Taliadau Uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn symiau ariannol gan awdurdodau lleol i unigolion, neu eu cynrychiolwyr, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth; neu yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth.

Mae taliadau uniongyrchol yn disodli gofal a chymorth sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol, neu eu comisiynu, gan awdurdod lleol. Gallant ddiwallu holl anghenion gofal a chymorth person, neu rai ohonynt.

O dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 52 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWA 2014), mae gan awdurdodau lleol bwerau i wneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn, diwallu anghenion gofal a chymorth plentyn a diwallu anghenion cymorth gofalwr.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn

Mae’n rhaid i oedolyn â galluedd gydsynio i dderbyn taliadau yn hytrach na gwasanaethau. Os nad oes gan y person alluedd, mae modd iddo gydsynio i dderbyn taliadau uniongyrchol mewn sawl ffordd. Os oes person wedi’i awdurdodi o dan y Mental Capacity Act 2005, gall y person hwnnw gydsynio, fel derbynnydd y taliadau, neu gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud i berson arall, sy’n gorfod cydsynio hefyd. Os nad oes neb wedi’i awdurdodi o dan Ddeddf 2005, gall person sy’n fodlon derbyn y taliadau gydsynio, cyn belled â bod amodau perthnasol eraill yr adran hon yn cael eu bodloni.

O safbwynt oedolyn sydd â galluedd neu heb alluedd, gellir gwneud taliadau os na all y sawl sy’n derbyn y taliad reoli’r taliad ei hun ond ei fod yn gallu gwneud hynny drwy dderbyn cymorth sydd ar gael. Yn y naill achos a’r llall, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion gofal yr oedolyn. Hefyd, os nad oes gan yr oedolyn alluedd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun y bydd y sawl sy’n derbyn y taliad yn gweithredu er budd pennaf yr oedolyn.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn

Gellir gwneud taliadau i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu i blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Mae’n rhaid i’r person sy’n derbyn y taliadau gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i oedolyn neu blentyn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gredu bod gan y person a fydd yn derbyn y taliadau’r galluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r person yn blentyn o dan 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gan y person ddealltwriaeth ddigonol i wneud dewis deallus ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn, y caiff llesiant y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud a bod y person a fydd yn derbyn y taliadau yn gallu eu rheoli naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth.

Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr

Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr. Mae’n rhaid i’r taliadau uniongyrchol gael eu gwneud i’r gofalwr ei hun, a rhaid iddo gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r gofalwr yn oedolyn, neu’n blentyn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gredu bod ganddo’r galluedd i gydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud. Os yw’r gofalwr yn blentyn o dan 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud dewis deallus ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gwneud taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y gofalwr a bod y gofalwr yn gallu rheoli’r taliadau naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth. 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn