Rheoleiddio sefydliadau ac asiantaethau o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae Rhannau I a II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (CSA 2000) yn pennu’r system ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, a gwasanaethau gofal iechyd preifat a gwirfoddol yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru'r swyddogaeth o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal yng Nghymru.

Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn cael eu harfer gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) mewn perthynas â gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.

Adran 1

Mathau o sefydliadau ac asiantaethau a reoleiddir

Mae Rhan I o'r Care Standards Act 2000 yn nodi'r gwasanaethau gofal sy'n cael eu rheoleiddio gan Weinidogion Cymru, a’u harfer gan AGGCC. Cyfeirir at y rhain yn y Ddeddf fel sefydliadau ac asiantaethau. Mae'r gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf fel a ganlyn: 

  •  cartrefi plant (adran 1),
  •  cartrefi gofal (adran 3)
  •  canolfannau preswyl i deuluoedd (adran 4(2))
  •  asiantaethau gofal cartref (adran 4(3))
  •  asiantaethau maethu (adran 4(4))
  •  asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol (adran 4(7))
  •  asiantaethau cymorth mabwysiadu (adran 4(7A))

Caiff cartref plant ei ddiffinio fel sefydliad sy'n darparu gofal a llety’n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer plant. Mae llefydd lle mae plentyn yn derbyn gofal gan ei rieni, perthynas, person sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu riant maeth yn cael eu heithrio yn yr un modd ag ysbytai'r GIG, ysbytai a chlinigau annibynnol, ysgolion a sefydliadau eraill. 

Caiff cartref gofal ei ddiffinio fel unrhyw gartref sy’n darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu bersonol i unrhyw berson sydd, neu sydd wedi bod yn sâl (gan gynnwys anhwylder meddwl), sy’n anabl neu fethedig, neu sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol nawr neu yn y gorffennol. Mae'r diffiniad yn cynnwys cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio.

Caiff canolfannau preswyl i deuluoedd eu diffinio fel canolfannau sy'n ymgymryd â monitro a/neu asesu gallu i fagu plant ar sail breswyl lle ceir pryder nad yw rhieni’n gallu ymateb yn briodol i anghenion eu plant.

Mae asiantaethau cartref yn asiantaethau sy'n cyflenwi staff sy'n darparu gofal personol i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r diffiniad yn cynnwys unrhyw asiantaeth sy'n trefnu darpariaeth gofal personol i bobl sydd angen cymorth oherwydd salwch, gwendid neu anabledd. Nid yw gweithwyr gofal unigol yn cael eu cynnwys oni bai eu bod hwy eu hunain yn rhedeg neu’n rheoli'r asiantaeth.

Mae asiantaethau maethu’n cynnwys asiantaethau annibynnol sy'n darparu gwasanaeth asiantaeth faethu i awdurdodau lleol, a sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithredu yn eu rhinwedd eu hunain. Mae'r ddau fath o asiantaeth faethu’n recriwtio a hyfforddi rhieni maeth er mwyn lleoli plant gyda nhw.

Caiff asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol eu diffinio fel cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr yr Adoption Act 1976, sef sefydliad gwirfoddol. Caiff cymdeithas fabwysiadu ei diffinio yn y Ddeddf honno fel corff o bobl sydd â’r swyddogaeth o wneud trefniadau ar gyfer mabwysiadu, neu y mae eu swyddogaethau’n cynnwys hynny.

Mae gwasanaeth cymorth mabwysiadu yn wasanaeth sy'n darparu cwnsela, cyngor, cymorth a gwybodaeth mewn perthynas â mabwysiadu.

Mae adran 42 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu i ba bersonau y gall Rhan II o'r Ddeddf fod yn gymwys (yn ogystal â’r sefydliadau a’r asiantaethau hynny a restrir yn adrannau 2-4), gyda’r cyfryw addasiadau a bennir yn y rheoliadau hynny. Yr unig reoliadau sydd wedi’u gwneud o dan yr adran hon sy’n berthnasol i wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yw Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004.

Adran 2

Cofrestru

Mae Rhan II o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru a'r weithdrefn gofrestru. Rhaid i unrhyw berson sy'n rhedeg neu'n rheoli sefydliad neu asiantaeth o unrhyw fath fod wedi ei gofrestru, ac mae'n drosedd rhedeg neu reoli sefydliad o'r fath heb fod wedi cofrestru i wneud hynny ynddo. Mae hyn yn berthnasol i'r holl sefydliadau ac asiantaethau a reoleiddir o dan CSA 2000 ac eithrio Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol sy'n cael eu trin ar wahân (rhagor am hyn isod).

Mae’n rhaid i berson sydd am gael ei gofrestru o dan Ran II gyflwyno cais i gofrestru’n unol ag adran 12 a'r rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno: ar hyn o bryd Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (OS 919 (Cy.107)). Mae'n ofynnol bod gan bob sefydliad neu asiantaeth berchennog cofrestredig (person sy'n 'rhedeg' y busnes). Mae’r mathau o bobl sy'n gallu gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth cofrestredig i’w gweld yn y rheoliadau lleoliad-benodol sy'n berthnasol i'r gwahanol sefydliadau ac asiantaethau. Er enghraifft mae rheoliad 8(2) o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn gymwys mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref tra bod rheoliad 6(2) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 yn gymwys i gartrefi plant.

Mae adran 13 yn nodi'r prawf ar gyfer cymeradwyo neu wrthod cais a wneir o dan Ran II. Os yw'r awdurdod cofrestru, AGGCC, wedi'i fodloni bod y cais yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2000 ac unrhyw ddeddfiadau perthnasol eraill, ac y bydd yn parhau i gydymffurfio â hwy, mae’n rhaid iddo ganiatáu'r cais, fel arall mae'n rhaid iddo ei wrthod. Mewn unrhyw achos pan fo cais i gofrestru yn cael ei ganiatáu, mae’n rhaid i'r awdurdod cofrestru roi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd. Gall cofrestriad gael ei ganiatáu naill ai'n ddiamod neu gydag amodau, fel y gwêl yr awdurdod cofrestru yn dda. 

Os yw'r awdurdod cofrestru’n bwriadu gwrthod y cais i gofrestru, mae’n rhaid iddo roi hysbysiad o gynnig i wrthod y cais.

Yn ogystal â meddu ar bwerau i wrthod neu gymeradwyo ceisiadau, gall yr awdurdod cofrestru amrywio, dileu neu osod unrhyw amod ar gofrestriad person ar unrhyw adeg ar ôl cofrestriad cyntaf. Yn yr un modd gall person cofrestredig gymryd camau mewn perthynas â'u cofrestriad eu hunain a gallant wneud cais i amrywio neu ddileu unrhyw amodau sydd mewn grym mewn perthynas â'u cofrestriad, gallant ddiddymu eu cofrestriad yn wirfoddol neu ganslo neu amrywio cyfnod unrhyw atal dros dro.

 

Adran 3

Gorfodi

Mae gan Weinidogion Cymru nifer o bwerau gorfodi sifil y gellir eu crynhoi fel a ganlyn: -

  •  Gwrthod cofrestru - a.13
  •  Cymeradwyo cofrestru gydag amodau nas cytunwyd arnynt yn flaenorol - a.13 
  •  Amrywio, dileu neu osod amodau - adran 13(5)
  •  Canslo Cofrestriad - a.14
  •  Atal Cofrestriad dros dro – a. 14A
  •  Diddymu Cofrestriad fel mater brys - a.20A
  •  Atal dros dro, amrywio, dileu neu osod amodau fel mater brys - a.20B
  •  Cyfyngu ar letya mewn cartrefi plant neu ganolfannau preswyl i deuluoedd - a.22B

Ar gyfer unrhyw gamau gorfodi sifil a gymerir, mae gweithdrefnau statudol sydd yn darparu hawl i’r ceisydd neu’r person cofrestredig herio penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod cofrestru. 

Ar gyfer unrhyw gamau gorfodi nad ydynt yn rhai brys, mae'r broses sydd i'w dilyn i’w gweld yn adrannau 17-19 a 21 o CSA 2000. Mae'n rhaid i'r awdurdod cofrestru roi Rhybudd o Gynnig i'r ceisydd/person cofrestredig sy'n nodi'r camau gorfodi sy'n cael eu cymryd. Yna, mae gan y ceisydd/person cofrestredig yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad. Ar ôl derbyn sylwadau ysgrifenedig, cadarnhad ysgrifenedig gan y ceisydd/person cofrestredig na fydd unrhyw sylwadau’n cael eu cyflwyno, neu os oes cyfnod o 28 diwrnod wedi mynd heibio ers cyflwyno'r hysbysiad, a bod yr awdurdod cofrestru’n bwriadu mabwysiadu'r cynnig, mae’n rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r penderfyniad. Mae adran 21 yn darparu hawl i geisydd/person cofrestredig apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau a wneir o dan Ran II i'r tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae darpariaeth i alluogi'r awdurdod cofrestru i ddiddymu cofrestriad gwasanaeth gofal cymdeithasol ar frys. Mewn achosion o'r fath, nid oes rhaid cyhoeddi Rhybudd o Gynigion. Mae’n rhaid i gais am ganslo ar frys gael ei wneud i ynad heddwch. Os gwneir gorchymyn daw i rym ar unwaith ac mae'n rhaid i’r gwasanaeth y canslwyd ei gofrestriad roi'r gorau i weithredu. Mae’r hawl i apelio yn adran 21 yn berthnasol i benderfyniadau o'r fath.

Mae darpariaeth hefyd sy'n galluogi awdurdod cofrestru i atal cofrestriad ar frys dros dro, neu amrywio, gosod neu gael gwared ar amod ar frys. Y broses ar gyfer gwneud hyn yw cyhoeddi rhybudd o benderfyniad, a ddaw i rym ar unwaith. Unwaith eto, mae’r hawl i apelio yn adran 21 yn berthnasol i benderfyniadau o'r fath.

Mae adran 22B yn caniatáu i'r awdurdod cofrestru gyflwyno rhybudd yn cyfyngu ar letya plant mewn cartrefi plant a chanolfannau preswyl i deuluoedd. Mae'r penderfyniad yn dod i rym yn syth ar ôl cyflwyno'r hysbysiad ac mae adran 21 yn darparu’r unig hawl i apelio.

Adran 4

Gofynion mewn perthynas â sefydliadau ac asiantaethau

Mae adran 22 o CSA 2000 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru osod unrhyw ofynion a welant yn dda mewn perthynas â sefydliadau ac asiantaethau drwy reoliadau. Mae manylion ynghylch sut y dylai gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir weithredu wedi'u nodi i raddau helaeth yn y rheoliadau hyn. Mae rheoliadau ar wahân wedi’u gwneud mewn perthynas â phob un o'r mathau o wasanaeth gofal cymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o'r rheoliadau yn mabwysiadu'r un math o fformiwla gyda thuedd i bennu meini prawf ar gyfer addasrwydd darparwyr cofrestredig a rheolwyr cofrestredig. Maent yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i benodi person a elwir yn unigolyn cyfrifol neu "RI" yn achos cofrestriadau cyrff corfforaethol. Mae unigolion cyfrifol yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli’r sefydliad neu asiantaeth. Nid yw unigolion cyfrifol yn cael eu cofrestru yn eu rhinwedd eu hunain, ond mae gwiriadau addasrwydd ar yr unigolion cyfrifol yn rhan o wiriad addasrwydd y corff corfforaethol wrth gofrestru am y tro cyntaf. Mae’r rheoliadau’n gosod rhwymedigaethau hefyd ar bersonau cofrestredig mewn perthynas ag addasrwydd staff, addasrwydd safleoedd, iechyd a lles cyffredinol y defnyddwyr gwasanaethau, cadw cofnodion, sefyllfa ariannol, ac adolygu gofal a hysbysu’r awdurdod cofrestru am ddigwyddiadau dan amgylchiadau penodol.

Mae adran 23 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi datganiadau o'r safonau gofynnol cenedlaethol sy'n gymwys i sefydliadau neu asiantaethau. Dylai’r awdurdod cofrestru, y llysoedd a thribiwnlysoedd ystyried y safonau wrth wneud penderfyniadau o dan Ran II o CSA 2000. 

Adran 5

Swyddogaethau arolygu mewn perthynas â sefydliadau ac asiantaethau

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau arolygu amrywiol yng nghyswllt eu swyddogaeth fel awdurdod cofrestru mewn perthynas â phersonau sydd wedi cofrestru gyda nhw i redeg neu reoli sefydliad neu asiantaeth. Mae'r pwerau hynny yn adrannau 31 a 32 o CSA 2000. Maent yn cynnwys, er enghraifft, y pŵer i gael unrhyw wybodaeth gan unrhyw berson sy'n rhedeg neu reoli sefydliad neu asiantaeth, y mae Gweinidogion Cymru o'r farn sy'n angenrheidiol i’w chael ar gyfer ei swyddogaethau fel awdurdod cofrestru. Mae hefyd yn cynnwys pŵer i gael mynediad ac arolygu safleoedd o eiddo sefydliad neu asiantaeth, a'r pŵer i atafaelu a symud dogfennau a deunyddiau os gallant fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag amodau neu ofynion a roddwyd ar y darparwr gwasanaeth.
Adran 6

Troseddau

Mae'r Care Standards Act 2000 yn darparu hefyd ar gyfer troseddau amrywiol yn gysylltiedig â rhedeg neu reoli sefydliad neu asiantaeth. Maent fel a ganlyn: -

  •  Rhedeg neu reoli asiantaeth heb fod wedi cofrestru i wneud hynny – a. 11
  •  Peidio â chydymffurfio â'r amodau cofrestru heb esgus rhesymol – a. 24
  •  Rhedeg neu reoli sefydliad neu asiantaeth tra bo cofrestriad wedi’i atal dros dro - a.24A
  •  Torri rheoliadau a wneir o dan Ran II - a. 25
  •  Rhoi  disgrifiad ffug i sefydliad neu asiantaeth – a. 26
  •  Gwneud datganiadau ffug mewn ceisiadau cofrestru – a. 27
  •  Methu ag arddangos tystysgrif gofrestru - a.28
  •  Rhwystro pŵer rhag cael ei arfer yn fwriadol o dan adrannau 31 a 32 neu fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan yr adrannau hynny - a.31(9)

Dim ond troseddau diannod yw pob un o'r tramgwyddau o dan CSA 2000. Yn gyffredinol, dirwyon yw’r cosbau, nad ydynt yn uwch na lefel 4 neu lefel 5 ar y raddfa safonol. Yr unig drosedd a all mewn rhai amgylchiadau gynnwys carchar yw'r drosedd o redeg neu reoli asiantaeth heb fod wedi cofrestru i wneud hynny. 

Adran 7

Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Awdurdodau Lleol

Mae gwasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol yn cael eu harolygu gan yr awdurdod cofrestru, AGGCC, ond nid yw'n ofynnol iddynt fod wedi’u cofrestru, gan fod awdurdodau lleol yn cyflawni'r swyddogaethau hyn yn unol â dyletswyddau statudol o dan y Children Act 1989 a’r Adoption and Children Act 2002.

Mae’r safonau gofynnol Cenedlaethol sy'n berthnasol i sefydliadau ac asiantaethau yn berthnasol hefyd i awdurdodau lleol mewn perthynas â'u swyddogaethau mabwysiadu a maethu perthnasol. Mewn perthynas â’r ddarpariaeth hon mae Gweinidogion Cymru’n rheoleiddio swyddogaethau mabwysiadu perthnasol awdurdodau lleol.

Adran 8

Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol

Mae'r sefyllfa o ran cofrestru asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yn wahanol i'r hyn sy'n gymwys i bob sefydliad ac asiantaeth arall. Dywed adran 36A o'r Care Standards Act 2000 bod unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod cofrestru o dan Ran II o CSA 2000 yn arferadwy gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (CIECSS) pan fo prif swyddfa'r asiantaeth yn Lloegr, a chan Weinidogion Cymru pan fo'r brif swyddfa yng Nghymru. 

Effaith y ddarpariaeth hon yw na fydd yn dramgwydd o dan adran 11 o CSA 2000 i fethu â chofrestru cangen o asiantaeth fabwysiadu wirfoddol gyda'r awdurdod cofrestru, AGGCC, os yw’r brif swyddfa yn Lloegr ac wedi’i chofrestru gyda CIECSS. Dywed adran 36A(3), pan fo'r awdurdod cofrestru perthnasol yn arfer unrhyw swyddogaethau i osod, amrywio neu ddileu amodau cofrestru, rhaid iddo wneud hynny ar ôl ymgynghori â'r awdurdod cofrestru arall. Yn ogystal, os yw swyddogaethau o'r fath i gael eu harfer gan yr awdurdod cofrestru perthnasol mewn perthynas ag asiantaeth sydd â changen yn ardal yr awdurdod cofrestru arall, mae’n rhaid cael cytundeb yr awdurdod cofrestru arall cyn arfer y swyddogaeth.

Mewn perthynas ag unrhyw gamau gorfodi i'w cymryd, mae pob un o’r gweithdrefnau’n gymwys i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol fel ag y maent i wasanaethau gofal cymdeithasol eraill.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn