yn flaenorol (adran 130 o HA 1985). Yn ogystal, mae adran 131 o HA 1985 yn darparu ar gyfer terfynau ar faint o ostyngiad y gellir ei hawlio. Yn benodol mae'r darpariaethau 'terfyn isaf y costau' fel y'u gelwir yn rhoi terfyn ar y gostyngiad hawl i brynu er mwyn sicrhau bod y pris prynu yn adlewyrchu faint a wariwyd ar adeiladu, prynu, atgyweirio neu gynnal eiddo dros gyfnod o ddeng mlynedd. Gall Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan adran 131 o HA 1985 yn nodi'r amser sydd i'w ystyried wrth roi terfynau ar y gostyngiad, a’r swm mwyaf y gellir gostwng pris yr eiddo. Gwnaed Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau’r Disgownt) (Cymru)1999 o dan adran 131, a diwygiwyd gydag effaith o 14 Gorfennaf 2015 ymlaen gan y Gorchymyn Tai (Hawl i brynu a hawl i gaffael) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2015. Mae'n rhagnodi mai uchafswm y gostyngiad (ariannol) sydd ar gael yng Nghymru yw £8,000.

Os yw awdurdod lleol yn gwadu bod gan denant hawl i arfer ei hawl i brynu, gall y tenant wneud cais i'r Llys Sirol ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ran 5 o HA 1985 (adran 181 o HA 1985).

Gellir arfer yr hawl i brynu gan aelodau penodol o'r teulu (adran 123 o HA 1985).

Ceir gweithdrefnau a therfynau amser penodol y mae angen i denantiaid a landlordiaid eu dilyn wrth geisio arfer yr hawl i brynu.

Efallai y bydd cyfamodau cyfyngol yn gysylltiedig â gwerthiant cartref o dan yr hawl i brynu. Er enghraifft, os yw eiddo'n cael ei werthu o fewn y 10 mlynedd gyntaf rhaid i'r cyn-landlord gael cyfle i brynu'r eiddo, neu mewn rhai ardaloedd, rhaid i'r cartref gael ei werthu i rywun o'r ardal leol, gweler adrannau 156A ac 157 o HA 1985 a Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005 am ragor o wybodaeth.

Hawl i brynu a gadwyd

Wrth drosglwyddo tir i'r sector preifat, er enghraifft os yw awdurdod lleol wedi trosglwyddo ei holl stoc dai i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (a elwir hefyd yn 'drosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr') mae hawl tenant diogel i brynu wedi'i 'chadw' (gweler adrannau 171A i 171H o HA 1985). Mae'r Housing (Preservation of Right to Buy) Regulations 1993, fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) (Diwygio) (Cymru) 2001, yn addasu'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r hawl i brynu mewn perthynas â'r hawl i brynu a gadwyd, drwy wneud darpariaeth bellach ynglŷn â darpariaethau terfyn isaf y costau.

Atal yr hawl i brynu

Mae Mesur Tai (Cymru) 2011 (HWM 2011) yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais i Weinidogion Cymru i atal yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn eu hardal gyfan neu mewn rhannau penodol ohoni, neu mewn perthynas â math neu fathau penodol o dai cymdeithasol yn yr ardal gyfan neu mewn rhannau penodol ohoni. Cyn gwneud cais i Weinidogion Cymru, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â phobl benodol yn ei ardal (gweler adran 2 o HWM 2011). Hefyd, mae HWM 2011 wedi mewnosod adrannau 122A ac 122B o HA 1985  sy'n ymwneud â thrin ceisiadau i arfer yr hawl i brynu tra bo unrhyw gamau atal dan ystyriaeth Gweinidogion Cymru, neu’n weithredol.

Adran 2

Tenantiaethau isradd

Cyflwynwyd Gorchmynion Israddio gan yr Anti-social Behaviour Act 2003 a fewnosododd adran 82A yn HA 1985. Effaith gorchymyn israddio yw bod tenantiaeth ddiogel yn cael ei dirwyn i ben a thenantiaeth isradd yn cael ei rhoi yn ei lle. Ni all y llys roi gorchymyn israddio oni bai ei fod yn fodlon fod y tenant, neu unigolyn sy'n preswylio yn y tŷ annedd neu'n ymweld â’r lle, wedi cymryd rhan, neu wedi bygwth cymryd rhan mewn:

  • ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai (fel y'i diffinnir yn adran 153A o Housing Act 1996 (HA 1996)); neu
  • ymddygiad y mae adran 153B o HA 1996 yn berthnasol iddo (defnydd anghyfreithlon o fangre);
  • a’i bod yn rhesymol i wneud y gorchymyn.

Gellir gweld y darpariaethau sy'n ymwneud â thenantiaethau isradd yn Rhan 5 o HA 1996. Bydd y tenant yn parhau i feddiannu’r tŷ annedd a bydd unrhyw ôl-ddyledion rhent sy'n daladwy pan ddaw'r denantiaeth ddiogel i ben yn dod yn daladwy o dan y denantiaeth isradd. Yn gyffredinol, bydd tenantiaeth isradd yn para blwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn honno mae'n haws i landlord geisio meddiant ar y tŷ annedd os gofynnir iddo wneud hynny. Rhaid i'r llys roi gorchymyn ildio meddiant am denantiaeth isradd os yw'r gofynion gweithdrefnol perthnasol wedi eu dilyn o dan adran 143D o HA 1996. Er nad yw’n cael ei ddatgan yn benodol, fel mewn achos ildio meddiant am ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol o dan adran 84ZA o HA 1985, bydd y llys yn ystyried unrhyw amddiffyniad perthnasol sydd gan y tenant ar sail ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Deillia hyn o’r gyfraith fel y’i pennwyd gan Manchester City Council v Pinnock [2010] UKSC 45, a ddyfarnodd fod gan denantiaid awdurdodau cyhoeddus hawl i ddefnyddio cymesuredd yn amddiffyniad mewn achos cymryd meddiant.

Ceir hawliau olynu ac aseinio penodol mewn perthynas â thenantiaethau isradd; gweler adrannau 143H i 143K o HA 1996.

Adran 3

Tenantiaeth ragarweiniol

Gall awdurdod lleol (neu ymddiriedolaeth gweithredu tai) benderfynu gweithredu system denantiaeth ragarweiniol (gweler Rhan 5 o'r Housing Act 1996 (HA 1996)). Os yw awdurdod yn gweithredu system denantiaeth ragarweiniol yna'n hytrach na rhoi tenantiaethau diogel, gellir rhoi tenantiaeth ragarweiniol i denant newydd. Mae tenantiaeth ragarweiniol yn para am gyfnod treialu o flwyddyn, a gellir ychwanegu chwe mis ato. Ar ôl hynny bydd y tenant fel arfer yn cael tenantiaeth ddiogel. Er mwyn gallu cymryd meddiant ar dŷ annedd o dan denantiaeth ragarweiniol mae'n rhaid i landlord ddilyn gofynion gweithdrefnol penodol: mae'n rhaid rhoi rhybudd, gan gynnwys rhesymau, a rhaid i'r landlord gynnal adolygiad os yw'r tenant yn gofyn iddo wneud hynny. Cyn belled ag y bo'r gofynion hyn wedi eu dilyn, mae'n rhaid i'r llys roi gorchymyn ildio meddiant os gwneir cais iddo wneud hynny (gweler adran 127 o HA 1996). Er na chaiff hynny ei ddatgan yn benodol, fel mewn achos ildio meddiant yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol o dan adran 84ZA o'r Housing Act 1985, bydd y llys yn ystyried unrhyw amddiffyniad perthnasol gan y tenant ar sail ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hyn yn deillio o’r gyfraith fel y’i sefydlwyd gan Manchester City Council v Pinnock [2010] UKSC 45, a ddaliodd fod gan denantiaid awdurdodau cyhoeddus hawl i ddefnyddio cymesuredd yn amddiffyniad mewn achos cymryd meddiant.

Ceir hawliau olynu ac aseinio penodol mewn perthynas â thenantiaethau rhagarweiniol; gweler adrannau 131 i 134 o HA 1996.

Adran 4

Tenantiaeth sicr

Cyflwynwyd tenantiaethau sicr gan yr Housing Act 1988 (HA 1988). Tenantiaethau sicr, yn enwedig y tenantiaethau byrddaliol sicr cysylltiedig, yw'r tenantiaethau safonol yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd. Rhoddir tenantiaeth sicr os yw tŷ yn cael ei osod fel annedd ar wahân, a bod y tenant yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu brif gartref, yn amodol ar eithriadau penodol (gweler adran 1 o  HA 1988). Mae Atodlen 1 i'r HA 1988 yn nodi'r amgylchiadau lle na all tenantiaethau fod yn denantiaethau sicr. Mae hyn yn cynnwys tenantiaethau a roddir gan landlordiaid penodol, er enghraifft awdurdodau lleol (paragraff 12 o Atodlen 1).

Yn gyffredinol, mae gan denantiaid sicr ddiogelwch deiliadaeth, hawliau olynu penodol, hawliau penodol i aseinio eu tenantiaethau, a'r hawl i gaffael eu cartrefi.

Rhoddir tenantiaethau sicr gan mwyaf gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (a gofrestrwyd o dan Ran 1 o HA 1996 (gweler adran C1A)). Mae gan denantiaethau sicr ddiogelwch deiliadaeth (gweler adran 5 o HA 1988) tebyg i denantiaethau diogel yn yr ystyr na ellir ond eu dirwyn i ben yn y ffyrdd canlynol:

  • drwy i’r landlord gael gorchymyn ildio meddiant gan y llys ar sail benodol (gweler adran 7 o, ac Atodlen 7 i, HA 1988) a thrwy weithredu'r gorchymyn hwnnw;
  • drwy i’r landlord gael gorchymyn israddio, sydd â'r effaith o wneud tenantiaeth sicr yn denantiaeth fyrddaliol sicr (gweler adran 6A o HA 1988);
  • mewn achos o denantiaeth cyfnod penodol sy'n cynnwys pŵer i landlord bennu’r denantiaeth mewn amgylchiadau penodol, gweithredu'r pŵer hwnnw.

Nodir ar ba sail y gall landlord gyflwyno cais i'r llys am orchymyn i ddod a'r denantiaeth i ben yn Atodlen 2 i HA 1988. Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn rhestru ar ba sail y mae'n rhaid i'r Llys roi gorchymyn ildio meddiant os yw'n fodlon fod y sail wedi'i sefydlu, yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd gan y tenant ar sail ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn rhestru ar ba sail y gall y Llys roi gorchymyn ildio meddiant os yw'n ystyried y byddai'n rhesymol iddo wneud hynny.

Ceir gofynion a gweithdrefnau rhoi rhybudd hefyd y mae'n rhaid i landlordiaid eu dilyn wrth geisio meddiant, gweler adrannau 8 ac 8A o HA 1988.

Hawl i gaffael

Mae adran 16 o HA 1996 yn darparu i denantiaid sicr landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael hawl i gaffael eu cartrefi os cawsant eu datblygu'n wreiddiol drwy ddefnyddio arian cyhoeddus, yn ddarostyngedig i amodau penodol eraill. Mae'r darpariaethau yn Rhan 5 o Housing Act 1985 (HA 1985) sy'n ymwneud â'r hawl i brynu hefyd yn berthnasol i'r hawl i gaffael fel y’i haddaswyd gan yr Housing (Right to Acquire) Regulations 1997. Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn:

  • diddymu'r eithriadau i'r hawl i brynu ym mharagraffau 1, 3 ac 11 o Atodlen 5 i HA 1985 (elusennau; cymdeithasau tai penodol; tai annedd penodol ar gyfer yr henoed);
  • ychwanegu eithriadau i'r hawl i gaffael ym mharagraffau 1A, 9A a 13 o Atodlen 5 (tai annedd mewn ardaloedd gwledig dynodedig; tai annedd ar gyfer pobl ag anghenion arbennig; tai-annedd â dyledion cyfwerth neu’n fwy na'r pris prynu gyda gostyngiad);
  • darparu i'r tenant gaffael y tŷ annedd gyda gostyngiad fel y'i nodir mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 17 o'r Housing Act 1996. O dan yr Housing (Right to Acquire) (Discount) (Wales) Order 1997, sydd wedi'i ddiwygio gydag effaith o 14 Gorffennaf 2015 gan Orchymyn Tai (Hawl i brynu a Hawl i Gaffael) (Terfynau Disgownt) (Diwygiad) (Cymru) 2015, y disgownt uchaf yng Nghymru yw £8000.  

Mae Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 a grybwyllwyd uchod mewn perthynas â'r hawl i brynu hefyd yn caniatáu i awdurdod lleol gyflwyno cais i Weinidogion Cymru atal yr hawl i gaffael yn eu hardaloedd (gweler y paragraffau'n ymwneud â'r hawl i brynu am ragor o wybodaeth).

Adran 5

Tenantiaeth fyrddaliol sicr

Mae tenantiaeth fyrddaliol sicr yn denantiaeth sicr y gellir ei dirwyn i ben gyda rhybudd, mewn geiriau eraill, heb sail benodol dros gymryd meddiant. Mae tenantiaethau byrddaliol sicr yn aml yn cael eu rhoi am gyfnod penodol, yn aml am 6 mis neu flwyddyn, gyda'r denantiaeth fyrddaliol sicr yn troi'n denantiaeth gyfnodol sicr statudol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, gan weithredu yn ôl yr un amodau â'r denantiaeth cyfnod penodol os yw'r tenant yn parhau i feddiannu (gweler adran 5 o'r Housing Act 1988 (HA 1988)).

Gan fod tenantiaeth fyrddaliol sicr yn denantiaeth sicr, mae'r seiliau dros gymryd meddiant yn Atodlen 2 i HA 1988 ar gael i landlord sy'n ceisio meddiant, ond gall y landlord hefyd ddod â'r denantiaeth i ben drwy droi'r rhybudd priodol i gael gorchymyn ildio meddiant gan y llys. Darperir ar gyfer hyn yn adran 21 o HA 1988 a gelwir y broses yn gyffredin yn rhoi 'rhybudd adran 21'. Ni all y landlord roi rhybudd o dan adran 21 oni bai bod y cyfnod penodol, mewn tenantiaeth cyfnod penodol, wedi dod i ben, ac mae'n rhaid i'r landlord roi rhybudd meddiant o 2 fis fan lleiaf.

O ran tenantiaeth fyrddaliol gyfnodol sicr, ni all y llys roi gorchymyn i ildio meddiant ddigwydd cyn pen chwe mis i ddechrau'r denantiaeth.

Oherwydd yr hyblygrwydd hwn rhoddir tenantiaethau byrddaliol sicr yn ddigon aml  yn y sector preifat. Yn ogystal, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn aml yn defnyddio tenantiaethau byrddaliol sicr mewn modd tebyg i denantiaethau rhagarweiniol, fel cyfnod treialu ar gyfer tenantiaid newydd.

Mae unrhyw denantiaeth sicr a roddwyd ar 28 Chwefror 1997 neu ar ôl hynny yn denantiaeth fyrddaliol sicr yn awtomatig, oni fodlonir amodau penodol (gweler adran 19A o, ac Atodlen 2A i, HA 1988).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn