Awdurdodau lleol

Yn gyffredinol

Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn eang i ddarparu tai o dan adran 9 o'r Housing Act 1985 (HA 1985). Nid yw awdurdodau lleol dan orfodaeth i gadw stoc dai; trosglwyddodd nifer o awdurdodau lleol eu stoc dai i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac nid ydynt yn cadw unrhyw stoc mwyach. Lle y mae awdurdodau lleol yn penderfynu darparu tai cymdeithasol eu hunain, mae Rhan 6 o'r Housing Act 1996 (HA 1996) yn berthnasol i ddyraniad y tai hynny.

Dyraniad

Mae adran 159 o HA 1996 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â darpariaethau Rhan 6 o'r ddeddf honno wrth ddyrannu tai. Mae adran 167 yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol gael cynllun dyrannu i gyd-fynd â’r tai sydd i'w dyrannu. Hefyd, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru ganllawiau statudol o dan adran 169 ym mis Mawrth 2016 o dan yr enw 'Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd'. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y Cod Canllawiau hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 6 o HA 1996.

Mae’r Cod Canllawiau i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cymhwystra

Mae adran 160A o HA 1996 yn darparu na ddylai awdurdod lleol ddyrannu tai i unigolion anghymwys penodol. Mae isadran (3) yn darparu nad yw unigolyn sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys ar gyfer cael llety oni bai ei fod ef neu hi yn rhan o ddosbarth y pennwyd eu bod yn gymwys gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Yn wreiddiol, roedd gwneud rheoliadau yn un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ond erbyn hyn mae wedi trosglwyddo i Weinidogion Cymru trwy'r National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999, ac yn ddiweddarach trwy'r Government of Wales Act 2006. Yn gyffredinol mae ‘other persons from abroad’ h.y. rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn gymwys ar gyfer dyraniad llety, oni bai eu bod yn rhan o ddosbarth y pennwyd eu bod yn anghymwys gan Weinidogion Cymru. Y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yw'r rheoliadau perthnasol yng Nghymru.

Nid yw Rhan 7 o HA 1996 yn berthnasol i Gymru mwyach. Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ymwneud â digartrefedd ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi llety i bobl benodol. Gweler yr adran ar ddigartrefedd.

Mae'r Cod Canllawiau hefyd yn darparu canllawiau mewn perthynas â chymhwystra. 

Safonau

Mae Rhan 4 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (HWA 2014) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru osod safonau i awdurdodau lleol eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd llety, rhent am y cyfryw lety a thâl gwasanaeth am lety o’r fath. Gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â'r safonau hyn. Mae pwerau ymyrryd penodol ar gael i Weinidogion Cymru hefyd lle yr ystyriant fod awdurdod lleol wedi methu, neu'n debygol o fethu â chyrraedd safon. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio sy'n gorfod nodi pethau penodol, gan gynnwys y rhesymau dros roi'r rhybudd a'r camau sy'n rhaid i'r awdurdod eu cymryd. Os nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio â'r hysbysiad rhybuddio nodir y pwerau ymyrryd sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn adrannau 120 i 125 o HWA 2014.

Caniatâd i waredu tir

Mae adran 32 o HA 1985 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol gael caniatâd Gweinidogion Cymru er mwyn gwaredu tir a ddelir at ddibenion llety (o dan Ran 2 o HA 1985) (ac eithrio mewn amgylchiadau penodol). Mae Rhan 43 o HA 1985 hefyd yn darparu bod angen caniatâd Gweinidogion Cymru er mwyn gwaredu tir nad yw’n cael ei ddal at ddibenion llety, ond sy'n cael ei osod ar denantiaeth ddiogel neu ragarweiniol, neu os oes les wedi ei rhoi o ganlyniad i'r hawl i brynu. Gellir rhoi caniatâd o dan adrannau 32 a 43 naill ai'n gyffredinol mewn perthynas â phob tŷ (neu'r holl dir), neu mewn perthynas ag unrhyw dŷ penodol neu ddisgrifiad o dŷ (neu dir) o ddisgrifiad penodol a gellir rhoi caniatâd yn ddarostyngedig i'r amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol. Ceir ystyriaethau statudol penodol y dylid eu cofio wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd o dan yr adrannau hyn ai peidio, ac a ddylid gosod amodau ar y caniatâd ai peidio (gweler adrannau 34 a 43 o HA 1985).

Dylid nodi bod yna sefyllfaoedd eraill lle y bo’n rhaid i awdurdod lleol gael caniatâd Gweinidogion Cymru i waredu tir mewn ffyrdd penodol, er enghraifft adran 133 o HA 1988 ac adran 25 o'r Local Government Act 1988. Nid yw hon yn rhestr gyflawn; bydd yr angen am ganiatâd yn dibynnu ar ffeithiau pob achos unigol.

Cyllid tai

Mae Rhan 5 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (HWA 2014) yn darparu ar gyfer system hunan-gyllido, tebyg i’r un sydd wedi bod ar waith yn Lloegr ers mis Ebrill 2012. Mae adran 131 yn diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Local Government and Housing Act 1989. Yn gryno, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio’u rhent i gyllido eu stoc tai bellach.

Mae adran 131(3) sy'n hepgor adrannau yn Rhan 6 o’r Local Government and Housing Act, (cyllid tai), sy'n delio â Chymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai wedi dechrau.   Mae hyn, i bob pwrpas, yn golygu bod y Cymhorthdal wedi'i ddiddymu o 20 Mawrth 2019. Cyn iddi ddod i rym, roedd awdurdodau lleol yn ymrwymo i gytundebau gwirfoddol i atal talu symiau negyddol o’r Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai o dan adran 80B o Local Government and Housing Act 1989. Mae'r cytundebau hyn bellach yn cael eu terfynu.

Ar yr adeg yr oedd Awdurdodau Cymru sy'n dal stoc yn ymrwymo i gytundebau gwirfoddol gyda Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai, roedd Trysorlys Ei Mawrhydi hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod yr Awdurdodau Lleol hynny yn cytuno ar 'derfyn benthyca' ar eu gwariant mewn perthynas â stoc tai newydd. Roedd un cymal o'r cytundeb gwirfoddol yn cynnwys 'cyfyngiad ar ddyled' er mwyn sicrhau bod terfyn ar fenthyca gan y Llywodraeth Leol mewn perthynas â stoc tai newydd. Yn unol â newid ym mholisi'r Llywodraeth i ddileu cyfyngiadau gwariant Llywodraeth Leol ar stoc tai newydd, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o derfynu'r cytundebau gwirfoddol yn ffurfiol, er mwyn sicrhau bod y terfynau benthyca yn cael eu codi.

Cedwir y ddyletswydd ar awdurdod tai lleol i gadw “Cyfrif Refeniw Tai” o dan adran 74 o Local Government and Housing Act 1989. Bydd y cyfrif yn cynnwys gwybodaeth ariannol mewn perthynas â thai neu adeiladau a ddarperir, tir a gafaelir, tai a brynir a materion eraill a restrir yn adran 74(1). Mae adran 76 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod tai lleol i sicrhau nad yw’r cyfrif ar gyfer y flwyddyn yn dangos balans debyd. Mae Atodlen 4 i’r Ddeddf honno yn ymdrin â chadw’r Cyfrif.

Ymhellach, gall awdurdod tai lleol gadw Cyfrif Atgyweiriadau Tai, os yw’n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw Tai (adran 77). Unwaith eto, rhaid i’r awdurdod sicrhau credydau digonol i’r cyfrif er mwyn sicrhau nad yw’r cyfrif yn dangos balans debyd ar gyfer unrhyw flwyddyn (adran 77(4)).

Heriau cyfraith gyhoeddus

Mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i heriau cyfraith gyhoeddus drwy adolygiad barnwrol.

Dylid nodi hefyd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried cwynion ynghylch awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn