Gofal cymdeithasol

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol o ran darparu gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant, a chefnogaeth i ofalwyr. Mae eu swyddogaethau’n ymestyn i ddarparu gofal ar gyfer y rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl, ar gyfer pobl anabl ac i blant sydd angen eu cymryd i mewn i ofal yr awdurdod lleol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau mabwysiadu, ac am ymchwilio ac ymyrryd er mwyn amddiffyn plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

Mae lles cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, wedi ei ddatganoli yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaeth oruchwylio gyffredinol yn y system bresennol o ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â meddu ar swyddogaethau arolygu, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan adran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gyhoeddi datganiad ynglŷn â llesiant y rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth. Rhaid i'r datganiad fanylu'r canlyniadau sydd angen eu cyflawni ar gyfer y bobl hynny a'r mesurau y gellir eu defnyddio i asesu cyflawniad. Hefyd, o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru roi cod at y diben hwn a all roi arweiniad i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth ac a all osod gofynion ar awdurdodau lleol. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan adran 12 i wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan god o dan adran 9.

Hefyd, mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), a gymerodd swyddogaethau Cyngor Gofal Cymru fel rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2017 ymlaen, rôl gyffredinol o ran gwasanaethau gofal a chymorth. Mae adran 68 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol bod GCC, wrth gynnal ei swyddogaethau, yn cyflawni'r amcan o warchod, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru. Hefyd, mae’n ofynnol iddo gyflawni ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth yn ogystal ag mewn ymddygiad ac ymarfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau cyffredinol o dan adran 60 o’r Government of Wales Act 2006 i hybu neu wella llesiant cymdeithasol pobl Cymru. Mae'r pŵer hwn yn cynnwys pŵer i dalu grantiau. Yn ogystal â hynny, mae gan Weinidogion Cymru ragor o bwerau penodol i ddarparu grantiau i unrhyw berson i hybu lles plant a'u rhieni, i helpu rhieni i fagu eu plant (adran 14 o’r Education Act 2002), ac i dalu cost hyfforddiant gofal plant neu gyfrannu at y gost honno neu ddarparu llety mewn cartrefi i blant (adran 82 o’r Children Act 1989).

Gan amlaf penodir un o Weinidogion Cymru i fod yn gyfrifol am ofal cymdeithasol ochr yn ochr â materion iechyd ac mae Adran Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wasanaethu.
Gwnaed newidiadau i'r cyfreithiau ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ar 6 Ebrill 2016. Mae Deddf Gwasanaethau

Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud newidiadau pwysig i’r ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi llais cryfach a rheolaeth iddynt. Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol a fydd yn oedi, yn lleihau neu’n atal yr angen am ofal a chymorth. Mae’r Ddeddf yn rhoi set wedi’i diweddaru o ddyletswyddau a swyddogaethau i awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

Gweithredwyd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fesul cam. Mae'n cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, a hefyd yn diwygio’r system o reoleiddio’r rhai sy’n gweithio yn y sector ac sy’n darparu gofal i blant neu oedolion sy’n agored i niwed.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn