Glossary

 

A

Act of Parliament

An Act of Parliament is a law made by the UK Parliament. Proposals for new laws (called Bills) are debated by both the House of Lords and House of Commons. If both Houses of Parliament vote for the proposals then the Bill is ready to become an Act. A Bill can only become an Act of Parliament once it has been approved by the monarch, a process called Royal Assent.

Deddf Seneddol

Cyfraith sy’n cael ei gwneud gan Senedd y DU yw Deddf Seneddol. Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu trafod yn Nhy’r Arglwyddi a Thy’r Cyffredin. Os bydd dau dy’r Senedd DU yn pleidleisio o blaid y cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Seneddol, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol.

Act of the Senedd

The Senedd currently has the power to make laws in any matters that are not reserved to the UK Parliament by the Government of Wales Act 2006 (as amended by the Wales Act 2017). Proposals for new laws (called Bills) are presented to the Senedd. If the Senedd approves the proposals then the Bill is ready to become an Act. A Bill can only become an Act of the Senedd once it has been approved by the Monarch, a process called Royal Assent. Acts are often referred to as primary legislation.

Deddf Senedd Cymru

Ar hyn o bryd mae gan Senedd Cymru’r pŵer i wneud cyfreithiau mewn unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017). Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu cyflwyno gerbron y Senedd. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Senedd Cymru, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau yn aml fel deddfwriaeth sylfaenol.

Administrative law

Administrative law (sometimes referred to as ‘public law’) is the body of law which seeks to ensure that public bodies act within their powers and in a way which is lawful, reasonable and fair.   

Cyfraith weinyddol

Cyfraith weinyddol (y cyfeirir ati weithiau fel 'cyfraith gyhoeddus') yw'r corff o gyfraith sy'n ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn eu pwerau ac mewn ffordd sy'n gyfreithlon, yn rhesymol ac yn deg.

Affirmative procedure

The affirmative procedure provides that the Welsh Ministers cannot make subordinate legislation (e.g. a statutory instrument) unless the Senedd has passed a motion approving a draft of the subordinate legislation. This procedure is often reserved for more significant subordinate legislation.

Y weithdrefn gadarnhaol

Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu na all Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (er enghraifft, offeryn statudol) oni fydd y Senedd wedi pasio cynnig i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth fwy arwyddocaol.

Amendments (to a Bill)

Suggested changes to the text of a Bill which are proposed by Members (including those who are also Welsh Ministers). Amendments can be suggested at Stage Two, Stage Three and the Report Stage of the Senedd's legislative process, and Members can vote on whether they should be agreed or not.

Gwelliannau (i Fil)

Newidiadau a awgrymir i destun Bil a gynigir gan Aelodau’r Senedd (gan gynnwys y rheini sydd hefyd yn Weinidogion Cymru). Gellir awgrymu gwelliannu yn ystod Cyfnod Dau a Chyfnod Tri a'r Cyfnod Adrodd ym mhroses ddeddfu’r Senedd, a gall Aelodau’r Senedd bleidleisio i’w derbyn ai peidio.

Assembly

The title of the Welsh Parliament or Senedd Cymru when it was first established in 1999. It changed its name on 6 May 2020 to reflect its stature as a national parliament after receiving further powers, notably in the 2011 referendum (Wales).

Cynulliad

Teitl Senedd Cymru pan gafodd ei sefydlu yn gyntaf ym 1999. Newidiwyd ei enw ar 6 Mai 2020 i adlewyrchu ei statws fel senedd genedlaethol ar ôl derbyn pwerau pellach, yn fwyaf nodedig yn refferendwm (Cymru) 2011.

 

B

Ballots for Member proposed legislation

From time to time the Presiding Officer holds a ballot to determine the name of a Member who may seek agreement to introduce a Member Bill. The ballot must include the names of all Members who have applied to be included and who have tabled the required pre-ballot information. Members who are also Welsh Ministers may not enter the ballot. The ballots are conducted by the Table Office, and the result of the ballot is published on the Senedd website and announced by the Presiding Officer in Plenary.

Balot ar gyfer deddfwriaeth a gynigir gan Aelod

O bryd i’w gilydd, bydd y Llywydd yn cynnal balot i ddewis Aelod a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod. Rhaid i’r balot gynnwys enwau’r holl Aelodau sydd wedi gwneud cais i gael eu cynnwys neu sydd wedi cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen cyn cynnal balot. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Ysgrifenyddion y Cabinet neu'n Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn y balot. Y Swyddfa Gyflwyno sy’n gyfrifol am drefnu’r balot a bydd y canlyniad yn ymddangos ar wefan y Senedd ac yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.

Barnett formula

A non-statutory mechanism used by the UK Government to determine the amount of public expenditure to be allocated to Wales, Scotland and Northern Ireland. If new money is announced by the UK Government, the Barnett formula is applied to work out Wales’ share of that new money. It is for the Welsh Government to choose how to use that money, subject to the approval of Senedd Cymru.

Fformiwla Barnett

Mecanwaith anstatudol sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU i bennu faint o wariant cyhoeddus gaiff ei ddyrannu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os bydd arian newydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU, caiff fformiwla Barnett ei ddefnyddio i gyfrifo cyfran Cymru o'r arian newydd hwnnw. Mater i Lywodraeth Cymru yw dewis sut i ddefnyddio'r arian hwnnw, yn unol â chymeradwyaeth Senedd Cymru.

Bill

A Bill is a proposed law. If the Senedd approves the proposals then the Bill is ready to become an Act. A Bill can only become an Act of the Senedd once it has been approved by the Monarch, a process called Royal Assent. Acts are often referred to as primary legislation.

Bil

Cyfraith arfaethedig yw Bil. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Senedd Cymru, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau’n aml fel deddfwriaeth sylfaenol.

 

C

Cabinet

The Cabinet of the Welsh Government is made up of the First Minister, Ministers and the Counsel General to the Welsh Government.

Cabinet

Mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Carltona principle

The principle that civil servants may exercise most functions on behalf of a government minister without having those functions expressly delegated to them. The principle is derived from case law and covers the exercise of functions by Welsh Government civil servants on behalf of the First Minister, the Welsh Ministers and the Counsel General. 

Egwyddor Carltona 

Yr egwyddor sy'n golygu y gall gweision sifil ymarfer y rhan fwyaf o swyddogaethau ar ran gweinidogion y llywodraeth heb i'r swyddogaethau hynny gael eu dirprwyo'n benodol iddynt.  Mae'r egwyddor yn deillio o gyfraith achos ac mae'n cynnwys ymarfer swyddogaethau gan weision sifil Llywodraeth Cymru ar ran y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol.

Chief Executive and Clerk of the Senedd

The Clerk of the Senedd is also the Senedd Commission’s Chief Executive and is the person answerable for the effectiveness of the service. The Clerk is also the Principal Accounting Officer for the Commission. The accounting officer has responsibility for ensuring that tax payers’ money is spent in accordance with the law and with rules designed to ensure that it is spent appropriately and transparently.

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yw Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd hefyd ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod staff yn darparu gwasanaethau effeithlon i’r Comisiwn ac i’r Senedd. Y Clerc hefyd yw Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Comisiwn. Y swyddog cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario yn unol â’r gyfraith a rheolau a gynlluniwyd i wneud yn siŵr y caiff ei wario’n briodol ac mewn modd tryloyw.

Children’s Commissioner for Wales

The Children's Commissioner for Wales’s principal aim is to safeguard and promote the rights and welfare of children and young people in Wales. The Children’s Commissioner was established under Part V of the Care Standards Act 2000, which was amended by the Children’s Commissioner for Wales Act 2001

Comisiynydd Plant Cymru

Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cafodd y Comisiynydd Plant ei sefydlu dan Ran V y Deddf Safonau Gofal 2000, a gafodd ei ddiwygio gan y Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.

Civil servant

A person employed by a government department or agency.  The Welsh Ministers may appoint persons to be members of staff of the Welsh Government as part of the Home Civil Service. Welsh Government staff are a non-political administration that supports the Welsh Ministers, irrespective of the party that is in power. Civil servants are bound by a strict code of conduct which helps to ensure political neutrality, efficient administration, good governance and sound management of public funds.

Gwas sifil

Rhywun sy'n cael ei gyflogi gan adran neu asiantaeth y llywodraeth. Gall Gweinidogion Cymru benodi pobl i fod yn aelodau staff Llywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwasanaeth Sifil Cartref. Gweinyddiaeth anwleidyddol yw staff Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi Gweinidogion Cymru, waeth pa blaid sydd mewn grym. Mae gweision sifil yn cael eu rheoli gan god ymddygiad llym sy'n helpu i sicrhau niwtraliaeth wleidyddol, gweinyddiaeth effeithiol, llywodraethiant da a rheolaeth dda o arian cyhoeddus.

Commencement Orders

Commencement orders specify a date when primary legislation comes into force. They are a type of subordinate legislation that are not usually subject to any formal procedure in the Senedd and do not have to be laid before the Senedd. Commencement Orders can, at times, be Commencement Regulations, but they achieve the same thing.

Gorchmynion Cychwyn

Mae Gorchmynion Cychwyn yn nodi’r dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym. Mae'r gorchmynion hyn yn fath o is-ddeddfwriaeth nad ydynt, fel rheol, yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol yn y Senedd ac nad oes rhaid eu gosod gerbron y Senedd. Ar adegau, gall Gorchmynion Cychwyn fod ar ffurf Rheoliadau Cychwyn, ond maent yn cyflawni'r un diben.

Commission (Senedd)

The corporate body for Senedd Cymru, responsible for the provision of property, staff and services to support Members of the Senedd. The Commission is headed by five Commissioners: the Presiding Officer and four other Members nominated by the main political parties.

Comisiwn y Senedd

Corff corfforaethol Senedd Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Senedd. Mae pump o gomisiynwyr yn arwain y Comisiwn: y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol.

Community council

Community and town councils are the grassroots level of local governance in Wales. There are over 730 community and town councils throughout Wales. Some represent populations of fewer than 200 people, others populations of over 45,000 people. Their purpose is to improve the quality of life and environment for citizens in their area.

Cyngor cymuned

Cynghorau cymuned a thref yw lefel llawr gwlad llywodraethiant leol yng Nghymru. Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Mae rhai'n cynrychioli poblogaeth o lai na 200 o bobl, eraill yn cynrychioli dros 45,000 o bobl. Eu pwrpas yw gwella ansawdd bywyd a'r amgylchedd i ddinasyddion yn eu hardaloedd. 

Constitution

A constitution defines a state’s institutions of government and their powers. In most countries, laws which set out the constitution are superior to any other forms of law, whereas in the UK laws about the constitution are part of the ordinary law of the land. In addition to laws, the UK constitution also relies to a considerable degree on conventions and understandings about how the institutions of government should operate. Partly for this reason the constitution is also uncodified, meaning that while most of the laws related to the constitution are written down, they cannot be found conveniently written down all in one place. In relation to Wales, the Government of Wales Acts 1998 and 2006 are, in effect, Wales’ devolved constitution.

Cyfansoddiad


Mae cyfansoddiad yn diffinio sefydliadau llywodraeth gwladwriaeth a'u pwerau. Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae deddfau sy'n gosod allan y cyfansoddiad yn oruwch nag unrhyw fathau eraill o ddeddfau, ond yn y DU mae deddfau am y cyfansoddiad yn rhan o gyfraith arferol y wlad. Yn ogystal â deddfau, mae cyfansoddid y DU hefyd yn dibynnu i raddau helaeth ar gonfensiynau a dealltwriaeth ynghylch sut y dylai sefydliadau llywodraeth weithredu. Yn rhannol am y rheswm hwn, mae'r cyfansoddiad hefyd yn anysgrifenedig, sy'n golygu tra bod y rhan fwyaf o ddeddfau sy'n gysylltiedig â'r cyfansoddiad yn ysgrifenedig, nid oes modd eu canfod wedi eu hysgrifennu'n gyfleus gyda'i gilydd mewn un lle. Mewn perthynas â Chymru, y Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a 2006 yw cyfansoddiad datganoledig Cymru i bob pwrpas.

Counsel General

The Counsel General is a member of the Welsh Government, and its Law Officer, which means the Government’s chief legal adviser and representative in the courts. The Counsel General possesses certain statutory functions, including the power to refer Senedd bills to the Supreme Court for a determination regarding legislative competence.  

Cwnsler Cyffredinol

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cymru, ac mae'n Swyddog y Gyfraith iddi, sy'n golygu mai ef neu hi yw prif ymgynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth ac yn ei chynrychioli yn y llysoedd. Mae gan y Cwnsler Cyffredinol rai swyddogaethau statudol, yn cynnwys y pŵer i gyfeirio biliau'r Senedd Cymru i'r Goruchaf Lys am benderfyniad ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol. 

Courts

The courts are part of Her Majesty’s Courts and Tribunals Service. Wales and England fall within a single legal jurisdiction and share the same system of courts and tribunals. The courts carry out the administration of justice in civil, criminal, and administrative (public law) matters in accordance with the rule of law. The courts also interpret the law and many of the basic principles of UK law have arisen out of decisions of the courts rather than from legislation.

Llysoedd

Mae'r llysoedd yn rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Mae Cymru a Lloegr yn dod o fewn un awdurdodaeth gyfreithiol ac maent yn rhannu'r un system llysoedd a thribiwnlysoedd. Y llysoedd sy'n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder mewn materion sifil, troseddol a gweinyddol (cyfraith gyhoeddus) yn unol â rheolaeth y gyfraith. Mae'r llysoedd hefyd yn dehongli'r gyfraith ac mae llawer o egwyddorion sylfaenol cyfraith y DU wedi codi yn sgil penderfyniadau'r llysoedd yn hytrach nag yn sgil deddfwriaeth.

Crown

A legalistic reference to the ruling Monarch in her sovereign capacity, in which she holds supreme authority. The Crown is an important concept in the UK legal system, since historically all governmental power vested in the Crown. Despite Parliament’s sovereignty strictly speaking legal powers do still flow from the Crown. UK Government ministers are Ministers of the Crown, meaning that they exercise functions of the Crown. The Welsh Ministers are not Ministers of the Crown, but they nevertheless exercise their functions on behalf of the Crown. See also the glossary entry for ‘royal prerogative’.

Coron

Cyfeiriad deddfol at y Frenhines sy'n teyrnasu yn ei grym sofran, lle mae ganddi'r awdurdod goruchaf. Mae'r Goron yn gysyniad pwysig yn system gyfreithiol y DU: yn hanesyddol roedd pob pŵer llywodraethol wedi'i freinio yn y Goron. Er gwaethaf sofraniaeth y Senedd, a bod yn fanwl gywir mae pwerau cyfreithiol yn dal i ddod o'r Goron. Mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn Weinidogion y Goron, sy'n golygu eu bod yn ymarfer swyddogaethau'r Goron. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron, ond serch hynny maent yn ymarfer eu swyddogaethau ar ran y Goron. Gweler y cofnod ar gyfer 'uchelfraint frenhinol'.

 

D

Deputy Welsh Ministers

Deputy Welsh Ministers are appointed from among Members of the Senedd by the First Minister. Their key role is to assist the First Minister and the Welsh Ministers in carrying out their functions.

Dirprwy Weinidogion Cymru

Caiff Dirprwy Weinidogion Cymru eu penodi o blith Aelodau'r Senedd gan y Prif Weinidog. Eu prif rôl yw cynorthwyo'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru i gyflawni eu swyddogaethau.

Devolution

The process by which the power to pass legislation (legislative competence) has been granted to the three national legislatures within the United Kingdom (Senedd Cymru, the Scottish Parliament and the Northern Ireland Assembly), and executive functions have been transferred from the UK Government to the Welsh Ministers, Scottish Ministers and Northern Ireland Ministers or Departments.

Datganoli

Y broses sy'n golygu bod y pŵer i basio deddfwriaeth (cymhwysedd deddfwriaethol) wedi cael ei roi i'r tair deddfwrfa genedlaethol yn y Deyrnas Unedig (Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon), ac mae swyddogaethau gweithredol wedi cael eu trosglwyddo oddi wrth Lywodraeth y DU i Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Gweinidogion yr Alban neu i Adrannau. 

 

E

Education Acts

A defined term which encompasses a specified list of statutes relating to education law. The definition appears in section 578 of the Education Act 1996. This allows various other terms defined in the Education Act 1996 to be applied to all past and future Education Acts.

Deddfau Addysg

Term sy'n cwmpasu rhestr benodol o statudau sy'n ymwneud â chyfreithiau addysg. Mae'r diffiniad yn ymddangos yn adran 578 yr Deddf Addysg 1996.  Mae hyn yn caniatáu cymhwyso termau amrywiol eraill sy'n cael eu diffinio yn yr Deddf Addysg 1996 i bob Deddf Addysg o'r gorffennol ac yn y dyfodol.

European Convention on Human Rights (ECHR)

An international treaty to protect human rights and fundamental freedoms in Europe. The United Kingdom ratified the Convention in 1951 and it was incorporated directly into UK law by the Human Rights Act 1998.  

Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol 

Cytuniad rhyngwladol i warchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn Ewrop. Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig y Confensiwn ym 1951 a chafodd ei ymgorffori'n uniongyrchol i gyfraith y DU gan yr Deddf Hawliau Dynol 1998.

Executive

A term used to describe Government and distinguish it from the legislature, or parliament. In Wales the executive is the Welsh Government, and the legislature is Senedd Cymru. The executive formulates policy and implements legislation.

Gweithrediaeth

Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r Llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa, neu’r senedd. Yng Nghymru, y weithrediaeth yw Llywodraeth Cymru, a’r ddeddfwrfa yw Senedd Cymru. Mae’r weithrediaeth yn gwneud polisïau ac yn rhoi deddfwriaeth ar waith.  

Explanatory Memorandum

Each Bill presented to the Senedd must also be accompanied by an Explanatory Memorandum that sets out its policy objectives, details of any consultation already undertaken, estimates of the costs of implementing the Bill and any other relevant information.

Memorandwm Esboniadol

Rhaid paratoi Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â phob Bil a gyflwynir gerbron y Senedd. Yn y memorandwm esboniadol, nodir yr amcanion polisi, manylion unrhyw broses ymgynghori a gafwyd, amcangyfrif o’r gost o roi’r Bil ar waith ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

 

F

Fire and Rescue Authorities

The core functions of fire and rescue authorities are set out in the Fire and Rescue Services Act 2004 and include extinguishing fires, protecting life and property in the event of a fire, rescuing people in the event of road traffic accidents and promoting fire safety.  There are three fire and rescue authorities in Wales.  

Awdurdodau Tân ac Achub

Mae swyddogaethau craidd yr awdurdodau tân ac achub wedi eu gosod allan yn y Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004  ac maent yn cynnwys diffodd tanau, gwarchod bywyd ac eiddo mewn tanau, achub pobl mewn damweiniau traffig ar y ffordd a hyrwyddo diogelwch tân. Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru.

First Minister

The First Minister of Wales is the head of the Welsh Government and is appointed by the Monarch following nomination by Members of the Senedd.  

Prif Weinidog

Prif Weinidog Cymru yw pennaeth Llywodraeth Cymru a chaiff ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn dilyn ei enwebiad gan Aelodau'r Senedd.

First Tier Tribunal

See Tribunal.

Tribiwnlys Haen Gyntaf

Gweler Tribiwnlys.

Freedom of information

The laws on freedom of information place an obligation on public bodies, including the Welsh Government and other public authorities in Wales, to make certain information available on request. The purpose of these laws is to increase transparency and accountability in government and public affairs. There are, necessarily, various exemptions from having to disclose information, including where this is necessary in the interests of national security and where the information is held subject to an obligation of confidence. The laws in this area can be found in the Freedom of Information Act 2000, an Act which has given rise to the phrase ‘FOI request’.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r deddfau ar ryddid gwybodaeth yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, i wneud gwybodaeth benodol yn hysbys gael os bydd cais amdani. Pwrpas y deddfau hyn yw cynyddu tryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth a materion cyhoeddus. Mae, o anghenraid, amryw o eithriadau rhag gorfod datgelu gwybodaeth, yn cynnwys lle mae angen gwneud hyn er budd diogelwch cenedlaethol, a lle mae'r wybodaeth yn cael ei chadw yn amodol ar rwymedigaeth cyfrinachedd. Mae'r cyfreithiau yn y maes hwn ar gael yn y Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, deddf sydd wedi arwain at y dywediad 'Cais Rhyddid Gwybodaeth' neu ‘FOI request’ yn Saesneg.

Further education

Further education is generally provided in colleges to students who are over compulsory school age. Further education fills the gap between secondary education (usually provided in schools) and higher education (usually provided in universities). It encompasses various kinds of education and training, including vocational education and training.  

Addysg bellach

Ar y cyfan mae addysg bellach yn cael ei darparu mewn colegau i fyfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae addysg bellach yn llenwi'r bwlch rhwng addysg uwchradd (sydd fel arfer yn cael ei darparu mewn ysgolion) ac addysg uwch (sydd fel arfer yn cael ei darparu mewn prifysgolion). Mae'n cynnwys gwahanol fathau o addysg a hyfforddiant, yn cynnwys addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

 

G

Government of Wales Act 1998 (GoWA 1998)

The legislation which effected the first stage of devolved government in Wales. It established the National Assembly for Wales as an executive body with powers to make secondary legislation in certain subject areas. Most of GoWA 1998 was repealed on 3 May 2007 and replaced by the Government of Wales Act 2006

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (GoWA 1998)

Y ddeddfwriaeth a achosodd cam cyntaf llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Fe sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff gweithredol gyda phwerau i wneud deddfwriaeth eilradd mewn rhai meysydd pwnc. Cafodd y rhan fwyaf o GoWA 1998 ei dirymu ar 3 Mai 2007 a'i disodli gan y Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Government of Wales Act 2006 (GoWA 2006)

The legislation which transformed the National Assembly for Wales (now Senedd Cymru) into a legislature with full primary law making powers. It also created the Welsh Assembly Government (now renamed Welsh Government) as a distinct body responsible for exercising executive powers in Wales, held to account by Senedd Cymru

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006)

Y ddeddfwriaeth a drawsffurfiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (nawr Senedd Cymru) yn senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol llawn. Fe greoedd hefyd Lywodraeth Cynulliad Cymru (sydd wedi ei hailenwi'n Llywodraeth Cymru bellach) fel corff ar wahân yn gyfrifol am ymarfer pwerau gweithredol yng Nghymru, yn atebol i'r Senedd.

 

H

Higher education

The term ‘higher education’ is generally taken to mean education that leads to the award of a degree. The term can be broader than that, however, and also includes post-graduate courses, Higher National Diplomas and higher professional qualifications. A more comprehensive list of the types of courses usually included in the term ‘higher education’ is provided in Schedule 6 to the Education Reform Act 1988. 

Addysg uwch

Ar y cyfan, ystyr 'addysg uwch' yw addysg sy'n arwain at ddyfarnu gradd. Gall y term fod yn ehangach na hynny, fodd bynnag, ac mae hefyd yn cynnwys cyrsiau ôl-raddedig, Diplomas Cenedlaethol Uwch a chymwysterau proffesiynol uwch. Mae rhestr fwy cynhwysfawr o'r mathau o gyrsiau sy'n cael eu cynnwys fel arfer o fewn y term 'addysg uwch' i'w gweld yn Atodlen 6 yr Deddf Diwygio Addysg 1988.

Human Rights Act

The Human Rights Act 1998 incorporates the European Convention on Human Rights into United Kingdom law. This enables citizens of the UK to enforce their Convention rights directly in the UK courts, rather than by taking their case to the European Court of Human Rights. 

Deddf Hawliau Dynol

Mae'r Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ymgorffori'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn galluogi dinasyddion y DU i orfodi eu hawliau dan y Confensiwn yn uniongyrchol yn llysoedd y DU, yn hytrach na thrwy fynd â'u hachosion i Lys Hawliau Dynol Ewrop. 

 

J

Judicial review

An action for judicial review is a claim to review the lawfulness of an enactment, or a decision, action or failure to act in relation to the exercise of a public function. The judicial review process enables the courts to scrutinise the lawfulness of acts (and omissions) of public bodies. 

Adolygiad barnwrol

Mae achos adolygiad barnwrol yn gais i adolygu cyfreithlondeb deddfiad, penderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu mewn perthynas ag ymarfer swyddogaeth gyhoeddus. Mae proses adolygiad barnwrol yn galluogi'r llysoedd i graffu ar gyfreithlondeb gweithredoedd (ac esgeulustod) cyrff cyhoeddus.

Judiciary

A collective term for the judges, courts and tribunals of England and Wales. Under the doctrine of the separation of powers, the judiciary does not make statutory law (this is the responsibility of the legislature) or enforce law (this is the responsibility of the executive), but rather it interprets law and applies it to the facts of each case. The judiciary is also responsible for developing the common law of England and Wales as well as the principles of administrative law.

Barnwriaeth

Term torfol am farnwyr, llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. Dan athrawiaeth gwahanu pwerau, nid yw'r farnwriaeth yn gwneud cyfraith statudol (cyfrifoldeb y ddeddfwrfa yw hyn) nac yn gorfodi cyfraith (cyfrifoldeb y weithrediaeth yw hyn), ond yn hytrach mae'n dehongli’r gyfraith ac yn ei chymhwyso i ffeithiau pob achos. Mae'r farnwriaeth hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cyfraith gyffredin Cymru a Lloegr yn ogystal ag egwyddorion cyfraith weinyddol.

 

L

Landfill Disposals Tax

From 1 April 2018, Landfill Disposals Tax (LDT) replaced landfill tax in Wales. LDT is paid when waste is disposed of to landfill and is charged by weight. LDT is administered by the Welsh Revenue Authority and payable by landfill operators in Wales. LDT rates are set by the Welsh Ministers and approved by Senedd Cymru.

Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT)

Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT). Telir y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan gaiff gwastraff ei waredu mewn safleoedd tirlenwi. Mae’n cael ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff. Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'n daladwy gan weithredwyr tirlenwi yng Nghymru. Mae'r cyfraddau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Land Transaction Tax

On 1 April 2018, Land Transaction Tax (LTT) replaced Stamp Duty Land Tax in Wales. LTT is a tax paid on a residential / non-residential property or piece of land in Wales above a certain value. LTT is collected by the Welsh Revenue Authority. There are different LTT rates and bands for different types of property. The rates and bands for LTT are set by the Welsh Ministers and approved by Senedd Cymru.

Y Dreth Trafodiadau Tir (LTT)

Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT). Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn dreth yr ydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl / dibreswyl neu ddarn o dir yng Nghymru dros bris penodol. Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chasglu gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). O dan gyfundrefn y Dreth Trafodiadau Tir, mae cyfraddau a bandiau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Mae'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Laws

These are rules which are decided by a government, they tell people what can and cannot be done in a country. The laws made by Senedd Cymru are called Acts.

Cyfreithiau

Rheolau y bydd llywodraeth yn penderfynu arnynt yw’r rhain ac maent yn dweud beth y gellir ac na ellir ei wneud mewn gwlad. Caiff cyfreithiau y bydd y Senedd yn penderfynu arnynt eu galw’n Ddeddfau.

Legislation

General term for new laws and the process of making them.

Deddfwriaeth

Term cyffredinol am gyfreithiau newydd a’r broses o’u gwneud.

Legislative competence

Legislative competence defines whether a legislature has power to pass laws in relation to a particular matter. If Senedd Cymru passes a law which is outside its legislative competence, that law is not a valid law.  

Cymhwysedd deddfwriaethol

Mae cymhwysedd deddfwriaethol yn diffinio a oes gan ddeddfwriaeth y pŵer i basio deddfau mewn perthynas â mater penodol. Os bydd Senedd Cymru yn pasio deddf sydd y tu hwnt i'w gymhwysedd deddfwriaethol, nid yw'r ddeddf honno yn ddeddf ddilys.

Legislative competence order

An instrument which, if approved by the Senedd and both Houses of the UK Parliament, changes the legislative competence of Senedd Cymru.

Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol

Offeryn sydd, os caiff ei gymeradwyo gan Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU, yn newid cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Legislative Consent Memorandum (LCM)

Under Standing Order 29, a member of the Welsh Government must lay a memorandum (“a legislative consent memorandum” / “LCM”) in relation to any UK Bill that makes provision on a subject matter which is within or modifies the legislative competence of the Senedd. The Senedd’s consent is given by through a legislative consent motion.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM)

O dan Reol Sefydlog 29, rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol” / “LCM”) mewn perthynas â Biliau’r DU sy'n gwneud darpariaeth ar bwnc sydd o fewn, neu'n addasu, cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rhoddir cydsyniad y Senedd drwy gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Legislature

A law-making body where new laws are debated and agreed, often referred to as a parliament. It scrutinises the government’s decisions and holds the government to account. In Wales, the legislature is Senedd Cymru. The government is known as the executive.

Deddfwrfa

Corff deddfu lle caiff cyfreithiau newydd eu trafod a’u cytuno. Cyfeirir ato’n aml fel senedd. Mae’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Yng Nghymru, Senedd Cymru yw’r ddeddfwrfa. Caiff y llywodraeth ei galw’n weithrediaeth.

Llywydd

See Presiding Officer.

Llywydd

Gweler Presiding Officer (Llywydd).

Local authority

This is a reference to local government bodies, such as county councils and county borough councils. Local authorities have a wide range of governmental powers delegated to them, to be used for the governance of their area. This includes functions to improve well-being in their areas, powers to make byelaws and raising finance through non-domestic rates and council tax. They are often the named authority for specific statutory purposes, including the local education authority and the local planning authority.

Awdurdod lleol

Cyfeiriad yw hwn at gyrff llywodraeth leol, megis cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth eang o bwerau llywodraethu wedi eu dirprwyo iddynt, i'w defnyddio ar gyfer llywodraethu eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau i wella llesiant yn eu hardaloedd, pwerau i basio is-ddeddfau a chodi cyllid drwy ardrethi annomestig a threth y cyngor. Yn aml hwy yw'r awdurdod penodol at bwrpasau statudol penodol, yn cynnwys yr awdurdod addysg lleol a'r awdurdod cynllunio lleol.

 

M

Made affirmative procedure

The made affirmative procedure is usually only used in urgent cases. The timescales can vary but, typically, a statutory instrument of this type is made by the Welsh Ministers and comes into force almost immediately. However, the Senedd must approve the instrument (usually within 28 days) for it to remain law.

Gweithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’:

Fel rheol, dim ond mewn achosion brys y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Er y gall yr amserlenni dan sylw amrywio, fel rheol, mae offeryn statudol o'r math hwn yn cael ei wneud gan un o Weinidogion Cymru ac yn dod i rym bron ar unwaith. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r offeryn statudol (fel arfer o fewn 28 diwrnod) er mwyn i’r offeryn barhau i fod yn gyfraith.

Measures

During the Third Assembly (May 2007 – March 2011) the laws made by the Senedd were called Measures.

Mesurau

Yn ystod y Trydydd Cynulliad (Mai 2007 - Mawrth 2011), galwyd y cyfreithiau a wnaed gan Senedd Cymru yn Fesurau.

Members of the Senedd

Senedd Cymru is made up of 60 elected Members. 40 are chosen to represent individual constituencies and 20 are chosen to represent the five regions of Wales. Also referred to as MS(s).

Aelodau’r Senedd

Mae’r Senedd yn cynnwys 60 o Aelodau etholedig. Caiff 40 ohonynt eu dewis i gynrychioli etholaethau unigol a chaiff 20 eu dewis i gynrychioli’r pum rhanbarth yng Nghymru. Cyfeirir atynt hefyd fel ASau neu Aelodau.

Minister of the Crown

The holder of a ministerial office appointed by Her Majesty the Queen. Welsh Ministers are not Ministers of the Crown. Rather, they hold statutory office under the Government of Wales Act 2006, although they do carry out their functions ‘on behalf’ of the Crown (see section 57(2) of the Act).

Gweinidog y Goron

Deilydd swydd weinidogaethol wedi'i benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron. Yn hytrach, maent yn dal swydd statudol dan y Deddf Llywodraeth Cymru Act 2006, er eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau 'ar ran' y Goron (gweler adran 57(2) y Ddeddf).

Motion

A proposal made for the purpose of obtaining a decision from Senedd Cymru.

Cynnig

Caiff cynnig ei wneud er mwyn cael penderfyniad gan y Senedd.

 

N

National Assembly for Wales (the Assembly)

The title of Senedd Cymru (or Welsh Parliament) when it was first established in 1999. It changed its name on 6 May 2020 to reflect its stature as a national parliament after receiving further powers, notably in the 2011 referendum (Wales).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad)

Teitl Senedd Cymru pan gafodd ei sefydlu yn gyntaf ym 1999. Newidiwyd ei enw ar 6 Mai 2020 i adlewyrchu ei statws fel senedd genedlaethol ar ôl derbyn pwerau pellach, yn fwyaf nodedig yn refferendwm (Cymru) 2011.

National Park Authorities

A national park authority was established for each national park in Wales on 23 November 1995. The three national park authorities are: the Brecon Beacons National Park Authority, the Pembrokeshire Coast National Park Authority and the Snowdonia National Park Authority. A national park authority has various functions, powers and duties including pursuing the purposes of conserving and enhancing the natural beauty, wildlife and cultural heritage of an area and fostering the economic and social well-being of local communities within the national park.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Cafodd awdurdod parc cenedlaethol ei sefydlu ar gyfer pob parc cenedlaethol yng Nghymru ar 23 Tachwedd 1995. Y tri awdurdod parc cenedlaethol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gan awdurdod parc cenedlaethol amryw o swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau yn cynnwys mynd ar drywydd dibenion cadwraeth a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal a meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol.

Natural Resources Body for Wales

A Welsh Government sponsored body created by the Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012. It took over the work of the Countryside Council for Wales, Environment Agency Wales and the Forestry Commission Wales. Its purpose is to ensure that the natural resources of Wales are sustainably maintained, enhanced and used, now and in the future. It has adopted the name ‘Natural Resources Wales’.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru wedi ei greu gan y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Fe gymerodd waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Ei bwrpas yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy yn awr ac i'r dyfodol. Mae wedi mabwysiadu'r enw 'Cyfoeth Naturiol Cymru'.

Negative procedure

The negative procedure provides that after the Welsh Ministers have made a statutory instrument (SI) they must lay it before Senedd Cymru. Senedd Cymru then has a period of 40 days to object to the SI. If the Senedd objects, the negative SI is annulled, meaning that nothing further can be done under the SI.

Gweithdrefn negyddol

Mae’r weithdrefn negyddol yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud offeryn statudol, osod yr offeryn hwnnw gerbron Senedd Cymru. Yna, mae gan Senedd Cymru gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r offeryn statudol. Os yw'r Senedd yn gwrthwynebu’r offeryn, mae’r offeryn statudol negyddol hwnnw’n cael ei ddirymu, sy'n golygu na ellir gwneud dim byd pellach o dan yr offeryn statudol.

Non-ministerial government department

A UK government department which is not headed by a Minister of the Crown, and therefore not part of central government. Non-ministerial government departments tend to be more independent of Government and political influence compared to Ministerial departments. Many of them fulfil a regulatory or inspection function. Examples include the Charity Commission and Her Majesty’s Land Registry.

Adran Anweinidogol y Llywodraeth

Adran o lywodraeth y DU nad oes ganddi Weinidog y Goron yn bennaeth arni, ac felly nad yw'n rhan o lywodraeth ganolog. Mae adrannau anweinidogol y llywodraeth yn tueddu i fod yn fwy annibynnol o ddylanwad gwleidyddol a'r Llywodraeth o'u cymharu ag adrannau Gweinidogion. Mae llawer ohonynt yn cyflawni swyddogaeth reoleiddio neu archwilio. Mae enghreifftiau'n cynnwys y Comisiwn Elusennau a Chofrestrfa Tir ei Mawrhydi.

 

O

Older People's Commissioner for Wales

The Older People's Commissioner for Wales ensures that the interests of people aged 60 and over in Wales are safeguarded and promoted, and is a source of information, advocacy and support for those older people and their representatives. The Commissioner’s role and statutory powers are set out in the Commissioner for Older People (Wales) Act 2006 and The Commissioner for Older People in Wales Regulations 2007.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn sicrhau bod buddiannau pobl 60 oed a hŷn yng Nghymru yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo, ac mae'n ffynhonnell gwybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth i'r bobl hŷn yma a'u cynrychiolwyr. Mae rôl a phwerau statudol y Comisiynydd wedi eu nodi yn y Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.

 

P

Parliament

A group of elected politicians who debate and make laws.

Senedd

Grŵp o wleidyddion etholedig sy’n dadlau ac yn deddfu.

Parliamentary sovereignty

Parliamentary sovereignty is the cornerstone of the UK constitution. It makes Parliament the supreme legal authority in the UK, which can create or end any law. The courts cannot overrule its legislation and no Parliament can pass laws that future Parliaments cannot change.

Sofraniaeth y Senedd

Sofraniaeth y senedd yw conglfaen cyfansoddiad y DU. Mae'n gwneud y Senedd yn brif awdurdod cyfreithiol y DU, yn gallu creu neu ddiweddu unrhyw ddeddf. All y llysoedd ddim goruwchreoli ei ddeddfwriaeth ac ni all unrhyw Senedd basio deddfau na all unrhyw Senedd yn y dyfodol eu newid.

Partnership Council for Wales

The Partnership Council for Wales is intended to promote joint working and co-operation between the Welsh Government and local government.  Its key responsibilities are:

  • encouraging dialogue between the Welsh Ministers and local government on matters affecting local government in Wales, in accordance with sections 72 and 73 of the Government of Wales Act 2006; and
  • providing collective political accountability for action to improve the effectiveness and efficiency of public services.

Cyngor Partneriaeth Cymru

Bwriad Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ei brif gyfrifoldebau yw:

  • annog deialog rhwng Gweinidogion Cymru a llywodraeth leol ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag adrannau 72 a 73 o'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006; a
  • darparu atebolrwydd gwleidyddol torfol dros weithredu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus.

Plenary

This is the term used to describe the full meeting of all 60 Members in the Siambr (the main chamber of the Senedd building) to conduct business. Plenary meetings currently take place on Tuesday and Wednesday afternoons during term time.

Cyfarfod Llawn

Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfarfod llawn y 60 Aelod Senedd yn y Siambr (prif siambr y Senedd) i fwrw ymlaen â busnes y Senedd. Ar hyn o bryd, cynhelir Cyfarfodydd Llawn yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher yn ystod y tymor.

Police and Crime Commissioners

Under the Police Reform and Social Responsibility Act 2011, the functions of police and crime commissioners include:

  • securing an efficient and effective police for their area;
  • appointing the Chief Constable, holding them to account for running the police force, and if necessary dismissing them;
  • setting the police and crime objectives for their area; and
  • setting the police force budget and determining the precept (the funds for the police to be raised via council tax).

A police and crime commissioner is elected for each police area. There are four police areas in Wales, each with a police and crime commissioner: Dyfed Powys, Gwent, North Wales and South Wales.

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Dan y Bil Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae swyddogaethau comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynnwys:

  • sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon ar gyfer eu hardal;
  • penodi Prif Gwnstabl, eu dal i gyfrif am weinyddu'r heddlu, a'u diswyddo pe byddai angen;
  • gosod amcanion heddlu a throseddu ar gyfer eu hardal; a
  • gosod cyllideb yr heddlu a phennu'r praesept (yr arian ar gyfer yr heddlu i'w godi drwy’r dreth gyngor).

Caiff Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei ethol ar gyfer pob ardal heddlu. Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru, pob un â chomisiynydd heddlu a throseddu: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Presiding Officer

Senedd Cymru elects the Presiding Officer, and a Deputy Presiding Officer from among the Members of the Senedd. The role of the Presiding Officer is set out in Senedd Cymru’s standing orders. The functions of the Presiding Officer include chairing Plenary meetings, maintaining order, determining questions as to the interpretation or application of the standing orders and representing Senedd Cymru in exchanges with other bodies within and outside the United Kingdom. It is the equivalent of the Speaker of the House of Commons.

Llywydd

Mae Senedd Cymru yn ethol Llywydd, a Dirprwy Lywydd o blith Aelodau'r Senedd. Mae rôl y Llywydd wedi'i osod allan yn rheolau sefydlog Senedd Cymru. Mae swyddogaethau'r Llywydd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn, cynnal trefn, pennu'r cwestiynau ynghylch dehongli neu gymhwyso rheolau sefydlog a chynrychioli'r Senedd Cymru yn ei ymwneud â chyrff eraill o fewn a'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'n cyfateb i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.

Primary legislation

This refers to the laws passed by the UK Parliament in Westminster, the Scottish Parliament, the Northern Ireland Assembly and Senedd Cymru.

Deddfwriaeth sylfaenol

Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau a gaiff eu pasio gan Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Cymru.

Principal council

For the purpose of local government, Wales is divided into 22 county and county boroughs, or ‘principal areas’. In respect of each principal area there is a ‘county’ or ‘county borough’ council, also referred to as a ‘principal council’. 

Prif Gyngor

At ddibenion llywodraeth leol, mae Cymru wedi ei rhannu'n 22 sir a bwrdeistrefi sirol, neu 'brif ardaloedd'. Mewn perthynas â phob 'prif ardal' mae cyngor 'sir' neu 'fwrdeistref sirol', sydd hefyd yn cael eu galw'n 'brif gynghorau'.

Privy Council

The Privy Council is a formal body of advisers to the Queen as Monarch. Its membership mostly comprises senior politicians who are (or have been) members of either the House of Commons or the House of Lords or the devolved legislatures. The First Minister is a Privy Councillor and advises the Queen on matters relating to Wales. The Council formally advises the Sovereign on the exercise of the Royal Prerogative, and together (as the Queen-in-Council) they issue executive instruments known as Orders in Council. The Council also advises the Queen on the issuing of Royal Charters, which are used to grant special status to incorporated bodies, and city or borough status to local authorities. Certain judicial functions are also performed by the Queen-in-Council, although in practice the actual work of hearing and deciding upon cases is carried out exclusively by the Judicial Committee of the Privy Council.

Y Cyfrin Gyngor

Mae’r Cyfrin Gyngor yn gorff ffurfiol o gynghorwyr i’r Frenhines fel Monarch. Mae ei aelodaeth gan amlaf yn cynnwys uwch wleidyddion sydd yn (neu wedi bod) aelodau o Dy'r Cyffredin neu Dy'r Arglwyddi neu’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae’r Prif Weinidog yn Gynghorydd Cyfrin ac ef sy’n cynghori’r Frenhines ar faterion sy'n ymwneud â Chymru.Mae cyngor ffurfiol yn cynghori’r sofran ar arfer yr Uchelfraint Frenhinol, a gyda'i gilydd (fel y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor) maent yn cyhoeddi offerynnau gweithredol a elwir yn Orchmynion yn y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cyhoeddi’r sofran ar gyhoeddi Siarteri Brenhinol a ddefnyddir i roi statws arbennig i'r cyrff corfforedig, a statws dinas neu fwrdeistref i awdurdodau lleol. Cyflawnir rhai swyddogaethau barnwrol hefyd gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor, er yn yn ymarferol cyflawnir y gwaith o glywed a phenderfynu ar achosion yn gyfan gwbl gan Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor.

Public appointments

There are rules about the process which must be followed by Ministers (including the Welsh Ministers) when appointing persons to the boards of public bodies. The Commissioner for Public Appointments regulates these appointments with the aim of ensuring that they are made on merit after a fair, open and transparent process, and without bias or political influence. The Commissioner does not oversee the appointment of Civil Servants (this is the responsibility of the Civil Service Commission) or judicial appointments (this is the responsibility of the Judicial Appointments Commission).

Penodiadau cyhoeddus

Mae yna reolau am y broses y mae'n rhaid i Weinidogion (yn cynnwys Gweinidogion Cymru) ei dilyn wrth benodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus. Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn rheoleiddio'r penodiadau hyn gyda'r nod o sicrhau eu bod yn cael eu gwneud ar haeddiant yn dilyn proses deg, agored a thryloyw, a heb duedd na dylanwad gwleidyddol. Nid yw'r Comisiynydd yn goruchwylio penodi Gweision Sifil (cyfrifoldeb Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yw hyn) na phenodiadau barnwrol (cyfrifoldeb y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yw hyn).

 

R

Ram doctrine

The doctrine which holds that government ministers have a right to exercise any powers which the Crown has power to exercise, except where they are prevented by statute.  In other words, that they have all the powers of a natural person and therefore (unlike a statutory corporation such as a local authority) do not need to show they have a statutory power or authority for any action they may wish to take. The doctrine was asserted by the former First Parliamentary Counsel, Sir Greville Ram, in 1945. The Ram doctrine does not apply to the Welsh Ministers, who derive their power by statute.

Athrawiaeth Ram

Yr athrawiaeth sy'n dal fod gan weinidogion y llywodraeth hawl i ymarfer unrhyw bwerau y mae gan y Goron hawl i'w hymarfer, ar wahân i lle maent yn cael eu rhwystro drwy statud. Mewn geiriau eraill, fod ganddynt holl bwerau person naturiol ac felly (yn wahanol i gorfforaeth statudol megis awdurdod lleol) nid oes angen iddynt ddangos fod ganddynt bŵer neu awdurdod statudol dros unrhyw weithred y gallant fod eisiau ei chyflawni. Cafodd yr athroniaeth ei haeru gan y cyn Brif Gwnsler Seneddol, Syr Greville Ram, ym 1945. Nid yw athrawiaeth Ram yn berthnasol i Weinidogion Cymru, sy'n derbyn eu pŵer drwy statud.

Referendum

A vote in which an entire electorate is asked to vote on a particular proposal. A referendum typically asks a question of real significance to the UK’s constitution. The National Assembly for Wales was set up after a ‘yes’ vote in a referendum in 1997 as to whether the people of Wales wanted the creation of an assembly for Wales with devolved powers. A further referendum in 2011 extended the law making powers of Senedd Cymru (previously known as National Assembly for Wales).

Refferendwm

Pleidlais lle mae'r holl etholwyr yn cael eu gwahodd i bleidleisio ar gynnig penodol. Mae refferendwm yn nodweddiadol yn gofyn cwestiwn sydd â gwir arwyddocâd i gyfansoddiad y DU. Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu yn dilyn pleidlais ie mewn refferendwm ym 1997 i'r cwestiwn a oedd pobl Cymru am weld cynulliad i Gymru yn cael ei greu gyda phwerau datganoledig. Bu refferendwm pellach yn 2011 yn gyfrwng i ymestyn pwerau deddfu Senedd Cymru (a elwid gynt yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru).

Reserved matters

Acts of the Senedd must not relate to any reserved matter set out in Schedule 7A to the Government of Wales Act 2006 (as amended by the Wales Act 2017), such as modern slavery, electricity, road and rail transport, medicines.

Materion a gadwir yn ôl

Ni chaiff Deddfau’r Senedd ymwneud ag unrhyw fater a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A (megis caethwasiaeth fodern, trydan, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, meddyginiaethau) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).

Retained EU law

The body of law that arose from the United Kingdom’s membership of the European Union and which has been retained as domestic law following the United Kingdom exiting the European Union.

Cyfraith yr UE a ddargedwir

Y corff cyfreithiau a ddeilliodd o aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, ac a ddargedwir fel cyfraith ddomestig yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Royal Assent

A Bill can only become an Act once it has been approved by the Monarch. This is called Royal Assent and is the final stage in the legislative process. All Bills (both from Senedd Cymru and the UK Parliament) must receive Royal Assent in order to become law.

Cydsyniad Brenhinol

Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf, rhaid cael cymeradwyaeth y Frenhines. Cydsyniad Brenhinol yw hyn a dyma gam olaf y broses ddeddfu. Rhaid i bob Bil (a wneir gan Senedd Cymru neu Senedd y DU) gael cydsyniad brenhinol cyn y daw’n gyfraith.

Royal Charter

A formal document issued by the Monarch granting a right or power to an individual or a body corporate. The National Library of Wales is an example of a body established by Royal Charter.

Siarter Frenhinol

Dogfen ffurfiol sy'n cael ei chyhoeddi gan y Frenhines/Brenin yn caniatáu hawl neu bŵer i unigolyn neu i gorff corfforaethol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o gorff a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol

Royal prerogative

The Crown possesses various inherent common law powers and privileges collectively known as the Royal prerogative. They owe their existence to customary use and to judicial recognition. The prerogative includes some executive powers of great importance to the functioning of the State, such as making treaties, declaring war and peace and sending troops into armed conflict. A small number of prerogative powers are exercisable only by the Monarch or at her express personal command, but most are exercised indirectly by Ministers in the name of the Crown.

Uchelfraint frenhinol

Mae gan y Goron amryw o bwerau a breintiau cynhenid cyfraith gyffredin sy'n cael eu galw, gyda'i gilydd, yn uchelfraint Frenhinol. Mae eu bodolaeth yn ganlyniad i ddefnydd cyffredin a chydnabyddiaeth farnwrol. Mae'r uchelfraint yn cynnwys rhai pwerau gweithredol sy'n bwysig iawn i swyddogaeth y Wladwriaeth, megis ffurfio cytuniadau, cyhoeddi rhyfel a heddwch ac anfon lluoedd i sefyllfaoedd o wrthdaro milwrol. Mae nifer fach o bwerau uchelfraint yn rhai na all neb ond y Frenhines/Brenin eu hymarfer, neu drwy ei gorchymyn personol penodol ei hun, ond mae'r rhan fwyaf yn cael eu hymarfer yn anuniongyrchol gan Weinidogion yn enw'r Goron.

 

S

Secondary legislation

See subordinate legislation.

Deddfwriaeth eilradd 

Gweler Is-ddeddfwriaeth.

Secretary of State

There are a number of Secretaries of State: Secretary of State for Defence, Secretary of State for Wales, and so on. The secretarial duties are divided among a number of persons each presiding over a different government department. However, there is just one office of Secretary of State, and in law each Secretary of State is capable of performing the duties of all or any of the departments. Where legislation confers functions on the Secretary of State in relation to a matter which is devolved in relation to Wales, in most cases this function now resides with the Welsh Ministers.

Ysgrifennydd Gwladol

Ceir nifer o Ysgrifenyddion Gwladol: Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac ati. Mae dyletswyddau ysgrifenyddol yn cael eu rhannu ymhlith nifer o bersonau, pob un yn gyfrifol am wahanol adran o'r llywodraeth. Fodd bynnag, dim ond un swyddfa Ysgrifennydd Gwladol sy'n bodoli, ac o dan y gyfraith mae pob Ysgrifennydd Gwladol yn gallu cyflawni dyletswyddau pob un neu unrhyw un o'r adrannau. Lle mae deddfwriaeth yn gosod swyddogaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mater sydd wedi ei ddatganoli mewn perthynas â Chymru, yn y rhan fwyaf o achosion mae'r swyddogaeth bellach yn nwylo Gweinidogion Cymru.

Senedd Cymru

The Senedd (or Welsh Parliament) is made up of 60 Members from across Wales. They are elected by the people of Wales to represent them and their communities, make laws for Wales, agree Welsh taxes and to ensure the Welsh Government is doing its job properly.

Senedd Cymru (y Senedd)

Mae Senedd Cymru yn cynnwys 60 Aelod o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli nhw a’u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi Cymreig ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.

Sewel convention

Although it has given law making powers to the devolved legislatures in Wales, Scotland and Northern Ireland, Parliament maintains its sovereignty and so is still capable of legislating on any devolved matter itself.  The Sewel convention is the name given to the protocol that the UK Parliament will not normally legislate on a devolved matter without the consent of the devolved legislature concerned. Senedd Cymru gives its consent by passing a legislative consent motion (LCM). The convention is named after Lord Sewel, the former Parliamentary Under-Secretary for Scotland, who set out the principle during the passage of the Scotland Act 1998

Confensiwn Sewel

Er ei bod wedi rhoi pwerau deddfu i seneddau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Senedd y DU yn cadw ei sofraniaeth ac felly mae'n dal yn gallu deddfu ar unrhyw fater datganoledig ei hun. Confensiwn Sewel yw'r enw a roddir ar y protocol na fydd y Senedd fel arfer yn deddfu ar fater datganoledig heb gydsyniad y senedd ddatganoledig dan sylw. Bydd Senedd Cymru yn rhoi ei gydsyniad drwy basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol (LCM). Mae'r confensiwn wedi ei enwi ar ôl yr Arglwydd Sewel, cyn Is-Ysgrifennydd Seneddol dros yr Alban, a draethodd ar yr egwyddor yn ystod taith y Deddf yr Alban 1998.

Silk Commission

The Commission on Devolution in Wales which was chaired by Sir Paul Silk. The Commission considered how the scope of devolution might be changed to better serve the people of Wales. The Commission reported in two stages.  At the first stage, it made recommendations in relation to the funding arrangements for the Welsh Government and the devolution of certain taxes, and some of these recommendations were implemented by the Wales Act 2014. The second stage report set out recommendations for the devolution of further power to Wales.

Comisiwn Silk

Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a gafodd ei gadeirio gan Syr Paul Silk. Bu'r Comisiwn yn ystyried sut y gallai rhychwant datganoli gael ei newid er mwyn gwasanaethu pobl Cymru'n well. Adroddodd y Comisiwn mewn dau gam. Yn y cam cyntaf, gwnaeth argymhellion mewn perthynas â threfniadau cyllido ar gyfer Llywodraeth Cymru a datganoli rhai trethi a chafodd rhai o'r argymhellion eu gweithredu gan y Wales Act 2014. Nododd adroddiad cam dau argymhellion ar gyfer datganoli pwerau pellach i Gymru.

Standing orders

These are the written which govern Senedd proceedings. Any change to the standing orders requires a resolution of Senedd Cymru passed by at least a two-thirds majority (see section 31 of the Government of Wales Act 2006). The standing orders cover everything from the Members’ oaths to business in committee and plenary to the procedures for considering and passing Assembly Acts.

Rheolau Sefydlog

Dyma'r rheolau ysgrifenedig sy'n llywodraethu trafodion y Senedd. Mae unrhyw newid yn y rheolau sefydlog yn gofyn am benderfyniad gan Senedd Cymru, wedi'i basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair neu fwy. (gweler adran 31 o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae'r rheolau sefydlog yn cynnwys popeth o lwon Aelodau i fusnes mewn pwyllgorau a chyfarfodydd llawn i'r gweithdrefnau ar gyfer ystyried a phasio Deddfau'r Cynulliad.

Statutory instrument

A type of document containing subordinate legislation. Where a statute confers power on the Secretary of State or the Welsh Ministers to make, confirm or approve subordinate legislation, that power is usually expressed to be exercisable by statutory instrument. The Statutory Instruments Act 1946 contains rules about the procedure for making statutory instruments. There are different Senedd procedures for dealing with SIs, most commonly the negative and affirmative procedures.

Offeryn Statudol

Math o ddogfen sy'n cynnwys is-ddeddfwriaeth. Lle mae statud yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol neu i Weinidogion Cymru wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth, dywedir fel arfer fod y pŵer hwnnw'n cael ei ymarfer drwy offeryn statudol. Mae'r Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn cynnwys rheolau am y weithdrefn ar gyfer gwneud offerynnau statudol. Mae yna gwahanol weithdrefnau'r Senedd ar gyfer ymdrin ag Offerynnau Statudol, y gweithdrefnau negyddol a chadarnhaol yw fwyaf cyffredin.

Statutory Instrument Consent Memorandum (SICM)

Standing Order 30A requires that a member of the Welsh Government must lay a memorandum (a statutory instrument consent memorandum or SICM) in relation to a statutory instrument laid before the UK Parliament by UK Ministers which requires the consent of the Senedd because that statutory instrument amends primary legislation within the legislative competence of the Senedd.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM)

Mae Rheol Sefydlog 30A yn nodi bod yn rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (memorandwm cydsyniad offeryn statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol a osodir gerbron Senedd y DU gan Weinidogion y DU, os oes angen cydsyniad y Senedd ar yr offeryn statudol hwnnw yn sgil y ffaith ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Subordinate legislation

Legislation which is made pursuant to powers delegated by primary legislation (that is, an Act of the UK Parliament or a Senedd Act or Measure) or sub-delegated by another piece of subordinate legislation. There are a variety of names given to instruments of a legislative character made in the exercise of delegated powers, including Orders in Council, orders, regulations, rules, schemes, directions, byelaws and warrants.  Most subordinate legislation is made by means of a statutory instrument. Subordinate legislation is also referred to as secondary legislation or delegated legislation.

Is-ddeddfwriaeth

Deddfwriaeth sy'n cael ei gwneud yn unol â phwerau a ddirprwyir gan ddeddfwriaeth sylfaenol (hynny yw, Deddf Senedd y DU neu Ddeddf Senedd Cymru neu Fesur) neu ei his-ddirprwyo gan ddarn arall o is-ddeddfwriaeth. Mae amryw o enwau'n cael eu rhoi i offerynnau o natur ddeddfwriaethol sy'n cael eu gwneud wrth ymarfer pwerau datganoledig, yn cynnwys Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, gorchmynion, rheolaethau, rheolau, cynlluniau, cyfarwyddiadau, is-ddeddfau a gwarantau.  Mae'r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy gyfrwng offeryn statudol. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth hefyd fel deddfwriaeth eilradd neu ddeddfwriaeth ddirprwyedig.

Supreme Court

The Supreme Court is the highest court in the United Kingdom. It hears appeals on arguable points of law of the greatest public importance, for the whole of the United Kingdom in civil cases, and for England, Wales and Northern Ireland in criminal cases. The Supreme Court also decides issues about whether the devolved executive and legislative authorities in Scotland, Wales and Northern Ireland have acted or propose to act within their powers or have failed to comply with any other duty imposed on them.

Y Goruchaf Lys

Y Goruchaf Lys yw'r llys uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n gwrando ar apeliadau ar bwyntiau dadleuol o'r gyfraith sydd o'r pwys cyhoeddus mwyaf, ar gyfer holl achosion sifil y Deyrnas Unedig ac mewn achosion troseddol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r Goruchaf Lys hefyd yn penderfynu materion ynghylch a yw'r awdurdodau gweithredol a deddfwriaethol datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu o fewn eu pwerau neu wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd arall a osodwyd arnynt.

 

T

Transfer of functions orders

Orders in Council made by Her Majesty the Queen for the purpose of transferring executive functions. In relation to Wales this involves transferring functions from the Secretary of State for Wales to the National Assembly for Wales (during the first phase of devolution in Wales) or to the Welsh Ministers, First Minister or the Counsel General (following implementation of the Government of Wales Act 2006). The principal transfer of functions order is the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999. The functions conferred by that Order on the (then) National Assembly were transferred on to the Welsh Ministers following implementation of the Government of Wales Act 2006.

Gorchmynion trosglwyddo swyddogaethau

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed gan Ei Mawrhydi y Frenhines er mwyn trosglwyddo swyddogaethau gweithredol. Mewn perthynas â Chymru mae hyn yn golygu trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn ystod cam cyntaf datganoli yng Nghymru) neu i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol (yn dilyn gweithredu'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Y prif orchymyn trosglwyddo swyddogaethau yw'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) drwy'r Gorchymyn hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn dilyn gweithredu'r Government of Wales Act 2006.

Treaty on the Functioning of the European Union (TFEU)

The treaty which sets out the organisational and functional structure of the European Union. It was formerly known as the EC Treaty, the Treaty of Rome and the Treaty establishing the European Community.

Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU)

Y cytuniad sy'n gosod allan strwythur sefydliadol a swyddogaethol yr Undeb Ewropeaidd. Arferai gael ei alw’n Gytuniad y CE, Cytuniad Rhufain a'r Cytuniad i sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.

Tribunal

A person or institution with the authority to judge, adjudicate on, or determine claims or disputes. In the UK, the tribunals system comprises a variety of tribunals in different subject areas, organised into the First Tier Tribunal and the Upper Tribunal (to which appeals can be made from the First Tier Tribunal).

Tribiwnlys

Person neu sefydliad sydd â'r awdurdod i farnu, dyfarnu neu benderfynu ar hawliau neu anghydfodau. Yn y DU, mae system y tribiwnlysoedd yn cynnwys amrywiaeth o dribiwnlysoedd mewn gwahanol feysydd pwnc, wedi eu trefnu yn Dribiwnlys Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys  (y gall apeliadau gael eu cyfeirio ato o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf).

 

U

Ultra vires

In the public law context, this term describes something done by a public body which is not within the scope of the powers given to it.

Ultra vires

Yng nghyd-destun y gyfraith gyhoeddus, mae'r term hwn yn disgrifio rhywbeth sy'n cael ei wneud gan gorff cyhoeddus nad yw o fewn rhychwant y pwerau a ymddiriedwyd iddo.

United Nations Convention on the Rights of the Child

An international treaty that recognises the human rights of children, defined as persons up to the age of 18 years. Nations that ratify the Convention are bound to it by international law. Compliance is monitored by the UN Committee on the Rights of the Child, which is composed of members from countries around the world. In Wales, the Welsh Ministers are under a duty to have regard to the core provisions in Part 1 of the Convention (and certain provisions from within the optional protocols to the Convention) when exercising their functions (see section 2 of the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011). The Measure empowers the Welsh Ministers to make an order applying the Measure to young persons too (persons who have attained the age of 18 but not 25), although this power has not been exercised to date.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 

Cytuniad rhyngwladol sy'n cydnabod hawliau dynol plant, sy'n cael eu diffinio fel personau hyd at 18 mlwydd oed. Mae gwledydd sy'n cadarnhau'r Confensiwn yn cael ei rwymo iddo gan gyfraith ryngwladol. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n cynnwys aelodau o wledydd ar draws y byd, yn monitro cydymffurfiaeth. Yng Nghymru, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i barchu darpariaethau craidd Rhan 1 y Confensiwn (a rhai darpariaethau o fewn protocolau dewisol y Confensiwn) wrth ymarfer eu swyddogaethau (gweler adran 2 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011). Mae'r mesur yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i gymhwyso'r Mesur i bobl ifanc (pobl sydd wedi troi'n 18 ond sydd o dan 25), er nad yw'r pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn.

Upper Tribunal

See Tribunal.

Uwch Dribiwnlys

Gweler Tribiwnlys

 

W

Wales Act 2014

The Wales Act 2014 amends the Government of Wales Act 2006, making changes to the devolved constitution in Wales. Amongst other things, it had added limited tax raising powers to the legislative competence of the National Assembly and, when fully implemented, will give the Welsh Ministers wider borrowing powers.

Deddf Cymru 2014

Mae'r Deddf Cymru 2014 yn diwygio'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan wneud newidiadau i'r cyfansoddiad datganoledig yng Nghymru. Ymysg pethau eraill, mae wedi ychwanegu pwerau cyfyngedig i godi trethi i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a phan gaiff ei weithredu'n llawn bydd yn rhoi pwerau benthyg ehangach i Weinidogion Cymru.

Welsh consolidated fund

The consolidated fund is the UK Government’s central bank account. The proceeds of taxation and other government receipts are paid into the consolidated fund and used to fund public expenditure. In Wales, the equivalent central bank account is the Welsh consolidated fund. All monies received by the Welsh Ministers, First Minister or Counsel General, the Wales Audit Office, the Public Services Ombudsman for Wales and the Senedd Commission are paid into the Welsh Consolidated Fund, and used to fund public services in Wales.

Cronfa Gyfunol Cymru

Cyfrif banc canolog Llywodraeth y DU yw'r gronfa gyfunol. Caiff derbyniadau trethu a derbyniadau eraill y llywodraeth eu talu i mewn i'r gronfa gyfunol a'u defnyddio i ariannu gwariant cyhoeddus.Yng Nghymru, y cyfrif banc canolog cyfatebol yw cronfa gyfunol Cymru. Caiff yr holl arian a delir i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol, Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn y Senedd eu talu i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru, a'u defnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Welsh Church Acts

This term refers, collectively, to the Welsh Church Act 1914, the Welsh Church (Temporalities) Act 1919 and the Welsh Church (Burial Grounds) Act 1945. They form part of the statute law applicable to the disestablished Church in Wales.

Deddfau Eglwysi Cymru

Mae'r term hwn yn cyfeirio at y Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, y Deddf yr Eglwys Gymreig (Natur Dymherus) 1919 a'r Deddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945 gyda'i gilydd. Maent yn ffurfio rhan o'r gyfraith statud sy'n berthnasol i'r Eglwys yng Nghymru ddatgysylltiedig.

Welsh Government (Welsh Assembly Government)

The Welsh Government is the devolved government for Wales. It comprises the First Minister of Wales, the Welsh Ministers, the Counsel General and staff. Formerly known as the ‘Welsh Assembly Government’, it was renamed the ‘Welsh Government’ in practice in 2011 and in law by the Wales Act 2014.

Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'n cynnwys Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a staff. Yr enw blaenorol oedd 'Llywodraeth Cynulliad Cymru'; cafodd ei hailenwi'n 'Llywodraeth Cymru' yn ymarferol yn 2011 ac yn gyfreithiol yn y Deddf Cymru 2014.

Welsh Government sponsored bodies

Public bodies directly funded by the Welsh Government but which are not part of the Welsh Government. They have legal powers vested in them and enjoy varying degrees of operational independence from the Welsh Government. The government functions they perform may be administrative, regulatory, commercial, advisory or involve the settling of disputes. There are currently nine Welsh Government sponsored bodies, including Natural Resources Wales, the Care Council for Wales and the Higher Education Funding Council.

Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Cyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ond heb fod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol a roddwyd iddynt ac maent yn mwynhau annibyniaeth weithredol i raddau amrywiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae swyddogaethau'r llywodraeth sy'n cael eu cyflawni ganddynt yn gallu bod yn weinyddol, yn rheoleiddiol, yn fasnachol, yn ymgynghorol neu gallant olygu datrys anghydfodau. Ar hyn o bryd mae naw corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch.

Welsh language functions

The Welsh Ministers have the power to do everything they consider appropriate to support the Welsh language (see section 61 of the Government of Wales Act 2006). They are required to adopt a Welsh language strategy to promote and facilitate the use of the Welsh Language. They are also required to adopt a Welsh language scheme for ensuring that the English and Welsh languages have equal status in the conduct of public business in Wales (section 78 of the Act). The Welsh language is a devolved matter for which Senedd Cymru may pass laws. The Welsh Language (Wales) Measure 2011, amongst other things, establishes a Welsh Language Commissioner responsible for promoting and facilitating the use of the Welsh language.

Swyddogaethau'r Gymraeg

Mae gan Weinidogion Cymru'r pŵer i wneud popeth yr ystyriant yn briodol i gefnogi'r Gymraeg (gweler adran 61 y Deddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae gofyn iddynt fabwysiadu strategaeth iaith Gymraeg i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae gofyn iddynt hefyd fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg i sicrhau bod gan y Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru (adran 78 y Ddeddf). Mae'r Gymraeg yn fater datganoledig Senedd Cymru ddeddfu arno. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ymysg pethau eraill, yn sefydlu Comisiynydd y Gymraeg sy'n gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Welsh Ministers

The Welsh Ministers, the First Minister, the Deputy Welsh Ministers and the Counsel General together make up the membership of the Welsh Government. The Welsh Ministers are appointed by the First Minister under section 48 of the Government of Wales Act 2006.  

Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol gyda'i gilydd sy'n ffurfio aelodaeth Llywodraeth Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru eu penodi gan y Prif Weinidog dan adran 48 y Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Welsh Revenue Authority

The Welsh Revenue Authority was set up to collect Welsh devolved taxes. Since 1 April 2018, the Authority has administered Land Transaction Tax and Landfill Disposals Tax.

Awdurdod Cyllid Cymru

Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru at ddibenion casglu trethi datganoledig yng Nghymru. Ers 1 Ebrill 2018, mae'r Awdurdod wedi bod yn gyfrifol am weinyddu’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT).

Welsh Taxes

On 1 April 2018, taxes relating only to Wales began to be collected for the first time in over 800 years:

•    Land Transaction Tax (LTT) replaced Stamp Duty Land Tax in Wales.
•    Landfill Disposals Tax (LDT) replaced landfill tax in Wales.

From 6 April 2019, people with a main residence in Wales and who pay Income Tax pay Welsh Rates of Income Tax (WRIT).

Trethi Cymru

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd trethi sy’n berthnasol i Gymru yn unig eu casglu am y tro cyntaf mewn dros 800 mlynedd:

  • Disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT).
  • Disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT).

Ers 6 Ebrill 2019, mae pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy'n talu treth incwm, wedi bod yn talu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT).

West Lothian question

The question asked by Tam Dalyell, MP for West Lothian, in the following terms in 1977: 

“For how long will English constituencies and English Honourable members tolerate at least 119 Honourable Members from Scotland, Wales and Northern Ireland exercising an important, and probably often decisive, effect on British politics while they themselves have no say in the same matters in Scotland, Wales and Northern Ireland?” 

This question of the extent of participation by Scottish, Welsh and Northern Irish MPs in the UK Parliament after devolution is a live issue in the present day debate on the future of devolution in the UK.

Cwestiwn Gorllewin Lothian

Y cwestiwn a gafodd ei ofyn gan Tan Dalyell, AS Gorllewin Lothian, ym 1977:

"Am ba hyd fydd etholaethau yn Lloegr ac aelodau Anrhydeddus Seisnig yn goddef o leiaf 119 o Aelodau Anrhydeddus o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael effaith bwysig, ac yn aml un dyngedfennol,  ar wleidyddiaeth Prydain a hwythau heb unrhyw lais ar yr un materion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon?"  

Mae'r cwestiwn ynghylch maint cyfranogiad ASau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU ar ôl datganoli yn bwnc llosg yn y ddadl heddiw ar ddyfodol datganoli yn y DU.